Rydych chi yma > Stonewall Cymru | Stonewall | Stonewall yr Alban
21 Awst 2008
Map o'r safle

Ein cefnogi

Cyfrannwch Nawr

 

Byddwch yn Gyfaill i Stonewall Cymru

Helpwch ni yn ein ymdrechion i sicrhau rhyddid a chydraddoldeb ar gyfer lesbiaid, dynion hoyw a deurywolion. Bydd eich cefnogaeth yn ein galluogi i sicrhau newid parhaol a gwthio am dargedau newydd ledled Cymru, Lloegr a'r Alban. Er mwyn bod yn rhan o'r newid, dewch i fod yn un o Gyfeillion Stonewall heddiw!

Rydym angen eich cefnogaeth wrth i ni barhau i weithio. Dylai lesbiaid, dynion hoyw a deurywolion gael yr hawl i fyw mewn rhyddid a chydraddoldeb. Dewch i fod yn un o Gyfeillion Stonewall - dyma'r ffordd orau i'n cynorthwyo i gymryd camau breision tuag at gydraddoldeb yn y dyfodol.

Fel un o Gyfeillion Stonewall Cymru byddwch yn cyfrannu £5, £10 neu £20 bob mis er mwyn cefnogi ein gwaith hanfodol. Byddwch yn derbyn:

  •  1. Bob rhifyn o'n cylchgrawn ymgyrchu
  •  2. Taflenni gwybodaeth ar hawliau yn rhad ac am ddim
  •  3. Y cyfle cyntaf i fynychu ein digwyddiadau
  •  4. Bathodyn seren deiniadol Stonewall

Bydd pobl sydd yn cyfrannu £20 neu fwy bob mis yn gymwys ar gyfer ein rhaglen Cyfeillion Clòs. Am fwy o fanylion, cliciwch yma .

Er mwyn dod yn un o gyfeillion Stonewall cliciwch yma. Bydd angen i chi lenwi eich enw, cyfeiriad a chyfarwyddyd debyd uniongyrchol ar gyfer £5, £10 neu £20. Cofiwch nodi eich côd post - bydd arian a gyfrannir gan bobl yng Nghymru yn cefnogi gwaith Stonewall Cymru mewn ymgyrchoedd cenedlaethol ac ymchwil, datblygiad polisi ac adnoddau perthnasol i Gymru. Byddwn yn anfon pecyn croeso atoch  yn ystod y diwrnodau nesaf. Diolch!


A yw'n well gennych danlwytho ffurflen gais i'w hanfon atom drwy'r post? Defnyddiwch y cysylltiad hwn: Ffurflen Ddebyd Uniongyrchol

 




Ffurf PDF
Get Adobe Reader

I ddarllen dogfennau ar ffurf pdf, efallai y bydd angen i chi lawrlwytho darllennydd gan Adobe. Cliciwch ar yr eicon uchod i fynd i'w safwe.

Cysylltiadau Perthnasol
Ein Cefndir
yn ôl i'r brig