Rydych chi yma > Stonewall Cymru | Stonewall | Stonewall yr Alban
03 Rhagfyr 2008
Map o'r safle

Ein cefndir

Cyfrannwch Nawr

 

Aelodau o'r Cyngor

Bob blwyddyn mae ein haelodau yn ethol cynrychiolwyr i Gyngor Stonewall Cymru.  Mae'r Cyngor yn cyfrannu at gyfeiriad strategol cyffredinol Stonewall Cymru.  Caiff y Cyngor ei gynrychioli ar Fwrdd Stonewall DU gan ei gyd-gaderiyddion.

Rachel Auckland

Rwy’n fam-gu sydd â thri deg o flynyddoedd o brofiad gwaith datblygu cymunedol, gan gynnwys pum mlynedd yn gweithio gyda chymunedau ethnig. Rwy’n byw fel menyw deurywiol sydd ‘allan’, mewn perthynas lesbiaidd gadarn, mewn pentref bychan ger Abertawe. Rwyf wedi gwasanaethu am ddwy flynedd fel person cyfetholedig ar Gyngor Stonewall Cymru, gan arwain pwyllgor y gynhadledd a threfnu digwyddiadau Mas yn y Maes / Out and About. Ar hyn o bryd rwyf yn astudio ar gyfer MA mewn Datblygiad Cynaladwy. Petawn yn cael fy ethol buaswn yn parhau i weithio dros gynhwysedd LHD mewn bywyd cyhoeddus a chymunedol, yn arbennig cyfranogiad amgylcheddol, er enghraifft ym myd cartrefi, trafnidiaeth a chyflogaeth.

Leigh Arundale

Fy enw yw Leigh Arundale, ac rwyf wedi byw yn Hen Golwyn ers pymtheg mlynedd. Rwyf wedi bod ar grŵp llywio Gwyliwch Allan Cymru am 3 blynedd, ac rwy’n parhau i fod yn weithgar gyda nhw ac hefyd gyda Mind. Mae gennyf gyfeillion hoyw yng Nghymru ac hefyd gyda Miss Mae. Mae gennyf 13 mlynedd o brofiad gwaith gwasanaethau Iechyd Meddwl ac roeddwn wedi gwneud gwaith gwirfoddol o fewn is-grwpiau Mind ayyb. Oes, mae gennyf brofiad a gwybodaeth am faterion LHD drwy Gwyliwch Allan Cymru ayyb a thrwy grwpiau eraill hefyd yr wyf yn aelod ohonynt.

Tim Heywood

Andrew Hinchliff

Rwyf yn ddyn hoyw sydd allan, yn gynghorydd sir, rwyf wedi ysgrifennu adroddiad ar faterion LHDT hŷn ar gyfer Llywodraeth y Cynulliad ac rwy’n cadeirio pwyllgor aml-asiantaeth sy’n edrych ar ddarpariaeth LHDT pobl hŷn. Rwyf hefyd yn sefydlu grŵp arfer da OLGA AWAB ar y we er mwyn cynghori ar faterion LHDT hŷn. Rwyf wedi bod yn aelod o Gyngor Stonewall am 3 blynedd. Rwy’n cadeirio Pwyllgor Amrywiaeth LHDT Heddlu Gogledd Cymru ac rwy’n darparu Hyfforddiant Amrywiaeth. Rwy’n gyn gynrychiolydd LHDT UNISON dros Gymru. Mae gennyf hanes o gefnogi hawliau sifil, materion menywod ac yn arbennig materion pobl hŷn.

Gruffudd Jones
Cyd-gadeiryddion

Layton Percy Jones

Rwy’n ddyn hoyw agored sy’n byw yng nghymoedd de Cymru. Ar hyn o bryd rwy’n gweithio fel Rheolwr Cyffredinol Dros Dro Cardiff Action for Single Homeless (sefydliad rwyf wedi gweithio drostynt ers 15 mlynedd). Rwy’n ymwneud â gwleidyddiaeth, roeddwn yn gynghorydd dros Rhondda Cynon Taf, a rhwng 1999 - 2003 roeddwn yn Aelod Cabinet dros Well Iechyd. Yn y 90au cynnar, roeddwn yn rhan o’r broses o sefydlu Llinell Gymorth AIDS Morgannwg Ganol, ac yn Is-Gadeirydd cyntaf iddynt. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod dynion hoyw, lesbiaid, bobl deurywiol a thrawsrywiol yn cael eu cydnabod a’u trin yn gyfartal. Rwyf wedi bod yn aelod o Stonewall yn genedlaethol ers dros 10 mlynedd.

Sylvia Jones

'Rwyf wedi ymrwymo i weithio er mwyn sicrhau cydnabyddiaeth, cydraddoldeb a chwarae teg i lesbiaid, dynion hoyw a phobl ddeurywiol yng Nghymru.  Deuthum allan fel lesbian a ffeminydd 30 mlynedd yn ôl, ac ynghyd ag eraill, 'rwyf wedi profi'r her o fod yn ddidwyll i mi fy hun, gan fyw fel lesbian mewn byd anghyfunrywiol.  Dechreuais ddysgu yn 1975 ac ar hyn o bryd 'rwyf yn gweithio fel uwch swyddog addysg yn Sir Ddinbych.  Mae gen i gryn wybodaeth ynglyn â materion addysg a llywodraeth leol, ynghyd â phrofiad o weithio gydag amrediad o asiantaethau a mudiadau ar faterion sy'n ymwneud ag addysg, plant a phobl ifanc.  Credaf y gallaf ddylanwadu ar yr agenda o ran ymdrin â materion lesbiaidd, hoyw a deurywiol ac addysg, gan gynnwys mynd i'r afael â bwlio homoffobig mewn ysgolion.  Mae gen i hefyd gryn brofiad o waith gwirfoddol o fewn i'r Gymuned LHD yng Ngogledd Cymru dros y bum-mlynedd-ar-hugain diwethaf.

Chris Malkavian

Lee Philips
Cyd-gadeiryddion

Teimlaf fod gen i'r sgiliau angenrheidiol i gefnogi Cyngor Stonewall Cymru er mwyn symud yr agenda LHD ymlaen yng Nghyrmu.  Yn y gorffennol, bum yn wirfoddolwr gyda llinell-gymorth 'Ffrind' yng Nghaerdydd; fi oedd y ddynes gyntaf i fod yn gyd-lynydd gyda'r mudiad'  'Rwyf hefyd wedi bod yn gynrychiolydd ar Gyngor Cenedlaethol 'Ffrind' ac 'roeddwn yn un o aelodau gwreiddiol Grwp Cydlynu LHD Heddlu De Cymru.  Yn ddiweddar, 'rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i fod ar y tîm rheoli a sbardunodd ac a ddatblygodd 'Sygnet', sef Grwp Ieuenctid LHDT Abertawe.  'Rwyf yn fam ac yn gymar lesbiaidd sy'n gweithio i'r gwasanaeth sifil mewn rôl strategaeth a pholisi i Wasanaethau Cyngor Cyfreithiol ledled Cymru.

Federico Podeschi

Yn ystod fy nghyfnod cyflogedig yn Stonewall Cymru ac o fewn y sector wirfoddol, cefais ddealltwriaeth a gwybodaeth helaeth am gyfeiriadedd rhywiol, ac fe gyfrannais at lwyddo i gael gwell cydraddoldeb i bobl LHD yng Nghymru a’r DG. Rwyf wedi darparu Hyfforddiant Ymwybyddiaeth a Chamwahaniaethu LHD, yn ogystal â chydlynu’r rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth, yn aml yn cysylltu hyn gydag anghenion bobl sy’n profi amryfal gamwahaniaethau LHD. Gallaf gynorthwyo Stonewall Cymru i ddosbarthu gwybodaeth a hyrwyddo cydweithio drwy’r rhwydweithiau a ddatblygais yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, yn ogystal â chyfrannu at ei ddatblygiad yn y dyfodol.

Paul Stephen Thomas

Teimlaf y medrwn gyfrannu llawer os cawn fy ethol gan fy mod wedi casglu deiseb ar gyfer partneriaeth sifil, gan gasglu dros  3000 o lofnodion yng Nghwm Cynon. Rwy’n aelod o’r Blaid Lafur ac yn eistedd ar Fwrdd Llywodraethwyr ysgol leol.  Rwy’n drysorydd yn y ganolfan gymunedol leol. Rwy’n ymgymryd â phartneriaeth sifil ym mis Mawrth gyda’m partner o 34 mlynedd. Rwy’n ymwybodol o’r problemau yn y Cymoedd ac yng Nghymru. Rwy’n dda am wrando ac mae fy nrws ar agor i bobl â phroblemau.

Dr Neil Wooding

Neil yw Cyd-Gadeirydd Cyngor Stonewall Cymru ac mae wedi gweithio i hyrwyddo cydraddoldeb lesbiaidd a hoyw ers iddo fod yn ei arddegau.  Ef yw Comisiynydd Cyfleoedd Cyfartal Cymru, ac o 1992 hyd ddechrau 2005, gweithiodd fel Cyfarwyddwr y Ganolfan er Cydraddoldeb a Hawliau Dynol o fewn i'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.  Ar hyn o bryd mae'n gweithio fel Cyfarwyddwr Rheolaeth Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru.

Ynghyd â hyn, mae'n Aelod o'r Bwrdd ac yn Ymddiriedolwr o'r Ymddiriedolaeth AIDS Genedlaethol, Is-Lywydd Cynghrair Bwyd Cymru ac yn Gyfarwyddwr anweithredol o Chwarae Teg Cymru, a Chyngor Cydraddoldeb Hiliol De Ddwyrain Cymru.  Mae Neil yn Gymrawd o'r Ganolfan Genedlaethol er Polisi Cyhoeddus ac yn gynghorydd ar Gydraddoldeb, Hawliau Dynol a Chyfiawnder Cymdeithasol i Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Cyf-etholedig:

Kate Bennett

Daeth Kate Bennet yn Gyfarwyddwr Comisiwn Cyfle Cyfartal Cymru ychydig cyn y sefydlwyd y Cynulliad yn 1999.  Cyn hynny bu'n gweithio fel swyddog undeb llafur llawn-amser gyda MSF, fel ymgyrchydd cymunedol a fel newyddiadurwr ymchwil.  Astudiodd y Berthynas Ddiwydiannol gyda Gwleidyddiaeth a Llywodraeth ym Mhrifysgol Caint.

Mae Kate wedi ymrwymo i weithio gydag eraill i ddiddymu camwahaniaethu a hyrwyddo cydraddoldeb i fenywod a dynion yng Nghymru, beth bynnag fo'u cefndir a'u dull o fyw.  Gallwn drawsnewid Cymru, yn economaidd ac yn gymdeithasol, os yw cydraddoldeb yn ganolog i lunio polisi a'r ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus.

Penni Bestic

Jeff Newsome

Rwy’n byw ger Y Gelli Gandryll ers bron i 35 mlynedd, ar ôl bod drwy’r ysgol yn Leeds, a’r brifysgol yn Llundain. Deffrwyd fy ymwybyddiaeth gwleidyddol drwy orymdeithiau yn erbyn Cymal 28 ac yn fuan wedyn ymunais â Gwasanaethau AidsLine Powys i gael hyfforddiant trylwyr (wel, 60 awr o ddyddiau a phenwythnosau beth bynnag) ar y materion perthnasol. Ymunais â hwy yn 1989, (bellach rwy’n gadeirydd) ac yn 1998 cychwynnais weithio fel gweithiwr iechyd dynion hoyw gyda’r GIC. Parhaodd elfennau o’r gwaith hwnnw hyd at   2007, pan drodd fy ngwaith at bobl hŷn a iechyd meddwl.  Rwy’n rhannu bwthyn hen ffasiwn ar rhent, gyda hanner acer o ardd flodau rhannol wyllt, gyda fy mhartner Patrick, peintiwr.



 




Ffurf PDF
Get Adobe Reader

I ddarllen dogfennau ar ffurf pdf, efallai y bydd angen i chi lawrlwytho darllennydd gan Adobe. Cliciwch ar yr eicon uchod i fynd i'w safwe.

Cysylltiadau Perthnasol
Ein Cefnogi
yn ôl i'r brig