Helpwch ni yn ein ymdrechion i sicrhau rhyddid a chydraddoldeb ar gyfer lesbiaid, dynion hoyw a deurywolion. Bydd eich cefnogaeth yn ein galluogi i sicrhau newid parhaol a gwthio am dargedau newydd ledled Cymru, Lloegr a'r Alban. Er mwyn bod yn rhan o'r newid, dewch i fod yn un o Gyfeillion Stonewall heddiw!
Rydym angen eich cefnogaeth wrth i ni barhau i weithio. Dylai lesbiaid, dynion hoyw a deurywolion gael yr hawl i fyw mewn rhyddid a chydraddoldeb. Dewch i fod yn un o Gyfeillion Stonewall - dyma'r ffordd orau i'n cynorthwyo i gymryd camau breision tuag at gydraddoldeb yn y dyfodol.
Fel un o Gyfeillion Stonewall Cymru byddwch yn cyfrannu £5, £10 neu £20 bob mis er mwyn cefnogi ein gwaith hanfodol. Byddwch yn derbyn:
Er mwyn dod yn un o gyfeillion Stonewall cliciwch yma. Bydd angen i chi lenwi eich enw, cyfeiriad a chyfarwyddyd debyd uniongyrchol ar gyfer £5, £10 neu £20. Cofiwch nodi eich côd post - bydd arian a gyfrannir gan bobl yng Nghymru yn cefnogi gwaith Stonewall Cymru mewn ymgyrchoedd cenedlaethol ac ymchwil, datblygiad polisi ac adnoddau perthnasol i Gymru. Byddwn yn anfon pecyn croeso atoch yn ystod y diwrnodau nesaf. Diolch!
A yw'n well gennych danlwytho ffurflen gais i'w hanfon atom drwy'r post? Defnyddiwch y cysylltiad hwn: Ffurflen Ddebyd Uniongyrchol
Sylwadau am y dudalen