Arweiniodd datganoli yng Nghymru at ddatblygiad sylweddol yn newid sefyllfa pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol er gwell, ac at geisio darganfod atebion addas i Gymru.
Sefydlwyd Fforwm LHD Cymru yn 2002 drwy gefnogaeth a chyllido ar y cyd rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Stonewall (UK). Yn 2003 newidiodd Pwyllgor Gwaith Fforwm LHD yr enw i Stonewall Cymru er mwyn cynyddu cefnogaeth Stonewall (UK) a chael mynediad at eu harbenigrwydd a'u hadnoddau.
Mae Deddf Llywodraeth Cymru 1998 yn gofyn bod:
Er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth y Cynulliad i'r ddyletswydd hon cefnogodd Cronfa Datblygu Prosiect Hyrwyddo Cydraddoldeb yng Nghymru y Cynulliad ddatblygiad pedair rhwydwaith ymgynghorol yng Nghymru wedi'u cynllunio i hyrwyddo cyfranogiad grwpiau ymylol yn y llywodraeth: Sefydliad Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan, Anabledd Cymru, Clymblaid Genedlaethol Menywod Cymru a Stonewall Cymru.
Yn ogystal, sefydlwyd Pwyllgor Sefydlog ar Gyfleoedd Cyfartal sydd yn cynnwys cynrychiolaeth o dri comisiwn cydraddoldeb statudol: Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, y Comisiwn Anableddau a'r Comisiwn Cyfle Cyfartal ac mae hefyd yn cydnabod cydraddoldeb iaith, cyfeiriadedd rhywiol, oed, a ffydd, yn ogystal ag ynglŷn â sipswn a ffoaduriaid. Mae gan Stonewall Cymru wahoddiad sefydlog i fynychu cyfarfodydd y Pwyllgor Cyfleoedd Cyfartal fel corff ymgynghorol ar anghenion pobl LHD yng Nghymru.
Ers ei sefydlu, mae Stonewall Cymru wedi cyflawni cryn dipyn:
"Ni fyddai yr hyn a gyflawnwyd gennym yn ystod ein tair blynedd cyntaf wedi bod yn bosibl heb ymroddiad ac egni ein partneriaid, sydd yn cynnwys ymgyrchwyr cymunedau LHD, sefydliadau cydraddoldeb eraill a'r Llywodraeth. Diolch i'r unigolion a'r sefydliadau a weithiodd gyda ni. Edrychwn ymlaen i barhau gyda'r partneriaethau hyn dros y blynyddoedd nesaf."
Sylvia Jones & Neil Wooding
Cyd-gadeiryddion, Cyngor Stonewall Cymru 2004
| Dewis y Golygydd | ||
| Clymwch y Cwlwm! Canllaw i Bartneriaeth Sifil lawrlwytho[2879kb] |
||
| Adroddiad Blynyddol Stonewall Cymru 2003-2004. lawrlwytho | ||
| Ffurf PDF | ||
I ddarllen dogfennau ar ffurf pdf, efallai y bydd angen i chi lawrlwytho darllennydd gan Adobe. Cliciwch ar yr eicon uchod i fynd i'w safwe. |
||
| Cysylltiadau Perthnasol | ||
| Ymholiadau'r Cyfryngau | ||