HYS


Pobl Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol (LHD) ledled Cymru yn siarad yn uniongyrchol gyda darparwyr gwasanaethau.

Yn 2009 penderfynodd Stonewall Cymru beidio cynnal cynhadledd flynyddol, ond yn hytrach cynnal pedwar o ddigwyddiadau rhanbarthol. Y bwriad fyddai taclo materion lleol perthnasol, lleihau problemau teithio, ysgogi rhaglen waith Stonewall Cymru, a’n galluogi i ymateb i faterion sy’n codi. Er bod y digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal yn rhanbarthol, roeddent yn agored i unrhyw un o bob cwr o Gymru. 
Cynhaliwyd wyth digwyddiad unigol rhwng Mehefin 2010 a Thachwedd 2011.  Mynychodd cyfanswm o dros 300 o bobl, yn cynnwys cymysgedd o ddarparwyr gwasanaethau, mudiadau trydydd sector a phobl LHD.  Roedd bron i hanner y cyfranogwyr yno fel unigolion LHD.
Yn y digwyddiadau roedd awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau yn cyfarfod pobl leol LHD. Roedd modd i bawb rannu eu barn a’u profiadau am addysg, iechyd, tai, diogelwch cymunedol a pholisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth. Cynhaliwyd y digwyddiadau dan nawdd caredig Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth Cymru neu gan Brosiect Dydy Trosedd Ddim yn Ddigri Cymorth i Ddioddefwyr.


Dyma flas o’r hyn a ddywedwyd yn y digwyddiadau hyn...


Beth oedd yr agwedd orau o’r digwyddiad?


Unigolyn LHD: “Cyfle i drosglwyddo’r neges yn uniongyrchol i’r rhai a all wneud gwahaniaeth yn lleol”


Unigolyn LHD: “Gwych cael gymaint o amser i drafod gwahanol faterion mewn ffordd anffurfiol ac adeiladol. Barn yn cael ei werthfawrogi – cael gwrandawiad. Siaradwyr gwych.”

Cynrychiolydd darparwr gwasanaethau: “Roedd digwyddiad Dweud Eich Dweud eleni’n wych.  Roedd yn rhyngweithiol gydag elfennau ysgafn ond perthnasol. Mae’n gyfle gwych i rannu meddyliau, syniadau a phryderon o wahanol rannau o’n cymunedau amrywiol.”


Rydym yn dosbarthu adborth o’r digwyddiadau Dweud Eich Dweud i’r awdurdodau


Adroddiadau Dweud Eich Dweud LHD 2011
Dolenni at 4 adroddiad rhanbarthol

De Orll Cymru DED 2011 

De Ddwy Cymru DED 2011 

Can Cymru DED 2011 

Gog Cymru DED 2011 

Adroddiadau Dweud Eich Dweud LHD 2010 Dolenni at 4 adroddiadau rhambarthol.

De Orll Cymru DED 2010 

Cadwch lygad ar agor
Am fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau nesaf Dweud Eich Dweud

NW1


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth