Digwyddiadau gwirfoddoli Stonewall Cymru

Ar y dudalen hon:

Eisiau helpu i newid agweddau tuag at bobl Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol (LHD) yng Nghymru?

Ystyried beth allwch ei wneud i wella bywyd ar gyfer pobl LHD yng Nghymru?

Digwyddiadau croeso a sesiynau blasu

Mae Stonewall Cymru yn cynnal digwyddiadau a sesiynau blasu rheolaidd ledled Cymru, lle gall pobl sydd â diddordeb ddysgu mwy am wirfoddoli gyda Stonewall Cymru a rhoi cynnig ar rai gweithgareddau gwirfoddol.
Ymysg y cyfleoedd gwirfoddoli mae: eiriolaeth gwrth fwlio homoffobaidd, diweddaru’r wefan, datblygu cysylltiadau, monitro’r cyfryngau, allgymorth a chynorthwyo mewn stondinau, cynorthwyo gyda pholisi ac ymchwil a hyfforddi cynorthwywyr.
Croesawir bob gwirfoddolwr, p’run ai’n medru ymrwymo at 1 digwyddiad y flwyddyn neu hyd at 1 dydd yr wythnos.

Darperir diodydd meddal a lluniaeth ysgafn.

Byddwn yn ad-dalu costau teithio gwirfoddolwyr i’r digwyddiad yn eich ardal, felly cadwch eich derbynebau neu docynnau a gofynnwch am ffurflen gostau yn y digwyddiad.
Gallwn hefyd ad-dalu unrhyw gostau gofal plant neu fynediad.

Mae’r holl ddigwyddiadau croeso yn 1 awr o hyd, ac yn cael eu dilyn gan hyfforddiant cychwynnol i’r rhai sydd â diddordeb.  Mae croeso i chi fynychu un rhan o’r digwyddiad neu’r ddwy.

Mae’r rownd nesaf o ddigwyddiadau blasu yn cael eu cadarnhau ar hyn o bryd. Edrychwch eto am fwy o wybodaeth.

Dyddiadau yn Chwefror ac Mawrth

  • Dydd Llun 8 Chwefror – The Rainbow Group – Pont-y-pŵl – 5pm
  • Dydd Mawrth 9 Chwefror – Transport House – Caerdydd – 5pm
  • Dydd Llun 15 Chwefror – Y Morlan – Aberystwyth – 5pm
  • Dydd Mawrth 25 Chwefror – Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr, Y Mwnt – Caerfyrddin – 5pm
  • Dydd Llun 1 Mawrth – The Greenhouse- Bangor – 5pm
  • Dydd  Mawrth 2 Mawrth– Rhyl– Lleoliad i’w gadarnhau – 12 canol dydd

Cysylltwch ag: Eleanor.hicks@stonewallcymru.org.uk am fwy o wybodaeth, i nodi eich diddordeb, ac i’n hysbysu am unrhyw anghenion bwyd neu fynediad, neu gallwch benderfynu dod ar y diwrnod.

Hyfforddiant gwirfoddolwyr

Mae Stonewall Cymru yn cynnal 3 cwrs hyfforddi ar gyfer gwirfoddolwyr wrth ddechrau gwirfoddoli gyda ni. Mae’r cyrsiau hyn yn rhan o gyflwyniad y gwirfoddolwr, ac yn cael eu cynnal sawl gwaith y flwyddyn mewn lleoliadau ledled Cymru. Mae’r sesiynau hyfforddi yn 2 awr o hyd.

Testunau’r cyrsiau yw:

  • Stonewall Cymru: ein mudiad, hanes, nodau, gwaith, a’r dyfodol
  • Materion Cyfeiriadedd Rhywiol yng Nghymru ac ymchwil perthnasol
  • Staffio stondin Stonewall Cymru

Darperir diodydd meddal a lluniaeth ysgafn.

Byddwn yn ad-dalu costau teithio gwirfoddolwyr i’r digwyddiad yn eich ardal, felly cadwch eich derbynebau neu docynnau a gofynnwch am ffurflen gostau yn y digwyddiad.
Gallwn hefyd ad-dalu unrhyw gostau gofal plant neu fynediad.

Hyfforddiant gwirfoddolwyr yn Chwefror ac Mawrth

Stonewall Cymru: ein mudiad, hanes, nodau, gwaith, a’r dyfodol

  • Dydd Llun 8 Chwefror – The Rainbow Group – Pont-y-pŵl – 6pm
  • Dydd Mawrth 9 Chwefror – Transport House – Caerdydd – 6pm
  • Dydd Llun 15 Chwefror – Y Morlan – Aberystwyth – 6pm
  • Dydd Mawrth 25 Chwefror – Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr, Y Mwnt – Caerfyrddin – 6pm
  • Dydd Llun 1 Mawrth – The Greenhouse- Bangor – 6pm

Materion Cyfeiriadedd Rhywiol yng Nghymru ac ymchwil perthnasol

  • Dydd  Mawrth 2 Mawrth– Rhyl– CGGC, Neuadd Morfa – 1pm

Cysylltwch ag: Eleanor.hicks@stonewallcymru.org.uk am fwy o wybodaeth, i nodi eich diddordeb, ac i’n hysbysu am unrhyw anghenion bwyd neu fynediad, neu gallwch benderfynu dod ar y diwrnod.


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth