Rydych chi yma > Stonewall Cymru | Stonewall | Stonewall yr Alban
06 Ionawr 2009
Map o'r safle

Cronfa wybodaeth

Cyfrannwch Nawr

 

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Hyrwyddwyr Amrywiaeth

Cliciwch yma am wybodaeth ynglŷn â Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall Cymru. Dyma rwydwaith cydraddoldeb lle mae cyflogwyr y sectorau cyhoeddus a phreifat yn gweithio gyda'i gilydd a gyda Stonewall er mwyn datblygu arfer gorau ar bolisïau cyflogaeth a'r cyflogedig, recriwtio, cadw a monitro ac ymgynghori gyda'r cyflogedig LHD.

Prosiect Cydraddoldeb SME Asiantaeth Datblygu Cymru

Mae prosiect Cydraddoldeb SME yn brosiect  WDA / Cronfa Gymdeithasol Ewropeaidd.  Mae'n cynnig ffordd hawdd i fusnesau bach a chanolig sicrhau cydymffurfiaeth gyda deddfwriaeth cydraddoldeb yn y gweithle. Rydym hefyd yn eich cynorthwyo i elwa o well arfer cyflogaeth drwy ddatblygu arfer da yn gyffredinol.

Rhai ardaloedd y mae'r Prosiect yn canolbwyntio arnynt yw:

  • Cynorthwyo cwmniau i ddatblygu cytundebau cyflogaeth
  • Datblygu polisi disgyblaeth a chwynion
  • Polisi recriwtio a dewis
  • Polisi mamolaeth

Yn ymgorffori ardaloedd allweddol y Prosiect sy'n cynnwys:

  • Rhyw
  • Hil
  • Anabledd
  • Cyfeiriadedd Rhywiol
  • Crefydd a Chred
  • Iaith Gymraeg
  • Oed
  • Maint

Sut mae'n gweithio?

Mae'r prosiect yn cael ei gyflawni gan rywun o dîm o ymgynghorwyr busnes arbenigol, profiadol.

Mae'r ymgynghorwyr yn gweithio gyda chyflogwyr o fewn cyfnodau penodol o amser er mwyn datblygu polisiau a dulliau gweithredu addas mewn ymateb i'w anghenion busnes penodol.

Y canlyniad a fwriedir yw bod cwmniau yn cwblhau'r Prosiect yn dawel eu meddwl eu bod yn mabwysiadu arfer gorau mewn cyflogaeth.

Faint fydd y gost?

Mae yn rhad ac am ddim ar y pwynt cyflenwi.

Pa fantais i mi?

Mae'r buddiannau a adroddir gan y 1700 o sefydliadau sydd eisoes wedi cymryd rhan yn y Prosiect yn cynnwys:

  • Cynydd elw
  • Gostyngiad dramatig mewn trosiant staff a'r costau cysylltiedig
  • Y gallu i recriwtio o bwll ehangach o ymgeiswyr
  • Lefelau is o salwch ac absenoldeb
  • Gweithlu hapusach
  • Gwell cynhyrchiant a pherfformiad oddi wrth y cyflogedig

A pheidiwch ag anghofio - bydd deall a chydymffurfio gyda deddfwriaeth cyfle cyfartal yn lleihau yn sylweddol y risg o gostau uchel tribiwnlys cyflogaeth.

Ydw i'n gymwys?

Cyhyd â'ch bod yn fusnes bach gyda throsiant o lai na €50m, yn cyflogi llai na 250, a llai na €43m ar y mantolenni ac wedi derbyn llai na €100,000 yn ystod y tair blynedd blaenorol.

Sut fedra i ymuno?

Er mwyn trefnu apwyntiad gydag ymgynghorydd busnes neu am fwy o wybodaeth, ffoniwch 08457 775577 a gofynnwch am y Prosiect Cydraddoldeb SME.

Ar gyfer defnyddwyr Testun defnyddiwch y rhagddodiad 18001 ar gyfer cyfleuster Typetalk RNID.

Mae llenyddiaeth y prosiect ar gael ar ffurf print bras, Braille, Moon, sain, ac unrhyw iaith neu ffurf arall yn ôl y gofyn.



Dewis y Golygydd
 

Ffurf PDF
Get Adobe Reader

I ddarllen dogfennau ar ffurf pdf, efallai y bydd angen i chi lawrlwytho darllennydd gan Adobe. Cliciwch ar yr eicon uchod i fynd i'w safwe.

Cysylltiadau Perthnasol
Hyrwyddwyr Amrywiaeth Cymru
yn ôl i'r brig