Rydych chi yma > Stonewall Cymru | Stonewall | Stonewall yr Alban
21 Awst 2008
Map o'r safle

Digwyddiadau

Cyfrannwch Nawr

 

Digwyddiadau

Mae Stonewall Cymru yn cynnal nifer o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn i godi arian ar gyfer ein gwaith ymgyrchu a datblygiad cymunedol, ac i ddod â phobl ynghyd i ddathlu a chael amser gwych!

Bydd Diversity Champions Cymru yn lansio yng Nghymru yn y misoedd nesaf. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

'Through Children's eyes'

Cwmni Teledu wedi ei leoli yng Nghaerdydd yw Green Bay . Rydym yn paratoi cyfres 4-rhan ar gyfer BBC Cymru sy’n dilyn straeon o ysgolion, teuluoedd wedi gwahanu/llys-deuluoedd, cystadlaethau a hunan-ddelwedd, a hynny trwy lygaid plant. Bydd y ffilm yn portreadu profiadau dau neu dri o deuluoedd, ac yn cael eu hadrodd o safbwynt y plentyn oddi fewn i’r teulu. Byddwn yn rhoi camerau iddynt, a gadael iddynt hwy adrodd eu stori eu hunain.

Rydym yn edrych am plant rhwng 8 a 14 oed sydd â diddordeb mewn cymeryd rhan. Ar gyfer rhaglen ‘yr ysgol’, rydym yn edrych am blant sydd yn symyd ysgol, neu sydd yn ddawnus ac yn eistedd eu harholiadau yn gynnar. Mae diddordeb gennym yn ogystal i ddysgu sut mae plant yn ymdopi gyda dyslecsia/ADHD.

Ar gyfer y ‘llys-deuluoedd’, rydym yn edrych am blant sydd a’u rhieni wedi gwahanu yn ddiweddar – hefyd plant sydd nawr yn rhan o lys-deulu. Ar gyfer ‘Cystadleuaeth’, rydym yn chwilio am blant talentog sydd o ddifrif am chwaraeon/hobi. Oes cystadleuaeth ar y gorwel gennych? Yn olaf, hunan

-ddelwedd. Rydym yn edrych am fanatics fashiwn, plant sy’n codi pwysau neu yn delio gyda problemau colli pwysau.

Y gobaith yw ffilmio dros yr haf, ond cyn i ni ddechrau hoffem siarad gyda nifer helaeth o deuluoedd er mwyn i ni ddysgu mwy am faterion/problemau mae plant yn wynebu . Ydych yn creu bydd eich plentyn chi yn hoffi rhannu ei stori? Oes munud neu ddau gennych i siarad â ni am eich profiadau?

Cysylltwch â

Quirine neu Sally yn Green Bay Media.

Ffôn: 02920 642370

e-bost: Quirine@green-bay.tv neu sally-weale@green-bay.tv

 

yn ôl i'r brig