Stonewall Cymru yn dathlu buddugoliaeth mewn tribiwnlys yn erbyn Esgob Henffordd

Mae Stonewall Cymru heddiw'n dathlu penderfyniad tribiwnlys cyflogaeth o blaid John Reaney, y dyn hoyw sydd wedi ennill ei honiad o gamwahaniaethu yn erbyn Esgob Henffordd. Cefnogwyd ac ariannwyd yr achos gan Stonewall.

Cafodd John Reaney ei gyfweld gan banel o wyth o bobl am swydd Swyddog Ieuenctid yn Esgobaeth Henffordd yr haf diwethaf. Serch hynny, cafodd y penderfyniad unfrydol i'w benodi ei rwystro gan Esgob Henffordd yn dilyn cyfarfod pan gafodd Mr Reaney ei groesholi yn waradwyddus gan yr Esgob am ei fywyd personol.

Bydd Mr Reaney yn debygol o dderbyn iawndal sylweddol.  Yn ei ddyfarniad, meddai'r Tribiwnlys: 'Roedd yr Atebwyr wedi camwahaniaethu yn erbyn yr Hawlydd ar sail cyfeiriadedd rhywiol. Bydd yr achos nawr ar restr am wrandawiad unioni.'

Meddai John Reaney: 'Rwy'n falch iawn bod Esgob Henffordd wedi colli'r achos hwn. Mae'n dangos i'r nifer o Gristnogion lesbiaidd a hoyw sy'n gweithio dros Dduw o fewn Eglwys Lloegr eu bod yn haeddu cael eu trin yn deg ac yn barchus. Rwy'n ddiolchgar iawn i Stonewall am eu cefnogaeth drwy gydol yr achos. Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn i'm cyfreithiwr Alison Downie o Bindman & Partners a'm bargyfreithiwr Sandyha Drew am eu holl waith.'

Meddai Matthew Batten, Swyddog Cyhoeddusrwydd Stonewall Cymru: 'Mae'r canlyniad hwn yn fuddugoliaeth i barch yr 21ain ganrif dros ragfarnau'r 19eg ganrif. Rydym yn hapus iawn dros John. Mae'r tribiwnlys wedi gwneud yn glir na all Eglwys Lloegr gamwahaniaethu yn erbyn bobl hoyw heb gael eu cosbi. Nid oes unrhyw un, Esgob hyd yn oed, yn cael ei eithrio o'r gyfraith.'

Aeth Mr Reaney, sy'n byw yng ngogledd Cymru, i swyddfa Stonewall Cymru yng Nghaerdydd i ofyn am gyngor ac, o achos ei bwysigrwydd, cefnogwyd ac ariannwyd ei achos gan Stonewall hyd y diwedd. Dadleuodd Stonewall na fyddai person heterorywiol wedi gorfod wynebu'r un lefel o gwestiynau busneslyd â Reaney. Cafodd yr achos ei gynnal dros bedwar diwrnod ym mis Ebrill yng Nghaerdydd.

'Gall Cristnogion arddel eu ffydd yn y wlad hon wrth ochr y Moslemiaid, a Phrotestaniaid wrth ochr Catholigion, am yr union reswm bod Prydain fodern yn parchu gwahaniaeth,' meddai Matthew Batten. 'Gobeithiwn bod y penderfyniad hwn yn rhoi arwydd clir i bob cyflogwr am bwysigrwydd parchu pobl lesbiaidd a hoyw yn y gweithle.


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth