Eich Diogelwch
-
Os oes modd, cerddwch i ffwrdd
-
Ewch i rywle diogel
-
Dywedwch yr un peth o hyd -'ewch i ffwrdd...ewch i ffwrdd'
-
Byddwch yn effro
-
Ceisiwch aros gyda pobl yr ydych yn ymddiried ynddynt - nid wrth eich hunan
-
Byddwch yn hyderus (hyd yn oed os nad ydych yn teimlo felly!)
-
Adroddwch y mater ar unwaith
Os ydych yn dioddef:
-
gwnewch cymaint o swn ag sy'n bosibl
-
cyn gynted ag y bo modd, ewch i rywle y gwyddoch sy'n ddiogel
-
galwch am gymorth ar unwaith
-
mewn argyfwng ffoniwch 999
-
os ydych ddigon hyderus, dywedwch wrth yr heddlu pam yr ydych yn meddwl yr ymosodwyd arnoch
-
os ydych wedi dioddef ymosodiad, peidiwch â chymryd cawod na newid eich dillad, gall ddinistrio tystiolaeth
-
os dygwyd eich allweddi, newidiwch y cloeon
-
peidiwch ag yfed alcohol, mae angen i chi roi datganiad clir am yr hyn a ddigwyddodd
-
defnyddiwch y systemau adrodd er mwyn hysbysu am y digwyddiad os nad ydych ddigon hyderus i siarad gyda'r heddlu
-
defnyddiwch ganolfan adrodd trydydd person neu defnyddiwch y ffurflenni hunan-adrodd ar y wefan hon neu yn y pecynnau.
Os ydych yn dyst:
-
mewn argyfwng ffoniwch 999
-
arhoswch yn effro ac yn ddiogel
-
peidiwch ag ymyrryd yn gorfforol, gallech gael eich brifo
-
cyn gynted ag y bo modd, ysgrifennwch y cyfan y gallwch ei gofio am y digwyddiad
-
adroddwch am y digwyddiad nail ai wrth asiantaeth gefnogaeth leol neu'n uniongyrchol wrth yr heddlu.
Bwlio
-
Dylai ysgolion a cholegau fod â pholisiau / dulliau gweithredu sydd yn eich amddiffyn rhag camwahaniaethu a bwlio.
-
Peidiwch â dioddef yn dawel. Os nad yw eich ysgol neu goleg yn gwrando, cysylltwch ag un o'r llinellau cymorth neu un o'r grwpiau ieuenctid LHD ledled Cymru a all gynnig cyngor a chefnogaeth i chi. Nid ydych ar eich pen eich hunan.
-
Dywedwch wrth rywun. Ni fydd pawb sy'n lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol yn profi bwlio yn yr ysgol, coleg na'r gweithle. Os yw'n digwydd, mae'n bwysig hysbysu rhywun.
-
Os na allwch ddweud wrth athro, teulu neu gyfaill, gallwch ddweud wrth rywun drwy ddefnyddio ffurflen hunan-adrodd eich hunan. Mae pob adroddiad yn cael ei gymryd o ddifrif a gallai gynorthwyo i'ch arbed chi ac eraill rhag gorfod dioddef trosedd casineb.
-
Dywedwch wrth rywun os ydych yn cael eich bwlio.
Cliciwch yma am fanylion pellach am gefnogaeth os ydych yn dioddef bwlio (ewch at wefan Addysg I Bawb)
Cwynion yn erbyn yr Heddlu
Mae llawer o waith partneriaeth yn digwydd ledled Cymru rhwng y pedwar heddlu ac aelodau'r gymuned LHDT ar ffurf ymgynghoriad a chyfarfodydd cyswllt ac ymarferion hyfforddi ymwybyddiaeth er mwyn gwella dealltwriaeth o'r materion sy'n wynebu pobl LHDT.
Serch hynny, weithiau gall pethau fynd o'i le ac mae hyn yn cael ei gydnabod gan Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu sydd wedi cynhyrchu llyfrynnau (mewn nifer o ieithoedd) ar y broses o wneud cwyn yn erbyn yr heddlu, gweler y wefan am fanylion www.ipcc.gov.uk
Nid yw Stonewall yn derbyn cyfrifoldeb am gynnwys safleoedd allanol.