Rydych chi yma > Stonewall Cymru | Stonewall | Stonewall yr Alban
04 Rhagfyr 2008
Map o'r safle

Digwyddiadau

Cyfrannwch Nawr

 

Cynhadledd Stonewall Cymru 2007

Thema: Diogelwch Cymunedol: Gweithio Gyda'n Gilydd i Herio Troseddau Casineb Homoffobaidd
Dyddiad: Sadwrn 31 Mawrth
Amser: 1130am - 530pm
Lleoliad: Canolfan Dylan Thomas, Abertawe

Mae gan bob person lesbiaidd, hoyw a deurywiol yr hawl i deimlo'n ddiogel yn y gymuned.

Sut fedrwn ni gydweithio i daclo troseddau casineb homoffobaidd a sicrhau bod Cymru yn le mwy diogel i bawb?

 

Ymunwch â ni yng Nghanolfan Dylan Thomas, Abertawe am ddiwrnod bywiog ac addysgiadol yn edrych ar ffyrdd o daclo trosedd casineb homoffobaidd yng Nghymru.

  • Cewch glywed gan Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Erlyn y Goron am y gwaith cadarnhaol sy'n cael ei wneud i herio troseddau casineb homoffobaidd yng Nghymru.
  • Cewch gyfranogi mewn gweithdai sy'n gofyn sut y gall yr Heddlu a swyddogion diogelwch ymgysylltu gyda'r gymuned lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD) er mwyn gwella diogelwch cymunedol.
  • Drwy gyfres o fonologau pwerus, cewch ddeall effaith dioddef trosedd casineb a'r broses o wneud cwyn am y digwyddiad.

Nod y gynhadledd yw cynyddu hyder pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn yr heddlu a gwasanaethau'r llys ac annog adroddiadau am droseddau casineb, gan arwain at leihad mewn troseddau casineb homoffobaidd ledled Cymru.

Dyma eich cyfle i wneud Cymru yn le mwy diogel i bawb.

Ar gyfer pwy mae'r gynhadledd? 

Pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol, Heddlu, Swyddogion Diogelwch Cymunedol, y rhai sy'n gyfrifol am bolisïau ac unrhyw un â diddordeb mewn materion diogelwch cymunedol.

Dychwelwch y Ffurflen Bwcio Cynhadledd amgaeëdig a'r blaendal erbyn 23 Mawrth at:

Cynhadledd 2007
Stonewall Cymru
d/o CCC
Tŷ Windsor
Lôn Windsor
Caerdydd
CF10 3GE
Ffôn: 029 2023 7744
Ebost at cymru@stonewall.org.uk

Astudiaethau Achos

  • Ydych chi wedi dioddef trosedd casineb homoffobaidd?
  • A fyddech yn fodlon rhannu eich profiadau a chynorthwyo i hybu ein gwaith ymgyrchu a lobïo?

Os ydych chi wedi profi trosedd casineb homoffobaidd, hoffem gadw cofnod o'ch stori. Yn achlysurol iawn, a gyda'ch caniatâd yn unig, gallwn gynnig eich stori i'r cyfryngau er mwyn tynnu sylw at y materion sy'n wynebu cymunedau LHD.

Am fwy o wybodaeth ewch at www.stonewallcymru.org.uk/astudiaethachos a chliciwch ar y cysylltiad gyda'r ffurflen astudiaeth achos, lle gallwch adael i ni wybod pa fath o waith gyda'r cyfryngau y buasech yn gysurus yn ei wneud.

Digwyddiad Ôl-Gynhadledd

Cynhelir 'Noson Enwogion' Ôl-Gynhadledd i gefnogi Stonewall Cymru a Llinell Gymorth LHDT Cymru, yng Nghlwb Nos Champers 210, Stryd Fawr, Abertawe rhwng 10pm a 4am.

Cliciwch yma er mwyn llwytho poster y digwyddiad i lawr (ar gael yn Saesneg yn unig).



Dewis y Golygydd
Ffurflen Bwcio Cynhadledd
lawrlwytho

Ffurf PDF
Get Adobe Reader

I ddarllen dogfennau ar ffurf pdf, efallai y bydd angen i chi lawrlwytho darllennydd gan Adobe. Cliciwch ar yr eicon uchod i fynd i'w safwe.

Cysylltiadau Perthnasol
Diogelwch
yn ôl i'r brig