Rydych chi yma > Stonewall Cymru | Stonewall | Stonewall yr Alban
03 Rhagfyr 2008
Map o'r safle

Ein cefndir

Cyfrannwch Nawr

 

Sut mae Stonewall Cymru yn gweithredu

Nod Stonewall Cymru yw cael cydraddoldeb cyfreithiol a chyfiawnder cymdeithasol i bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yng Nghymru.

Anelwn i ddarparu sefydliad dros Gymru gyfan a fydd yn gweithio'n unigol ac mewn partneriaeth gydag asiantaethau, sefydliadau, cyrff statudol ac unigolion o fewn a'r tu allan i'r sector LHD er mwyn:

  • Hybu hawliau dynol a chydraddoldeb i bobl LHD;
  • Herio camwahaniaethu yn erbyn pobl LHD;
  • Diffinio anghenion a buddiannau pobl LHD a mynegi rhain i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a chyrff pwrpasol eraill;
  • Cadarnhau a datblygu isadeiledd gyda chymunedau LHD ledled Cymru i'w galluogi i gyfrannu a chael cynyrchiolaeth mewn datblygiadau polisi.

Gwnawn hyn mewn amrywiaeth eang o ffyrdd, gan gynnwys datblygu polisi, ymgynghoriad a chysylltu gyda grwpiau a sefydliadau perthnasol, darparu gwybodaeth ac addysg (agweddol a sefydliadol), lobïo, datblygu cymunedol, meithrin gallu yn ogystal â chynllunio a chynghori ar arferion da.

Byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod ein gwaith yn adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth LHD sy'n byw yng Nghymru. Rydym wedi ymroi i gynyrchiolaeth ledled Cymru; cydraddoldeb rhyw a iaith, cynyrchiolaeth cymunedau lleiafrifol ac ymylol, cynyrchiolaeth gwleidyddol traws bleidiol, a chynyrchiolaeth undebau llafur.

Ar hyn o bryd mae Stonewall Cymru yn cyflogi 3 o staff, wedi eu lleoli yng Nghaerdydd a Bangor.

Cyngor Stonewall Cymru

Bob blwyddyn mae ein haelodau yn ethol cynrychiolyddion i Gyngor Stonewall Cymru. Mae'r Cyngor yn mewnbynnu i gyfeiriad strategol cyffredinol Stonewall Cymru. Cynrychiolir y Cyngor ar Fwrdd Stonewall GB gan ei gyd-gadeiryddion.

Adeiladu ar dair blynedd cyntaf Stonewall Cymru

Yng nghyfnod y cynllun busnes cyntaf (2002 - 2005), creodd y fforwm LHD (a ddaeth yn ddiweddarach yn Stonewall Cymru), fas data cefnogwyr o tua 600 o bobl LHD ledled Cymru er mwyn cynorthwyo Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gyflawni ei ymroddiad o ymgynghori ar gyfer gwneud polisiau cydraddoldeb effeithol. Roedd dau a weithiai'n rhan amser, ac aelodau o Gyngor Stonewall Cymru, yn llwyddiannus tu hwnt wrth berswadio rhai sy'n cyflogi ac yn darparu gwasanaeth cyhoeddus i ystyried cyfeiriadedd rhywiol fel rhan o'u ffocws cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Ers ei sefydlu yn 2002, mae Stonewall Cymru wedi cyflawni cryn dipyn:

Gwnaethom yr arolwg cyntaf erioed o bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD) yng Nghymru, Eich Cyfrif Neu'ch Eithrio, gan sicrhau bod materion cydraddoldeb LHD yn gadarn ar agenda'r rhai sy'n gwneud polisiau yng Nghymru.

Rydym wedi gweithio gyda chyflogwyr er mwyn darparu arweiniad iddynt ar sut i daclo'r camwahaniaethu yn y gweithle a wynebir gan bobl LHD. Hefyd rydym wedi cyhoeddi gwybodaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg am hawliau cyflogaeth newydd ac wedi hysbysebu'r wybodaeth yma o fewn y gymuned hoyw.

Sefydlwyd Gwyliwch Allan gennym er mwyn monitro'r wasg Gymreig, herio newyddiaduraeth homoffobaidd a darparu gwybodaeth gywir am fywydau pobl LHD yng Nghymru.

Mae arweiniad rhyw a pherthynas y Cynulliad bellach yn mynegi y dylai athrawon fedru delio gyda materion o rywioldeb neu gyfeiriadedd rhywiol mewn ffordd onest, sensitif ac heb gamwahaniaethu. Diddymodd hyn Gymal 28 yma i bob pwrpas cyn iddo gael ei ddiddymu yn Lloegr.

Gweithiodd ein Rhaglen Datblygiad Cymunedol gydag ystod eang o grwpiau cymunedol yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn cynnwys ymgynghoriad sylweddol gyda mudiadau ac unigolion LHD ledled Cymru. Yn 2004 cwblhawyd archwiliad o grwpiau cymunedol LHD a cynhaliwyd cyfarfodydd gydag unigolion LHD ledled Cymru.

Dadleuom yn gryf o safbwynt LHD yn ystod trafodaethau yngl?n â'r darpar Gomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Mae cryn dipyn sydd angen ei wneud o hyd. Dangosodd canfyddiadau arolwg Eich Cyfrif Neu'ch Eithrio bod cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol i bobl LHD yn dal i fod ymhell o gael ei gyflawni, a bod ymdrechion tuag at y nod hwn yn dal i fod yn angenrheidiol.

Ni fyddai yr hyn a gyflawnwyd gennym yn ein tair blynedd cyntaf wedi bod yn bosibl heb ymroddiad ac egni ein partneriaid, sy'n cynnwys ymgyrchwyr cymunedol LHD, sefydliadau cydraddoldeb eraill a'r Llywodraeth. Diolch i'r unigolion a'r sefydliadau hynny sydd wedi gweithio gyda ni.

Daw nifer o rai sy'n cyflogi ac yn darparu gwasanaethau cyhoeddus atom bellach ar gyfer cyngor, gwybodaeth a hyfforddiant ar bob agwedd o gydraddoldeb LHD.  Rydym yn gweithio gyda lluoedd yr heddlu ledled Cymru, darparwyr iechyd, cynghorau lleol, y comisiynau cydraddoldeb, darparwyr cyngor, ACAS, undebau llafur, y cyfryngau, pledwyr cydraddoldeb yn y sector wirfoddol, ac yn fwyaf arbennig Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth y Cynulliad.



Dewis y Golygydd
Ninnau Hefyd! Adroddiad darpariaeth cefnogaeth cymunedol ac anghenion pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yng Nghymru (2004): lwytho
Eich Cyfrif Neu'ch Eithrio (2003)
Arolwg cyntaf erioed o bobl LHD yng Nghymru gan Stonewall Cymru. lwytho

Ffurf PDF
Get Adobe Reader

I ddarllen dogfennau ar ffurf pdf, efallai y bydd angen i chi lawrlwytho darllennydd gan Adobe. Cliciwch ar yr eicon uchod i fynd i'w safwe.

Cysylltiadau Perthnasol
Ymholiadau'r Cyfryngau
yn ôl i'r brig