Rydych chi yma > Stonewall Cymru | Stonewall | Stonewall yr Alban
06 Ionawr 2009
Map o'r safle

Cronfa wybodaeth

Cyfrannwch Nawr

 

Gwasanaethau Cynghori

Yn 2003, disgrifiwyd Cymru fel 'anialwch cyngor' mewn adroddiad a gomisiynwyd gan y Comisiwn Cyfle CyfartalComisiwn Cydraddoldeb Hiliol a'r Comisiwn Hawliau'r Anabl.  Nid oes comisiwn cydraddoldeb sy'n codi ymwybyddiaeth, ymgymeryd ag ymchwil, gweithio gyda chyflogwyr nac yn darparu cyngor i'r rhai cyflogedig sydd yn credu eu bod wedi dioddef camwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol.

Serch hynny, yn 2005 sicrhaodd Stonewall Cymru gyllid er mwyn i ADM sefydlu llinell gymorth er mwyn cefnogi pobl LHD drwy ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth am gamwahaniaethu yn y gweithle ac yn eu bywydau a'u cynorthwyo wrth fynd a'u achosion i Dribiwnlys Cyflogaeth drwy rwydwaith o bobl broffesiynol hyfforddedig. Hefyd, mae ystod o ddarparwyr cyngor sydd o bosibl yn medru trafod eich amgylchiadau, awgrymu ffyrdd o negydu gyda'ch cyflogwr neu gynghori ar eich hawliau cyfreithiol a'r broses i'w dilyn er mwyn sicrhau cyfiawnder.  Mae'r Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol a Chanolfan Cynghori'r Cyhoedd yn cydnabod bod cydraddoldeb cyfreithiol ffurfiol yn annigonol pan na all pobl gael y cyngor sydd ei angen arnynt er mwyn cyfryngu gyda chyflogwyr neu wneud cwyn. Mae Cyngres Undebau Llafur Cymru hefyd yn gweithio er mwyn herio anghydraddoldeb yn y gweithle, ac mae ganddynt rwydwaith o negydwyr a swyddogion  cydraddoldeb a fydd yn ceisio cynorthwyo aelodau unigol o undebau llafur sydd â chwyn.   Mae gan ACAS gyfres o lyfrynnau defnyddiol am eich hawliau yn y gweithle, a sut i drafod materion gyda chyflogwr.

Gwasanaeth Cynghori ar Gamwahaniaethu Stonewall Cymru

Gallwch gyrraedd at eu gwasanaethau drwy glicio yma:

Cynghori'r Cyhoedd

Mae Canolfan Cynghori'r Cyhoedd yn darparu cyngor cyfrinachol, annibynnol yn rhad ac am ddim o leoliadau ledled Cymru, gan gynnwys swyddfeydd, meddygfeydd, ysbytai, colegau, carchardai a llysoedd. Gellir derbyn y cyngor wyneb yn wyneb neu dros y ffôn.  Cynigir ymweliadau cartref gan y mwyafrif o ganolfannau, ac mae rhai hefyd yn darparu cyngor ar ebost.  Mae'r cyngor yn cynorthwyo pobl i ddatrys eu problemau dyledion, budd-daliadau, cartrefi, cyfreithiol, camwahaniaethu, cyflogaeth, mewnfudiad, defnyddwyr a phroblemau eraill ac mae ar gael i bawb, beth bynnag fo'i hil, rhyw, rhywioldeb, oedran, cenedl, anabledd neu grefydd.

Cyngor CAB Arlein www.adviceguide.org.uk
- am wybodaeth ymarferol, dibynadwy, cyfoes yn Gymraeg, Saesneg, Bengali, Gujarati, Punjabi, Urdu a Tsienëeg ar ystod eang o themau. Adolygir gwybodaeth yn barhaus gan eu tîm o gynghorwyr, ac mae'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol
Mae'r Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol Uniongyrchol yn darparu gwybodaeth, cymorth a chyngor yn rhad ac am ddim i'r cyhoedd ar ystod o faterion cyfreithiol cyffredin.  Mae'n wasanaeth hawdd i'w ddefnyddio, ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, drwy linell gymorth genedlaethol neu wefan.  Mae'r Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol yn ceisio sicrhau bod pobl yn derbyn gwybodaeth a chyngor yngl?n â'u hawliau cyfreithiol a chymorth i'w sicrhau drwy uno cyfreithwyr cymorth cyfreithiol, Canolfannau Cynghori'r Cyhoedd, Canolfannau Cyfreithiol, Gwasanaethau Awdurdodau Lleol a sefydliadau eraill mewn rhwydweithiau lleol, ledled Cymru.  Mae'r Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol yno er mwyn sicrhau bod pobl yn derbyn gwasanaethau cyfreithiol o safon, sydd yn taclo eu anghenion real.

Cyfrifoldeb y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol yw sefydlu, cynnal a datblygu y Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol, gan gydweithio gyda nifer o sefydliadau partneriaid a'r Adran Materion Cyfansoddiadol.

Rhif y llinell gymorth yw 0845 345 4 345, lle mae modd:

  • Derbyn cyngor cychwynnol am ddim oddi wrth gynghorydd cyfreithiol cymwys yngl?n â Budd-daliadau Lles, Dyled, cyfraith Cartrefi neu Addysg rhwng 9am a 5 pm yn ystod yr wythnos (os fyddwch yn galw y tu allan i oriau swyddfa, gadewch neges a byddwn yn dychwelyd eich galwad).
  • Os ydych yn gymwys i dderbyn Cymorth Cyfreithiol gallwch gael cymorth cyfreithiol pellach gyda'ch achos am ddim dros y ffôn a thrwy'r post.
  • Darganfod gwasanaethau cynghori lleol o safon ar gyfer mathau eraill o broblemau
  • Archebu taflenni gwybodaeth cyfreithiol
  • Gwrando ar negeseuon wedi'u recordio am broblemau cyfreithiol cyffredin 24 awr y dydd.

Neu gallwch ymweld â'r wefan ar www.communitylegaladvice.org.uk, lle mae modd:

  • Chwilio am gynghorydd cyfreithiol neu gyfreithiwr lleol o safon
  • Holi cwestiynau neu ddewis pwnc cyffredin a chael eich cyfeirio at y gwefannau cynghori gorau
  • Gweld os ydych yn gymwys i dderbyn cyllid cymorth cyfreithiol drwy ddefnyddio cyfrifiannell arlein
  • Gweld ac argraffu taflenni cyfreithiol wedi eu hysgrifennu yn annibynnol ar ystod o bynciau poblogaidd.

Mae'r holl gyngor a chymorth a roddir yn gyfrinachol ac yn annibynnol. Gellir gwneud galwadau ar y llinell gymorth am bris galwad ffôn leol o unrhywle yng Nghymru. Dylai defnyddwyr ffôn symudol gadarnhau cost yr alwad gyda'u rhwydwaith.


ACAS

Canllawiau Stonewall i'r Cyflogedig



Dewis y Golygydd
 

Ffurf PDF
Get Adobe Reader

I ddarllen dogfennau ar ffurf pdf, efallai y bydd angen i chi lawrlwytho darllennydd gan Adobe. Cliciwch ar yr eicon uchod i fynd i'w safwe.

Cysylltiadau Perthnasol
Hyrwyddwyr Amrywiaeth Cymru
yn ôl i'r brig