Rydych chi yma > Stonewall Cymru | Stonewall | Stonewall yr Alban
04 Rhagfyr 2008
Map o'r safle

Cronfa wybodaeth

Cyfrannwch Nawr

 

Cyflogaeth

Ceir gwybodaeth gynhwysfawr ar wefan Stonewall am faterion Cyflogaeth - y fframwaith gyfreithiol, eich hawliau, a materion sydd yn achosi pryder ac sydd angen eu herio ym Mhrydain.  Cliciwch yma i ymweld â'r safle.

Mae'r wybodaeth ganlynol yn benodol i'r cyd-destun Cymreig - y pwerau cyfreithiol, gwasanaethau cynghori a datblygiadau polisi.

Cyflwyniad

Gyda Deddfau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Cyfeiriadedd Rhywiol) 2003, daeth deddfwriaeth i rym i amddiffyn lesbiaid, dynion hoyw, pobl deurywiol a heterorywiol rhag peidio â chael eu cyflogi, colli eu swyddi, cael eu haflonyddu neu ddioddef camwahaniaethu ym mholisïau'r cyflogedig.

Mae polisiau cyfeiriadedd rhywiol yn cael eu hychwanegu fwyfwy at gynlluniau rheoli amrywiaeth cyflogwyr mawr yn y sector breifat a chyhoeddus sydd yn gwybod bod eu hepgor yn niweidiol i'r brand ac sydd eisiau anfon neges gref o gynhwysiad.  Dylai bob polisi i'r cyflogedig sôn yn benodol am gymhwyster perthynas o'r un rhyw.

Serch hynny, bychan iawn a wyddir am ble, ac o dan pa amodau, mae pobl LHD yn gweithio yng Nghymru. Nid oes un o'r setiau data cenedlaethol sy'n mesur cyflogaeth yn casglu unrhyw wybodaeth a fyddai yn taflu goleuni ar fywydau gwaith bobl lesbiaidd a hoyw, eu dewisiadau galwedigaethol neu neilltuad, cyflog na datblygiad gyrfa.  Yn ogystal, prin iawn yw'r cyflogwyr yng Nghymru sydd yn monitro'r gweithlu, yn gwneud arolygon staff, neu yn hybu rhwydweithiau'r  cyflogedig LHD, fel y gallant ddeall ble mae canolbwynt posibl o bobl lesbiaidd a hoyw yn eu sefydliadau neu ddeall rhwystrau penodol y maent o bosib yn eu hwynebu. Mae monitro er mwyn chwilio am getoau galwedigaethol yn allweddol.



Dewis y Golygydd
'Camwahaniaethu yn y Gwaith. Byth eto' -
Briffio'r Cyflogedig (2004):  lawrlwytho

Ffurf PDF
Get Adobe Reader

I ddarllen dogfennau ar ffurf pdf, efallai y bydd angen i chi lawrlwytho darllennydd gan Adobe. Cliciwch ar yr eicon uchod i fynd i'w safwe.

Cysyslltiadau Perthasol
Ymgyrchoedd
yn ôl i'r brig