Lesbiaidd, Hoyw neu Ddeurywiol (LHD)?
Materion Iechyd Meddwl?
Os felly, mae Stonewall Cymru am glywed oddi wrthych!
Dan nawdd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ac mewn partneriaeth gyda Mind Cymru, Hafal a Journeys, mae Stonewall Cymru yn cynnal y prosiect ymchwil cyntaf erioed ledled Cymru i edrych ar farn ac anghenion y rhai sy'n lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol (LHD) ac sydd â phrofiadau o faterion iechyd meddwl.
Cliciwch yma i gwblhau'r holiadur.
A oes gennych brofiadau o ddefnyddio gwasanaethau iechyd meddwl fel person LHD?
A oes gennych brofiadau o faterion LHD neu'r gymuned LHD fel rhywun â materion iechyd meddwl?
A ydych erioed wedi teimlo eich bod yn cael eich eithrio neu bod camwahaniaethu yn eich erbyn gan eich bod yn LHD neu bod gennych brofiad o faterion iechyd meddwl?
Hoffem glywed oddi wrth unrhyw un sy'n Lesbiaidd, Hoyw neu Ddeurywiol ac sydd wedi profi materion iechyd meddwl yng Nghymru.
Rydym yn cynnal arolwg, sydd ar gael oddi wrth Stonewall Cymru drwy'r post neu ar ein gwefan o fis Tachwedd hyd at Ionawr 2009.
Ewch i'n gwefan ym mis Tachwedd i'w lenwi, neu os hoffech gael eich hysbysu drwy ebost, neu dderbyn yr arolwg drwy'r post, cysylltwch â Megan Evans.
Bydd grwpiau ffocws (cyfarfodydd grwpiau bychain i drafod materion ymhellach) hefyd yn cael eu cynnal ledled Cymru.
Dyddiadau i ddilyn yn fuan.
Cyhoeddir y canlyniadau gydag argymhellion, a'i lansio ar ddiwedd Mawrth.
Mwy o wybodaeth am y rhai sy'n ymwneud â'r prosiect:
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
Hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol i bawb, dileu camwahaniaethu, lleihau anghydraddoldeb ac amddiffyn hawliau dynol.
http://www.equalityhumanrights.com
Mind Cymru: Ymgyrchu ar ran bobl ag afiechyd meddwl.
http://www.mind.org.uk/About+Mind/Whatwedo.htm
Journeys: Cefnogaeth i unigolion sy'n dod dros iselder ysbryd.
http://www.journeysonline.org.uk/
Hafal: Cefnogi'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan afiechyd meddwl difrifol.
http://www.hafal.org/
Pwy yw'r ymchwilwyr:
Tîm o bedwar ymchwilydd o Brifysgol Abertawe yw'r ymchwilwyr prosiect.
Tracey Maegusuku-Hewett yw'r prif ymchwilydd, sy'n gweithio o fewn y ganolfan Gwaith Cymdeithasol ac Ymchwil Gofal Cymdeithasol.
Eisiau cyfranogi neu wybod mwy am y prosiect pwysig hwn ledled Cymru?
Cysylltwch â:
Megan Evans.
Swyddog Gweinyddol Prosiect Ymchwil Iechyd Meddwl.
Ebost: megan.evans@stonewallcymru.org.uk
Ffôn: 02920 237744
| Editor's Choice | ||
| Adriddiad Prosiect tu Mewn tu Allan Llawrlwytho [2,075 kb] |
||
| Sut y gall gwasanaethau iechyd gyflawni anghenion pobl lesbiadd, hoyw y deurywiol Llawrlwytho [524 kb] |
||
| Ffurf PDF | ||
I ddarllen dogfennau ar ffurf pdf, efallai y bydd angen i chi lawrlwytho darllennydd gan Adobe. Cliciwch ar yr eicon uchod i fynd i'w safwe. |
||
| Related links | ||
| Iechyd | ||