Rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth | Cymru
Mewngofnodi
Chwaraewch Ran

Rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth

Right

Hero box

Y rhaglen flaenllaw ar gyfer cyflogwyr er mwyn sicrhau bod pob aelod o staff LHDT yn cael eu derbyn yn ddieithriad yn y gweithle.

Rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth

Fel elusen fwyaf Ewrop ar gyfer pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws (LHDT), rydyn ni'n gwybod bod pobl yn perfformio'n well pan fyddan nhw'n gallu bod yn nhw eu hunain.

Mae Hyrwyddwyr Amrywiaeth yn rhaglen flaenllaw ar gyfer cyflogwyr er mwyn sicrhau bod staff LHDT yn cael eu derbyn yn ddieithriad yn y gwaith.

Rydyn ni'n gweithio gyda thros 750 o sefydliadau, ac mae pob un ohonyn nhw'n rhannu ein cred bod cael gweithle sy'n gwbl gydradd yn rhywbeth grymus. Drwyddyn nhw, rydyn ni wedi llwyddo i greu amgylcheddau sy'n gynhwysol ac sy'n derbyn pobl, a hynny ar gyfer bron i chwarter y gweithlu yng ngwledydd Prydain.

Aelodau

Porwch aelodau yn eich sector a'ch rhanbarth

Prif fanteision

Beth sydd gan ein haelodau i'w ddweud

Left column

Staff with rainbow flag © London Ambulance Service

Right column

GWASANAETH AMBIWLANS LLUNDAIN

Quote wrapper

Mae cael mynediad at y fath gyfoeth o gefnogaeth a gwaith ymchwil, a gallu meincnodi ein hunain yn erbyn y cyflogwyr gorau... yn ein galluogi ni i sicrhau bod ein gwasanaethau o safon fyd-eang.
Jason Killens, Cyfarwyddwr Gweithrediadau

PAM BOD YN HYRWYDDWR AMRYWIAETH?

Sicrhau bod pobl LHDT yn cael eu cynnwys yn eich gweithle

Mae'r cyflogwyr mwyaf cynhwysol yn datblygu polisïau ac arferion strwythuredig a systematig. Maen nhw'n sicrhau bod pobl LHDT yn cael eu cynnwys ledled yr holl sefydliad.

Fel Hyrwyddwr Amrywiaeth, byddwn yn eich helpu i gynnwys pobl LHDT:

 

  • Drwy eich cefnogi i ddod yn rhan o Fynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Prydain a'r Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Byd-eang. Bydd yr adnoddau hyn yn nodi gwaith da gennych a meysydd lle gallwch wella.
  • Drwy ddarparu cymorth sydd wedi'i deilwra dros e-bost a thros y ffôn drwy reolwr cyfrif penodedig.



Drwy ddenu a chadw'r talent gorau

Mae gweithlu amrywiol yn creu amrywiaeth o ran meddwl, gweithredu ac arloesi. Ond, mewn marchnad gystadleuol, mae angen i'ch gweithle a'ch diwylliant fod yn apelgar i bobl sy'n chwilio am waith.

Fel Hyrwyddwr Amrywiaeth, byddwn yn eich helpu i ddenu a recriwtio'r talent LHDT gorau:

 

  • Drwy roi copi o'r logo Hyrwyddwr Amrywiaeth i chi ei ddefnyddio ar ddeunyddiau hyrwyddo.
  • Drwy hysbysebu pum swydd am ddim ar wefan Cyflogwyr Balch, sef ein safle swyddi LHDT-gynhwysol unigryw.
  • Drwy eich rhestru ar unig wefan canllaw gyrfaoedd LHDT gwledydd Prydain, Starting Out.

 

Adeiladu eich rhwydwaith proffesiynol

Drwy ddod yn Hyrwyddwr Amrywiaeth byddwch yn ymuno â chymuned o dros 750 o gyflogwyr. Mae cydweithio a dysgu oddi wrth eich cyfoedion yn eich cadw ar flaen y gad o ran ymarfer.

Fel Hyrwyddwr Amrywiaeth, byddwn yn eich helpu i adeiladu eich rhwydwaith proffesiynol:

  • Drwy roi mynediad i'n cyfres flynyddol o seminarau a gweminarau. Mae'r pynciau'n amrywio o arferion gorau'r Mynegai i symudedd byd-eang.

  • Drwy gael cyfraddau gostyngol i'n cynadleddau Gweithle lle gallwch gysylltu â channoedd o gydweithwyr mewn sectorau gwahanol.

  • Drwy hwyluso cyflwyniadau i sefydliadau eraill drwy eich rheolwr cyfrif penodedig.

Drwy ddysgu o'n harbenigedd

Rydyn ni wedi bod yn cynnal y rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth ers 2001. Mae gweithio dros y blynyddoedd gyda chyflogwyr yng ngwledydd Prydain ac yn fyd-eang wedi bod yn sail i'n gwybodaeth a'n harbenigedd. Gwybodaeth ac arbenigedd y gallwch ymddiried ynddynt.

Fel Hyrwyddwr Amrywiaeth, byddwch yn dysgu o'n harbenigedd:

 

  • Drwy gael mynediad i'n hadnoddau. Mae'r rhain yn rhoi arweiniad cam wrth gam i chi ar wahanol feysydd o gynhwysiant LHDT. O bolisïau cynhwysol i uwch arweinyddiaeth, mae ein hadnoddau yn ehangu bob amser.
  • Drwy gael ein tîm mewnol o arbenigwyr i adolygu eich polisïau ar gyfer cynhwysiant LHDT.
  • Drwy gael cyfraddau gostyngol ar gyfer ein rhaglenni Grymuso fel bod modd i'ch staff fod yn gynghreiriaid ac yn fodelau rôl yn eich gweithle.

SUT I GYMRYD RHAN

powered by Typeform