Bydd CCHD i Gymru, a swyddfa yng Nghymru. Bydd y CCHD yng Nghymru yn gweithio yng nghyd-destun cydraddoldeb yng Nghymru, a bydd yn medru sefydlu ei flaenoriaethau ei hun i raddau. Bydd yn canolbwyntio ar weithio 'traws-ffrwd'; hynny yw cymryd y person cyfan i ystyriaeth, a'i anfantais yn y gymdeithas ac economi mewn perthynas â chyfuniad o gyfeiriadedd rhywiol, rhyw, oed ac ethnigrwydd a.y.y.b.
Yn y cyfamser, mae Stonewall Cymru yn gweithio yn agos gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru, Stonewall yn Brydeinig, a'r comisiynau cydraddoldeb sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru er mwyn codi materion anghydraddoldeb LHD o fewn cyflogaeth, addysg, darpariaeth gwasanaethau lleol a.y.y.b. Rydym hefyd yn gweithio gyda'r partneriaid hyn er mwyn sicrhau y bydd y corff newydd, pan fydd yn agor, mewn cytgord ag anghenion poblogaethau amrywiol yng Nghymru, ac yn gymwys i barhau gyda'r consensws trefniadau gwaith a ddatblygwyd dros amser rhwng ac ymysg y ffrydiau cydraddoldeb yng Nghymru.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Mae Stonewall Cymru yn falch iawn bod Neil Wooding, cyn gyd-Gadeirydd Stonewall Cymru, wedi cael ei benodi'n Gomisiynydd Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Er mwyn gwybod mwy am gomisiynau cydraddoldeb sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru cliciwch:
Comisiwn Cyfle Cyfartal
www.eoc.org.uk
Ffôn: 02920 - 343552
Comisiwn Hawliau Anabledd
http://www.drc-gb.org/wales/index.asp
Ffôn: 08457 622 633
Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol
http://www.cre.gov.uk/wales
Ffôn: 02920 729 200
Er mwyn gwybod mwy am grwpiau gwirfoddol sy'n gweithio ar faterion cydraddoldeb yng Nghymru cliciwch yma
* Stonewall accept no responsibility for the content of external sites.