Rydych chi yma > Stonewall Cymru | Stonewall | Stonewall yr Alban
03 Rhagfyr 2008
Map o'r safle

Cronfa wybodaeth

Cyfrannwch Nawr

 

Diogelwch

Adrodd yn Swyddogol am Drosedd Casineb Homoffobaidd

Beth yw trosedd casineb?
Trosedd casineb yw unrhyw drosedd a gyflawnir yn erbyn person neu eiddo sydd wedi ei ysgogi gan gasineb y troseddwr o bobl gan eu bod yn cael eu gweld yn wahanol. Trosedd casineb homoffobaidd yw pan fo rhagfarn yr ymosodwr yn erbyn pobl lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol yn ffactor am bwy sy'n dioddef.

Pam adrodd am drosedd casineb homoffobaidd?
Mae trosedd casineb yn brifo, gall achosi dryswch a dychryn. Drwy adrodd amdano, mae'n bosibl y gallwch rwystro'r troseddau hyn rhag digwydd eto i chi neu i rywun arall. Peidiwch ag ofni adrodd am drais homoffobaidd wrth yr heddlu - bydd yr hyn a ddywedwch wrthynt yn cael ei drin gyda sensitifrwydd a phroffesiynoldeb, mae aelodau o'r heddlu wedi eu hyfforddi yn arbennig yn eich ardal chi, a gallant siarad gyda chi yn gyfrinachol. Os nad ydych yn teimlo y gallwch siarad yn uniongyrchol gyda'r heddlu, llenwch ffurflen hunan-adrodd neu cysylltwch ag asiantaeth gefnogaeth, megis Canolfan Cynghori'r Cygoedd er mwyn eich cynorthwyo i lenwi ffurflen.

Beth yw Ffurflen Hunan - Adrodd ar Ddigwyddiad?
Mae'r system Hunan-Adrodd ar Ddigwyddiad yn eich galluogi fel yr un sy'n dioddef, tyst, rhiant, un sy'n gofalu neu unrhyw berson sy'n bryderus i adrodd am ddigwyddiad wrth yr heddlu drwy roi cyn lleied neu cymaint o wybodaeth personol ag y dymunwch. Drwy lenwi'r ffurflen byddwch yn galluogi'r heddlu i adeiladu patrymau a thynnu sylw at ardaloedd o bryder o fewn eich rhanbarth. Mae'r pedwar Heddlu ledled Cymru yn cymryd troseddau casineb o ddifrif. Er mwyn cael ffurflen Hunan-Adrodd am Ddigwyddiad arlein er mwyn adrodd ar ddigwyddiad yn ardal:

Heddlu Gwent   cliciwch yma am Ffurflen hunan-adrodd True Vision

Heddlu Dyfed Powys  cliciwch yma am Ffurflen hunan-adrodd True Vision

Heddlu De Cymru cliciwch yma am ffurflen hunan-adrodd True Vision

Heddlu Gogledd Cymru cliciwch yma am Ffurflenni hunan-adrodd True Vision

Neu cysylltwch gyda'r heddlu yn eich rhanbarth:

Heddlu Dyfed Powys
Mae Heddlu Dyfed Powys yn cwrdd yn chwarterol gyda chynyrchiolwyr cymunedau LHDT ac yn defnyddio cynllun True Vision ar gyfer adrodd ar droseddau casineb, gweler www.report-it.org.uk am ffurflenni ar-lein.
Er mwyn cysylltu gyda'r Adran Diogelwch Cymunedol yn Nyfed ffoniwch Karen ar 01267 226637 Est : HQ 637  neu ar ebost: karen.caulfield-jones@Dyfed-Powys.pnn.police.uk neu ym Mhowys cysylltwch â  PC Pat Jalloal ar 01970 612791 Est. 460 neu ar ebost patrick.jalloal@dyfed-powys.pnn.police.uk Neu cysylltwch drwy'r post: Heddlu Dyfed-Powys, Pencadlys yr Heddlu, Blwch Post 99, Caerfyrddin SA31 2PF

Gallwch hefyd ffonio'r llinell gymorth troseddau casineb ar 0845 1228645

Heddlu Gwent
Mae Uned Amrywiaeth Heddlu Gwent yn defnyddio cynllun True Vision er mwyn adrodd ar droseddau casineb, gweler www.report-it.org.uk am ffurflenni arlein. I gysylltu gydag Adran Diogelwch Cymunedol Heddlu Gwent ffoniwch 01633 642401 neu Katherine Phelps, Rheolwr Amrywiaeth  ar 01633 642149. Ar gyfer Pencadlys Heddlu Gwent, ffoniwch 01633 838111, neu cysylltwch drwy'r post :  Pencadlys yr Heddlu, Croesyceiliog, Cwmbran NP44 2XJ

Heddlu Gogledd Cymru
Mae uned Amrywiaeth Heddlu Gogledd Cymru yn gweithio'n agos gyda'r gymuned LHDT. I gysylltu gyda Swyddog Amrywiaeth yr heddlu gallwch anfon ebost at Greg George : gregory.george@north-wales.police.uk   neu ffonio 01745 588483 Est 40483 neu cysylltwch drwy'r post at Uned Amrywiaeth,  Heddlu Gogledd Cymru, Heol William Morgan, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy, Sir Ddinbych LL17 OHQ


Heddlu De Cymru
Mae Uned Cefnogaeth Lleiafrifoedd Heddlu De Cymru yn gweithio'n agos gyda chymunedau LHDT, yn darparu cefnogaeth a chyngor. I gysylltu ag Uned Cefnogaeth Lleiafrifoedd Heddlu De Cymru yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg ffoniwch 02920 527377, ac ar gyfer Rhondda Cynon Taf a Merthyr ffoniwch 01443 743672. Neu cysylltwch drwy'r post: Uned Cefnogaeth Lleiafrifoedd Heddlu De Cymru, Pencadlys Heddlu De Cymru, Heol y Bontfaen, Penybont CF31 3SU
Gallwch hefyd ffonio'r llinell gyngor ac adrodd cyfrinachol ar: 0800 587 8973

Cymorth i Ddioddefwyr
Llinell gymorth genedlaethol Cymorth i Ddioddefwyr  - 0845 3030900

Cymorth i Ddioddefwyr Cymru
Y sefydliad ambarel ar gyfer elusennau Cymorth i Ddioddefwyr yng Nghymru sydd yn cynorthwyo pobl sydd wedi eu heffeithio gan drosedd ym mhum ardal Cymru - Gogledd Cymru, De Cymru, Gwent, Powys a Dyfed drwy ddarparu cefnogaeth yn gyfrinachol am ddim, os ydych yn adrodd am y drosedd neu beidio. Clicwch yma i ymweld y safle we

Nid yw Stonewall yn derbyn cyfrifoldeb am gynnwys safleoedd allanol.



Dewis y Golygydd
Ninnau Hefyd! Adroddiad darpariaeth cefnogaeth cymunedol ac anghenion pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yng Nghymru (2004): 
Llawrlwytho

Ffurf PDF
Get Adobe Reader

I ddarllen dogfennau ar ffurf pdf, efallai y bydd angen i chi lawrlwytho darllennydd gan Adobe. Cliciwch ar yr eicon uchod i fynd i'w safwe.

Cysylltiadau Perthnasol
 Traws Cambria
yn ôl i'r brig