Ceir gwybodaeth gynhwysfawr ar wefan Stonewall am Bartneriaethau Sifil - y fframwaith gyfreithiol, eich hawliau, a materion sydd yn achosi pryder ac sydd angen eu herio ym Mhrydain. Cliciwch yma i ymweld â'r safle.
Mae'r wybodaeth ganlynol yn benodol i'r cyd-destun Cymreig - y pwerau cyfreithiol, gwasanaethau cynghori a datblygiadau polisi.
Cliciwch yma i lawrlwytho 'Clymwch y Cwlwm! Canllaw i Bartneriaeth Sifil.'
Arweiniad i Bartneriaethau Sifil
Bydd Deddf Partneriaeth Sifil 2004 yn dod i rym ar 5 Rhagfyr 2005. Bydd hyn yn galluogi'r partneriaethau sifil cyntaf o dan y drefn safonol i gael eu ffurfio ar 21 Rhagfyr, 2005.
Mae Partneriaeth Sifil yn berthynas gyfreithiol cyfangwbl newydd, ar gyfer cyplau o'r un rhyw yn unig, sydd yn wahanol i briodas. Mae'n galluogi cyplau i dderbyn cydnabyddiaeth gyfreithiol o'u perthynas, gan greu statws gyfreithiol newydd o "bartner sifil". Bydd gan gyplau lesbiaidd a hoyw sydd yn cofrestri fel partneriaid sifil gydnabyddiaeth gyfreithiol ffurfiol o'u perthynas, a bydd ganddynt hawliau a chyfrifoldebau tuag at ei gilydd ac at drydydd parti a'r wladwriaeth.
Er mwyn creu Partneriaeth Sifil, bydd angen i gyplau gofrestri eu bwriad, fel priodas sifil. Os yw'r berthynas yn chwalu bydd proses ddiddymu, tebyg i ysgariad.
Bydd partneriaid sifil yn cael eu trin fel partneriaid priod at bwrpas treth, cenedligrwydd a mewnfudiad, etifeddiaeth, cyfrifoldeb cynhaliaeth partner a chynhaliaeth plant, tenantiaeth, budd-daliadau cyflogaeth a phensiwn a diogelwch rhag drais yn y cartref.
Er mwyn creu Partneriaeth Sifil rhaid i bartneriaid sifil:
Bydd hawliau a chyfrifoldebau partneriaid sifil yn cynnwys:
Sut mae mynd ati i Gofrestri yn Sifil?
Beth yw'r gwahaniaethau rhwng Partneriaethau Sifil a Phriodas Sifil?
Beth os nad yw'n gweithio?
Ceir proses ddiddymu tebyg i ysgariad, o ran:
Lleoliadau ar gyfer cofrestri
Pa newidiadau fydd Partneriaethau Sifil yn eu gwneud i fudd-daliadau?
Ar hyn o bryd mae'r system budd-daliadau yn cydnabod perthynas heterorywiol yn unig, ac o ganlyniad mae cyplau lesbiaidd a hoyw yn wynebu nifer o faterion. Nid yw lesbiaid a hoywon sydd yn colli eu partneriaid yn gymwys i dderbyn budd-daliadau marwolaeth na phensiynau goroesi, ac nid yw partneriaid o'r un rhyw yn gymwys ar gyfer y cynyddion oedolyn dibynnol a delir mewn budd-daliadau Yswyriant Cenedlaethol megis Pensiwn Ymddeol a Budd-dal Anabledd.
Mae'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â budd-daliadau prawf-modd yn cymryd yn ganiataol bod gan gyplau o'r rhyw gwahanol ddyletswydd i gynnal ei gilydd, ond nid ydynt yn cymryd yr un peth yn ganiataol am gyplau o'r un rhyw. Pan fo rhywun priod (neu sy'n byw gyda rhywun fel petai yn briod) yn gwneud cais am fudd-dal prawf-modd, bydd y prawf modd yn ystyried anghenion ac adnoddau y ddau bartner.
Mae partneriaid o'r un rhyw wedi cael eu hasesu ar wahân hyd yma. Nid yw incwm ac adnoddau eraill partner o'r un rhyw yn cael eu hystyried wrth gyfrif faint o fudd-dal sydd yn ddyledus i ymgeisydd.
Bydd y safbwynt hwn yn newid pan fydd partneriaethau sifil yn cael eu gweithredu. Bydd y newidiadau pwysicaf i bensiynau. Bydd gan weithwyr yr un hawl i bensiwn goroesi ar gyfer eu partneriaid sifil ag sydd ganddynt ar hyn o bryd ar gyfer eu priod.
Byw ynghyd a budd-daliadau
Bydd partneriaid sifil yn cael eu trin yn yr un ffordd â chyplau priod wrth gyfrifo haeddiant ar gyfer budd-daliadau prawf modd. Mae'r llywodraeth yn bwriadu dyblygu y rheolau yngl?n â 'byw ynghyd fel g?r a gwraig' ar gyfer cyplau sydd yn byw gyda'i gilydd "fel partneriaid sifil". Bydd y rheolau newydd yn berthnasol o'r dyddiad y daw'r Ddeddf Partneriaeth Sifil i rym, heb unrhyw amddiffyniad dros dro.
Budd-dal Cymdeithasol - dyletswydd i gynnal ei gilydd
Rheolau Treth:
Hawliau Pensiwn
Cenedligrwydd a mewnfudiad
Am fwy o fanylion ynglŷn â'r Ddeddf ewch at www.womenandequalityunit.gov.uk
www.tuc.org.uk/welfare/tuc-9672-f0.pdf
Cliciwch yma i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Nid yw Stonewall yn derbyn cyfrifoldeb am gynnwys safleoedd allanol.
| Dewis y Golygydd | ||
| Clymwch y Cwlwm! Canllaw i Bartneriaeth Sifil lawrlwytho[2879kb] |
||
| Ffurf PDF | ||
I ddarllen dogfennau ar ffurf pdf, efallai y bydd angen i chi lawrlwytho darllennydd gan Adobe. Cliciwch ar yr eicon uchod i fynd i'w safwe. |
||
| Cysylltiadau Perthnasol | ||
| Ymgyrchoedd | ||