Daeth Adran 146 o'r Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 i effaith yn Ebrill 2005, gan alluogi llysoedd yng Nghymru a Lloegr i osod dedfrydau caletach am droseddau wedi'u hysgogi neu eu difrifoli gan gyfeiriadedd rhywiol y rhai sy'n dioddef.
Nid yw Deddf Cyfiawnder Troseddol 2003 yn creu trosedd o ymosodiad homoffobaidd fel y cyfryw. Er hynny, mae'n sicrhau pan fo ymosodiad yn ymwneud â neu wedi ei ysgogi gan gasineb neu ragfarn ar sail anabledd neu gyfeiriadedd rhywiol (gwirioneddol neu ganfyddedig) bod gofyn i'r barnwr:
Nid yw Deddf Cyfiawnder Troseddol 2003 yn nodi faint y dylid cynyddu dedfrydau pan fo anabledd neu gyfeiriadedd rhywiol yn ffactorau gwaethygol. Bydd hyn yn cael ei nodi'n fanwl mewn deddfwriaeth eilradd pellach.
Cefnogaeth Tystion
Gall bod yn dyst fod yn brofiad pryderus. Mae pawb sydd yn ymwneud â thaclo trosedd yn deall hyn ac fe fyddant yn gefnogol i chi. Cofiwch eich bod yn chwarae rhan hanfodol i sicrhau bod cyfiawnder yn digwydd. Cliciwch yma i fynd at DaithTyst Rhithwir.
Mae'n drosedd bygwth (dychryn) tyst, ac mae sicrhau diogelwch y tystion yn gyfrifoldeb ar Wasanaeth Erlyn y Goron. Os ydych yn poeni am gwrdd â'r diffynydd, tyst, unrhywun arall yn ymwneud â'r achos, neu gyfaill neu berthynas i unrhyw un o'r bobl hyn, dywedwch wrth yr heddlu neu'r cyfreithydd sydd wedi eich galw fel tyst. Yna dylech fedru aros mewn ystafell ar wahan cyn ac yn ystod yr achos.
Rhoi eich cyfeiriad mewn llys agored
Mae Datganiad Safonau Cenedlaethol Gofal Tystion yn y System Cyfiawnder Troseddol yn nodi na ddylai fod rhaid i dystion roi eu cyfeiriadau mewn llys agored oni bai ei fod yn angenrheidiol ar gyfer y dystiolaeth,. Mae'r System Cyfiawnder Troseddol yn cydnabod y gall pobl LHDT ofni y byddai cyhoeddi eu cyfeiriadau o bosibl yn arwain at ddialedd. Dylai staff Gwasanaeth Erlyn y Goron fedru eich tawelu eich meddwl yngŷln â hyn.
Mae'r System Cyfiawnder Troseddol hefyd wedi cydnabod y gall fod materion yn codi ynglŷn â'r ffordd y mae gofyn i bobl LHDT roi tystiolaeth ac felly mae gan y llysoedd bwerau newydd i roi cyfarwyddyd i'r cyfryngau yn cyfyngu ar adrodd enwau tystion sy'n agored i niwed. Rhaid gwneud cais i'r llys gan gyfreithiwr y tyst ac mae rhaid i'r llys benderfynu ar gymhwyster y tyst i gael ei amddiffyn ac a fyddai cyfyngiad ar adrodd yn gwella safon tystiolaeth y tyst a'r cydweithrediad wrth dystio.
Nid yw Stonewall yn derbyn cyfrifoldeb am gynnwys safleoedd allanol.
| Ffurf PDF | ||
I ddarllen dogfennau ar ffurf pdf, efallai y bydd angen i chi lawrlwytho darllennydd gan Adobe. Cliciwch ar yr eicon uchod i fynd i'w safwe. |
||
| Cysylltiadau Perthnasol | ||
| Cyngor a Iechyd | ||