Astudiaeth Achos

Gallwch chi helpi efo ein ymgyrchoedd ac gwaith cyfryngau?

Mae Stonewall Cymru yn chwilio am straeon a phrofiadau pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol er mwyn ysbrydoli ein gwaith ymgyrchu a lobïo. Os ydych wedi dioddef camwahaniaethu neu os oes gennych brofiad arall a fyddai yn ddefnyddiol i'n gwaith, hoffem gadw cofnod o'ch stori. Yn achlysurol iawn, a gyda'ch caniatâd yn unig, gallwn gynnig eich stori i'r cyfryngau er mwyn tynnu sylw at y materion y mae cymunedau LHD yn eu hwynebu.

Mae Stonewall Cymru hefyd yn derbyn nifer o ymholiadau gan y cyfryngau yn gofyn am bobl lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol i siarad am eu profiadau cadarnhaol.  Rydym yn ceisio hyrwyddo enghreifftiau cadarnhaol o lesbiaid, dynion hoyw a phobl ddeurywiol er mwyn herio rhagdybiaethau negyddol. Os oes gennych ddiddordeb mewn herio'r rhagdybiaethau negyddol hyn o lesbiaid, dynion hoyw a phobl ddeurywiol, llenwch y ffurflen astudiaeth achos hon gan nodi pa fath o waith yr ydych yn hapus i'w wneud gyda'r cyfryngau.

Mae nifer o feysydd lle mae angen eich cymorth arnom:

Magu Plant - Rhieni lesbiaidd a hoyw, naill ai rhieni biolegol neu rieni an-fiolegol sydd wedi cael plant drwy fabwysiadu neu faethu.

Addysg - Pobl ifanc sydd wedi wynebu homoffobia ym myd addysg yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gan gynnwys y rhai sydd â phrofiad cadarnhaol o'r ffordd y deliwyd â'r peth gan yr ysgol/coleg.

Addysg - Athrawon neu staff addysg sydd wedi gweld homoffobia yn erbyn myfyrwyr neu staff, gan gynnwys y rhai sydd â phrofiad cadarnhaol o'r ffordd y deliwyd â'r digwyddiadau gan yr ysgol/coleg.

Cyflogaeth - Pobl sydd wedi dod ar draws camwahaniaethu, bwlio neu aflonyddu mewn cyflogaeth yn sgil eu rhywioldeb neu ragdybiaeth o'u rhywioldeb.

Iechyd Lesbiaidd - Menywod lesbiaidd a deurywiol sydd wedi cael profiadau cadarnhaol neu negyddol o ofal iechyd yn y DG o achos eu rhywioldeb.

Tai - Pobl sydd wedi wynebu problemau tai o achos eu rhywioldeb.

Troseddau Casineb - Pobl sydd wedi profi troseddau casineb homoffobaidd.

Annog Casineb - Pobl sydd wedi wynebu galwadau, naill ai ar lafar neu mewn cyhoeddiadau, am ymosodiadau ar lafar neu yn gorfforol yn erbyn pobl hoyw.

Nwyddau a Gwasanaethau - Pobl sydd wedi profi camwahaniaethu yn y DG wrth ddarparu nwyddau a gwasanaethau o achos eu rhywioldeb neu ragdybiaeth o'u rhywioldeb, e.e. gwrthod ystafell mewn gwesty neu eu gwrthod mewn tafarn neu far.

Partneriaethau Sifil - Pobl sy'n bwriadu cael partneriaeth sifil yn y dyfodol agos.

Cyffredinol - Pobl sy'n barod i siarad am eu profiadau, cadarnhaol neu negyddol, o fod yn hoyw, lesbiaidd neu ddeurywiol ac a hoffai gael eu hystyried ar gyfer eu cynnwys mewn straeon cyffredinol yn y cyfryngau yn y dyfodol.

Os ydych yn bodlon helpu o fewn unrhyw un o’r ardaloedd yma, llenwch yr ffurflen astudiaeth achos  yma ac cael eich dweud.

Diolch yn fawr am eich cymorth


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth