Yn ogystal â'n rhaglen waith craidd o lobïo awdurdodau lleol, darparwyr gwasanaethau cyhoeddus a llywodraeth am gynhwysiad, a gwelliannau polisi a chyfraith ar gyfer pobl LHD yng Nghymru, byddwn yn canolbwyntio ar yr amcanion strategol allweddol canlynol am y 3 blynedd nesaf:
1. Datblygiad cymunedol - er mwyn galluogi pobl LHD i chwarae rhan llawn yn eu cymunedau drwy gynorthwyo grwpiau cymunedol a gwasanaethau LHD a chynyddu gwybodaeth o anghenion gwasanaeth LHD o fewn cyrff cyhoeddus a phreifat.
Nod allweddol: Sefydlu rhwydwaith grwpiau LHD rhanbarthol ledled Cymru erbyn 2008.
2. Addysg - gwneud ysgolion yn lefydd diogelach a thecach ar gyfer pobl ifanc LHD drwy leihau y nifer o bobl ifanc LHD sydd yn dioddef bwlio homoffobaidd a gweithio i leihau tangyrhaeddiad gan ddisgyblion LHD.
Nod allweddol: Darparu gwybodaeth a hyfforddiant i bob ysgol uwchradd yng Nghymru erbyn 2008.
3. Cyflogaeth - gwneud y gweithle yn le tecach ar gyfer pobl LHD drwy leihau y nifer o bobl LHD sydd yn profi camwahaniaethu ac aflonyddu yn y gwaith o achos eu cyfeiriadedd rhywiol.
Nod allweddol: darparu cyngor a chefnogaeth unigol i dros 150 o gyflogwyr Cymreig ar faterion camwahaniaethu pobl LHD erbyn 2008.
4. Cyfleoedd bywyd teg - sicrhau bod nwyddau a gwasanaethau yn hygyrch yn y sectorau cyhoeddus a phreifat drwy hybu triniaeth deg o bobl LHD, gyda phwyslais arbennig ar waith o fewn y gwasanaeth iechyd a llywodraeth leol.
Nod allweddol: Dros 25% o awdurdodau lleol a byrddau iechyd Cymru i weithredu er mwyn gwneud eu gwasanaethau yn decach i bobl LHD erbyn 2008.
5. Newid agweddau - gwella agweddau cyhoeddus tuag at bobl LHD drwy herio yn gyhoeddus y rhagfarn agored a'r rhagfarn sy'n para yn erbyn pobl LHD, a hybu'r cyfraniad cadarnhaol mae pobl LHD yn ei wneud i fywyd yng Nghymru.
Nod allweddol: Lleihau lefel y camwahaniaethu a deimlir gan bobl LHD yng Nghymru o achos eu portread yn y cyfryngau Cymreig, erbyn diwedd prosiect Comic Relief ym mis Mawrth 2007 (yn cael ei fesur drwy'r arolwg nesaf LHD dros Gymru gyfan).
6. Diogelwch cymunedol - lleihau trosedd casineb homoffobaidd drwy weithio gyda'r heddlu, partneriaethau diogelwch cymunedol a Gwasanaeth Erlyn y Goron [CPS] er mwyn cynyddu: ymwybyddiaeth yr heddlu, y nifer o ddigwyddiadau a adroddir yn swyddogol, a'r nifer o achosion sy'n arwain at erlyniad.
| Dewis y Golygydd | ||
| Clymwch y Cwlwm! Cannlaw i Bartneriaeth Sifil lawrlwytho[2879kb] |
||
| Ffurf PDF | ||
I ddarllen dogfennau ar ffurf pdf, efallai y bydd angen i chi lawrlwytho darllennydd gan Adobe. Cliciwch ar yr eicon uchod i fynd i'w safwe. |
||
| Cysylltiadau Perthnasol | ||
| Ymholiadau'r Cyfryngau | ||