Eisiau helpu i newid agweddau tuag at bobl Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol (LHD) yng Nghymru?
Ydych chi wedi ystyried erioed beth y gallwch ei wneud i wella bywyd i bobl LHD yng Nghymru?
Mae Stonewall Cymru yn cynnal digwyddiad lle gall bobl ifanc (16-25) ddarganfod mwy am wirfoddoli dros Stonewall Cymru a phrofi rhai gweithgareddau gwirfoddol.
Ymysg y cyfleoedd gwirfoddoli mae: diweddaru'r wefan, datblygu cysylltiadau, monitro'r cyfryngau, allgymorth a chynorthwyo ar stondinau, a hyfforddi cynorthwywyr.
Croesawir pob gwirfoddolwr, os gallwch ymrwymo i 1 digwyddiad y flwyddyn neu hyd at 4 awr yr wythnos.
Darperir diodydd meddal a bisgedi
Bydd costau teithio yn cael eu had-dalu ar gyfer gwirfoddolwyr ifanc, felly cadwch eich derbynebau neu docynnau.
Mae'r digwyddiad hwn yn agored i bobl o bob oed. Nodwch mai bobl rhwng 16-25 oed yn unig all dderbyn ad-daliad costau teithio, gan fod y digwyddiad yn cael ei noddi gan Gomisiwn Russell.
Cysylltwch â: Eleanor.hicks@stonewallcymru.org.uk i gadarnhau neu am fwy o wybodaeth, neu dewch draw ar y dydd.
Cliciwch yma am fanylion digwyddiadau gwirfoddoli yn eich ardal chi:
Digwyddiad hyrwyddo a phrofi gwaith gwirfoddol De Orllewin Cymru
Pryd: Mawrth 25ain Tachwedd 2008, 4pm hyd at 8pm (croeso i chi ymuno gyda ni yn hwyrach os na fedrwch gyrraedd mewn pryd a/neu adael yn gynnar os oes angen cyrraedd adref)
Ble: Undeb Myfyrwyr Coleg y Drindod, Caerfyrddin, yn y bar gwaelod.
Manylion:
4-5pm Cyflwyniad i waith gwirfoddol a chyfleoedd gyda Stonewall Cymru
5-6pm Arddangosfa a phrofi diweddaru gwefan
6-7pm Arddangosfa a phrofi datblygu cysylltiadau
7-8pm Trafodaethau unigol am wirfoddoli, Holi ac Ateb a chymdeithasu.
Os nad oes gennych ddiddordeb mewn testun arbennig, rydym yn eich annog i ddefnyddio'r cyfle i gymdeithasu a chyfarfod gwirfoddolwyr posibl eraill.
Digwyddiad hyrwyddo a phrofi gwaith gwirfoddol Gogledd Cymru:
Pryd: Gwener 28ain Tachwedd 2008, 12 hyd at 4:30pm (croeso i chi alw yn ystod eich awr ginio, neu bryd bynnag yr ydych yn rhydd, a gadael pan fo angen)
Ble: Prosiect Pobl Ifanc Gorllewin Rhyl
Manylion:
12 -1pm Cyflwyniad i waith gwirfoddol a chyfleoedd gyda Stonewall Cymru
1-2pm Arddangosfa a phrofi diweddaru gwefan
2-3pm Arddangosfa a phrofi datblygu cysylltiadau
3-3:30pm Trafodaethau unigol am wirfoddoli, Holi ac Ateb a chymdeithasu.
3:30-4:30pm Cyflwyniad i waith gwirfoddol a chyfleoedd gyda Stonewall Cymru (ar gyfer pobl a gyrhaeddodd yn hwyr), trafodaethau unigol a chymdeithasu.
Os nad oes gennych ddiddordeb mewn testun arbennig, rydym yn eich annog i ddefnyddio'r cyfle i gymdeithasu a chyfarfod gwirfoddolwyr posibl eraill.
Digwyddiad hyrwyddo a phrofi gwaith gwirfoddol Canolbarth Cymru:
Pryd: Iau 11eg Rhagfyr 2008, 12 hyd at 3pm (croeso i chi alw yn ystod eich awr ginio, neu pryd bynnag yr ydych yn rhydd, a gadael pan fo angen)
Ble: Canolfan Ieuenctid Llandrindod (dan y Pafiliwn)
Manylion:
12 -1pm Cyflwyniad i waith gwirfoddol a chyfleoedd gyda Stonewall Cymru
1-2pm Arddangosfa a phrofi diweddaru gwefan a datblygu cysylltiadau
2-3pm Trafodaethau unigol am wirfoddoli, Holi ac Ateb a chymdeithasu.
Os nad oes gennych ddiddordeb mewn testun arbennig, rydym yn eich annog i ddefnyddio'r cyfle i gymdeithasu a chyfarfod gwirfoddolwyr posibl eraill.
Digwyddiad hyrwyddo a phrofi gwaith gwirfoddol De Ddwyrain Cymru:
Pryd: Iau 4ydd Rhagfyr 2008, 4pm hyd at 8pm (croeso i chi ymuno gyda ni yn hwyrach os na fedrwch gyrraedd mewn pryd ac/neu adael yn gynnar os oes angen cyrraedd adref)
Ble: Prif Neuadd, Llawr Gwaelod, Transport House, 1 Heol y Gadeirlan, Caerdydd
Manylion:
4-5pm Cyflwyniad i waith gwirfoddol a chyfleoedd gyda Stonewall Cymru
5-6pm Arddangosfa a phrofi diweddaru gwefan
6-7pm Arddangosfa a phrofi datblygu cysylltiadau
7-8pm Trafodaethau unigol am wirfoddoli, Holi ac Ateb a chymdeithasu
Os nad oes gennych ddiddordeb mewn testun arbennig, rydym yn eich annog i ddefnyddio'r cyfle i gymdeithasu a chyfarfod gwirfoddolwyr posibl eraill.
| Editor's Choice | ||
| Ffurflen Gais Gwirfoddoli Llawrlwytho [46 kb] |
||
| Ymuno â Bas Data Cefnogwyr Stonewall Cymru. Llawrlwytho [96 kb] |
||
| Ffurf PDF | ||
I ddarllen dogfennau ar ffurf pdf, efallai y bydd angen i chi lawrlwytho darllennydd gan Adobe. Cliciwch ar yr eicon uchod i fynd i'w safwe. |
||
| Related links | ||
| Ein Cefndir | ||