Rydych chi yma > Stonewall Cymru | Stonewall | Stonewall yr Alban
06 Ionawr 2009
Map o'r safle

Cronfa wybodaeth

Cyfrannwch Nawr

 

Ymgyrchu Lleol

Mae ymgyrchu lleol yn ffordd dda o godi ymwybyddiaeth am faterion lleol neu genedlaethol sy'n effeithio ar bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol.

Ar y dudalen hon:

Ymuno gyda'ch Rhwydwaith/Fforwm LHD lleol

Mae Stonewall Cymru yn gweithio gyda swyddogion cydraddoldeb mewn awdurdodau lleol, a gyda phobl LHD lleol er mwyn cefnogi'r gwaith o sefydlu Rhwydwaith/Fforwm LHD yng ngogledd, canolbarth, de orllewin a de ddwyrain Cymru.

Mae ymuno gyda'ch Rhwydwaith/Fforwm lleol yn ffordd ardderchog o ymwneud ag ymgyrchoedd LHD lleol a chyfranogi mewn trafodaethau gyda chynghorau lleol, y Cynulliad ac eraill sy'n gwneud polisïau.

Fforwm LHD y De Ddwyrain

Sefydlwyd Fforwm LHD y de ddwyrain ym Mawrth 2005. Mae wedi cynnal trafodaethau ar amrywiol bynciau, gan gynnwys Partneriaethau Sifil a'r argymhelliad am un llu heddlu dros Gymru.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am Fforwm LHD y de ddwyrain.

Gogledd Cymru

Mae prosiect ymgysylltiad cymunedol Tu Mewn Tu Allan yn ymchwilio i faterion gofal iechyd ar gyfer pobl LHD yng ngogledd a chanolbarth Cymru. Gobeithir y bydd Fforwm Gogledd Cymru yn datblygu o'r ymchwil hwn.

Lobïo eich AC/AS

Os ydych wedi dioddef camwahaniaethu, aflonyddu, bwlio, cael gwrthod eich hawliau neu wasanaethau ym maes tai, addysg, iechyd, cyflogaeth neu os ydych am lobïo dros hawliau LHD, gall cyfarfod neu lythyr amserol at eich AC/AS arwain at ganlyniadau sylweddol.

Cliciwch yma i ddod o hyd i'ch AC.

Gallwch ddarganfod pwy yw eich AS drwy ymweld â gwefan y Senedd a nodi eich côd post.

Ysgrifennu llythyr

Er ei fod yn well mynd i weld eich AC/AS, efallai eich bod yn dymuno ysgrifennu atynt yn lle hynny.

  • Byddwch yn fyr ac yn gryno. Mae llythyron byr, wedi'u teipio'n glir ac yn gosod y prif ddadleuon yn fwy tebygol o dderbyn ymateb na'r rhai sydd wedi'u hysgrifennu â llaw, gyda honiadau neu fygythiadau emosiynol.
  • Gofynnwch am ateb bob tro. Os na fyddwch yn derbyn ateb, ysgrifennwch eto gan amgáu eich llythyr gwreiddiol. Daliwch i bwyso - peidiwch â'u gadael i osgoi'r mater.

Yn ystod ymweliad
Os ydych yn ymwneud â grwpiau neu brosiectau cymunedol lleol, dylech hefyd ystyried gwahodd eich AC/AS i ymweld â'ch grŵp neu weithgaredd wrth eu gwaith.

Gallwch ddefnyddio unrhyw ymweliad fel cyfle i drafod y materion sy'n eich wynebu. Byddwch yn uniongyrchol ac yn fanwl yn eich trafodaeth. Os fydd yr ymgeiswyr yn dweud rhywbeth sy'n eich tramgwyddo, neu os ydynt yn gwrthwynebu cefnogi cydraddoldeb lesbiaidd a hoyw, gwnewch nodyn o'r hyn sy'n cael ei ddweud. Peidiwch â cholli eich tymer - mae hynny'n ei gwneud yn haws i ymgeiswyr ddiystyru eich barn. Yn hytrach, ymatebwch yn dawel gyda dadleuon rhesymegol i gefnogi eich safbwynt.

Ar ôl yr ymweliad
Sut bynnag fydd eich ymweliad gyda'ch AC/AS yn mynd, mae'n syniad da i ddilyn eich ymweliad gyda llythyr yn diolch iddynt am eu hamser. Yn y llythyr, rhowch grynodeb o bwyntiau allweddol eich trafodaethau.

Er mwyn ein cynorthwyo gyda'n gwaith lobïo ac ymgyrchu yn y dyfodol, anfonwch gopi o'r llythyr hwnnw at Stonewall Cymru, yn ogystal ag unrhyw ymateb y byddwch yn ei dderbyn. Lle bo'n bwrpasol, byddwn yn gosod rhywfaint o'r wybodaeth ar ein gwefan.

* Nid yw Stonewall yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros gynnwys safleoedd allanol.




Ffurf PDF
Get Adobe Reader

I ddarllen dogfennau ar ffurf pdf, efallai y bydd angen i chi lawrlwytho darllennydd gan Adobe. Cliciwch ar yr eicon uchod i fynd i'w safwe.

yn ôl i'r brig