Rydych chi yma > Stonewall Cymru | Stonewall | Stonewall yr Alban
03 Rhagfyr 2008
Map o'r safle

Cronfa wybodaeth

Cyfrannwch Nawr

 

Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth y Cynulliad

Mae deddfau sy'n cael eu pasio gan Senedd y DG yn San Steffan yn parhau i fod yn mewn grym yng Nghymru. Serch hynny, mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru gyfrifoldebau a phwerau datganoledig er mwyn datblygu a gweithredu polisi mewn ystod o faterion megis addysg, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, cartrefi, llywodraeth leol, amaeth a datblygu economaidd.

Sefydlwyd y Cynulliad drwy Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998. Mae adran 120 a s.48 o'r Ddeddf yn ymrwymo'r Cynulliad, Llywodraeth y Cynulliad, Llywodraeth Leol a Chyrff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad (CCNC) i hybu cydraddoldeb ar gyfer PAWB yng Nghymru, wrth gyflawni ei ddyletswyddau a'i waith.

Mae hyn yn ddyletswydd cydraddoldeb unigryw, ac mewn gwirionedd yn golygu y dylai pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yng Nghymru fod yn hyderus y bydd gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu yn deg yng Nghymru. Yn ogystal, y bydd anghyfiawnderau hanesyddol yn cael eu hwynebu drwy bolisïau sydd yn hybu cydraddoldeb i BAWB.

Mae Stonewall Cymru yn cynghori y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth y Cynulliad ynglŷn ag anghenion pobl LHD yng Nghymru mewn iechyd ac addysg a.y.y.b., fel y gellir, wrth wneud polisïau, ystyried yr angen i daclo camwahaniaethu, bwlio neu aflonyddu a diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaethau LHD.

Cyflwr y pleidiau yn y Cynulliad Cenedlaethol

   Llafur 30
  Plaid Cymru 12
  Ceidwadwyr 11
  Democratiaid Rhyddfrydol 6
  Annibynnol 1
  
  Cyfanswm: 60

Mae'r Cynulliad yn dirprwyo ei bwerau gweithredol (creu a gweithredu penderfyniadau a chyfreithiau) i'r Prif Weinidog. Yn ei dro mae'r Prif Weinidog yn dirprwyo cyfrifoldeb am gyflawni gweithredoedd i Weinidogion y Cynulliad, sydd yn ffurfio'r Cabinet. Y Cabinet sydd yn gwneud nifer o benderfyniadau'r Cynulliad o ddydd i ddydd, ac mae'r Gweinidogion yn gyfrifol am feysydd penodol megis iechyd, cyfiawnder cymdeithasol, adfywio ac addysg.

Am fwy o fanylion ynglyn â Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn Gymraeg ewch at:
www.cymru.gov.uk.

Am fwy o fanylion ynglyn â Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn Saesneg ewch at:
www.wales.gov.uk.

Nid yw Stonewall yn derbyn cyfrifoldeb am gynnwys safleoedd allanol.




Ffurf PDF
Get Adobe Reader

I ddarllen dogfennau ar ffurf pdf, efallai y bydd angen i chi lawrlwytho darllennydd gan Adobe. Cliciwch ar yr eicon uchod i fynd i'w safwe.

Cysylltiadau Perthnasol
Ein Cefndir
yn ôl i'r brig