Rydych chi yma > Stonewall Cymru | Stonewall | Stonewall yr Alban
06 Ionawr 2009
Map o'r safle

Cronfa wybodaeth

Cyfrannwch Nawr

 

Mae Adroddiad Cynhadledd Stonewall Cymru 2007 ar gael nawr - roedd Ochr yn Ochr yn edrych ar ffyrdd o gynyddu hyder wrth wneud adroddiad am drosedd casineb homoffobaidd.

Cynhaliwyd y Gynhadledd ar 31ain Mawrth yn Abertawe, ac fe fynychodd bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD) a chynrychiolwyr o’r heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a Chymorth i Ddioddefwyr o bob cwr o Gymru. Rhoddodd gyfle i bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol glywed am yr hyn y mae asiantaethau cyfiawnder troseddol yn ei wneud i wynebu troseddau casineb homoffobaidd, a chynnig awgrymiadau am ffyrdd i gynyddu hyder yn y broses o wneud adroddiadau.

Cafodd ei ddisgrifio gan un cynadleddwr fel: “Cyfle gwych i ddysgu mwy a rhwydweithio gyda chyrff cyhoeddus, unigolion tebyg eu meddwl, gan uno er mwyn canolbwyntio ar fater pwysig sy’n cael ei rannu gan gymaint o bobl amrywiol!”

Meddai Jenny Porter, Swyddog Cyswllt Cymunedol Stonewall
Cymru “Roedd yn ddiwrnod ardderchog, ac mae wedi cynhyrchu nifer o argymhellion ar gyfer y camau nesaf i ddatblygu partneriaethau a chynyddu hyder a nifer yr adroddiadau am droseddau casineb homoffobaidd.”

Cliciwch ar Ddewis y Golygydd i ddarllen Adroddiad Cynhadledd Ochr yn Ochr, a’r Argymhellion am y Camau Nesaf ar gyfer yr Heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, Cymorth i Ddioddefwyr a phobl LHD.

Cliciwch ar Ddewis y Golygydd i ddarllen Ymateb Gwasanaeth Erlyn y Goron i Argymhellion Cynhadledd Ochr yn Ochr



Dewis y Golygydd
Adroddiad Cynhadledd Stonewall Cymru 2007 1 ac 2
Lawrlwytho 1 [255 kb] 
Lawrlwytho 2 [758 kb]
Adroddiad Cynhadledd Stonewall Cymru 2007-Atodiad
Lawrlwytho [970 kb]
word document icon Ymateb Gwasanaeth Erlyn y Goron
Lawrlwytho [30 kb]

Ffurf PDF
Get Adobe Reader

I ddarllen dogfennau ar ffurf pdf, efallai y bydd angen i chi lawrlwytho darllennydd gan Adobe. Cliciwch ar yr eicon uchod i fynd i'w safwe.

Cysylltiadau Perthnasol
Traws Cambria
yn ôl i'r brig