Rydych chi yma > Stonewall Cymru | Stonewall | Stonewall yr Alban
03 Rhagfyr 2008
Map o'r safle

Ein cefnogi

Cyfrannwch Nawr

 

Cyfrannu at Stonewall Cymru

"Yn wir, fedra i ddim cofio un diwrnod lle nad wyf wedi cael rhyw fath o gyfeiriad at fy rhywioldeb. Rwyf wedi dioddef trais corfforol ddwywaith. Ar y ddau achlysur roedd yn rhaid i mi fynd i'r ysbyty."

Ym mis Ebrill, lansiom ein rhaglen newydd, Addysg i Bawb yn ein Cynhadledd Flynyddol.  Ymgyrch i gael gwared â homoffobia a bwlio homoffobaidd mewn ysgolion yw Addysg i Bawb. Diolch i haelioni ein cefnogwyr rydym wedi medru dechrau'n sylweddol, fel y gwelir mewn nifer o bapurau newydd Cymreig.

Rydym wedi lansio gwefan benodol i ddarparu gwybodaeth ac adnoddau i athrawon a phobl ifanc - y mis diwethaf yn unig, derbyniodd 2,300 o ymwelwyr. Yn hwyrach eleni, bydd drama unigryw am fwlio homoffobaidd yn teithio o amgylch ysgolion Sir Ddinbych.  Bydd Stonewall Cymru hefyd yn cyfrannu at weithdai HMS fel rhan o'n gwaith i gefnogi menter Gwrth-fwlio Llywodraeth y Cynulliad.  Bydd yr wythnos gwrth-fwlio cyntaf yng Nghymru yn rhedeg o'r 10fed o Hydref ymlaen.

Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb haelioni ein cefnogwyr, ac rydym yn gofyn unwaith eto am gefnogaeth i barhau gyda'r gwaith pwysig hwn. Er mwyn gwneud cyfraniad cliciwch yma.

Ers lansio Addysg i Bawb, mae pobl ifanc wedi cysylltu gyda ni gan adrodd straeon torcalonnus am beth sydd yn digwydd iddynt heddiw yn ysgolion Prydain. I rai, galw enwau sydd yn tanseilio eu hunan hyder. Serch hynny, mae plant eraill wedi gorfod mynd i'r ysbyty o achos bwlio homoffobaidd. Mae plant yn cymryd tabledi gwrth-iselder gan nad yw eu hysgolion yn cymryd y math hwn o fwlio o ddifrif.

Mae rhai plant lesbiaidd a hoyw bellach yn gadael yr ysgol yn dioddef o symptomau straen ôl-drawmatig. Mae hynny'n gyhuddiad gwarthus i ysgolion Prydain yn 2005.

Yn anhygoel, o ystyried yr aflonyddu parhaus y maent yn ei dderbyn, ni fu ymgais erioed i fesur profiadau ysgol pobl ifanc hoyw. Gyda'ch cymorth chi, rydym eisiau ymgymryd â'r arolwg cyffredinol cyntaf o brofiadau addysgiadol y cannoedd o filoedd o bobl ifanc hoyw yn ein hysgolion ledled Prydain. Mewn ymarfer eilflwydd tebyg yn America, cafwyd tystiolaeth bwerus o'r niwed sydd yn cael ei wneud i gyfleoedd bywyd pobl ifanc yno.

Mae tystiolaeth pobl ifanc yn rymus ond byddai canlyniadau arolwg cenedlaethol dibenadwy yn ein galluogi i fynd i'r afael yn gryfach gyda'r rhai sy'n gwneud polisïau ac addysgwyr proffesiynol, gan eu perswadio o'r angen dirfawr - sy'n cael ei wrthod yn rhy aml o hyd - i wynebu homoffobia yn ein hysgolion. Mae GLSEN, y corff yn yr UD sydd wedi gwneud y gwaith hwn yn y gorffennol, yn ei ddisgrifio fel "offeryn pwerus wrth newid bywydau pobl ifanc hoyw." Credwn y byddai yr un mor bwerus ym Mhrydain.

Byddwn yn ymchwilio i faterion yn cynnwys amlder camdriniaeth homoffobaidd, ar lafar ac yn gorfforol, os yw ysgolion yn ymyrryd mewn amgylchiadau o'r fath, a sut, a'r effaith benodol mae camdriniaeth o'r fath yn ei gael ar freuddwydion a pherfformiad academaidd pobl ifanc.

Mae'r bobl ifanc sydd yn cysylltu gyda ni wedi ein argyhoeddi faint o waith sydd yn parhau i fod angen ei wneud. Bydd yr arolwg arloesol hwn yn rhoi llais o'r diwedd i filoedd o blant lesbiaidd, hoyw a deurywiol a fyddai fel arall yn ddistaw.

Mae ein cefnogwyr eisoes wedi sicrhau bod modd i ni wneud newidiadau cadarnhaol i fywydau miloedd o blant ysgol. Efallai iddynt gael eu siomi gan eu hathrawon a'u pennaethiaid. Yn aml maent wedi eu siomi gan eu rhieni hefyd. Ond maent yn blant i ni hefyd. Helpwch ni i gyllido yr ymchwil pwysig hwn.

Gwnewch gyfraniad  heddiw. Cliciwch yma i gyfrannu.

Nid yw Stonewall yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros gynnwys safleoedd allanol.




Ffurf PDF
Get Adobe Reader

I ddarllen dogfennau ar ffurf pdf, efallai y bydd angen i chi lawrlwytho darllennydd gan Adobe. Cliciwch ar yr eicon uchod i fynd i'w safwe.

Cysylltiadau Perthnasol
Ein Cefndir
yn ôl i'r brig