Rydych chi yma > Stonewall Cymru | Stonewall | Stonewall yr Alban
03 Rhagfyr 2008
Map o'r safle

Ein cefnogi

Cyfrannwch Nawr

 

Ewyllysion

Y Rhodd Orau Un

Rydym ni i gyd angen cynllunio ar gyfer y dyfodol, er mwyn sicrhau bod darpariaeth ar gyfer ein partneriaid a'n cyfeillion ar ôl ein dyddiau ni.

Er hynny, i nifer ohonom, gall gwneud ewyllys olygu cymaint yn fwy. Dyma un o'r ffyrdd mwyaf arwyddocaol a fydd gennym byth i gefnogi Stonewall, ac o ganlyniad helpu lesbiaid, dynion hoyw a deurywolion eraill.

Rydym wedi dod mor bell, yn arbennig gyda Phartneriaethau Sifil, a oedd yn fuddugoliaeth arwyddocaol. O'r diwedd, mae'r ddeddfwriaeth hon wedi rhoi yr un hawliau i ni â chyplau heterorywiol, nid oes angen i bartneriaid hoyw ofni colli eu cartrefi pan fo'u ceraint yn marw na theimlo ergyd trethi etifeddiaeth anheg. Ni wyddom beth a ddaw yn y dyfodol, ond gwyddom bod Stonewall yn parhau i fod wedi ymrwymo i homoffobia a chamwahaniaethu.

Mae nifer o bobl ifanc yn dal i wynebu camdriniaeth homoffobaidd dychrynllyd mewn ysgolion ledled y wlad. Dywed un o bob pedwar o athrawon ysgolion uwchradd eu bod yn ymwybodol o fwlio corfforol homoffobaidd, a dywed pedwar o bob pump eu bod yn ymwybodol o fwlio ar lafar. Mae'r effaith ar y bobl ifanc lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn ddinistriol, gyda bron i hanner y rhai sydd wedi cael eu bwlio wedi ystyried hunan-laddiad neu hunan-niwed, ac mae eu haddysg hefyd yn dioddef gan eu bod yn fwy tebygol o adael yr ysgol yn gynnar. Dyma pam fod Stonewall yn ymgyrchu i roi terfyn ar y math hwn o gamdriniaeth.

Drwy adael rhodd i Stonewall yn eich ewyllys, gallwch chi hefyd ein cynorthwyo i gynllunio a pharhau ein gwaith hanfodol o amddiffyn cenedlaethau'r dyfodol rhag ddiflastod camdriniaeth homoffobaidd.

Os hoffech wybod mwy am adael rhodd i Stonewall yn eich ewyllys, cysylltwch ag Anna ar 020 7881 9448 neu drwy ebost anna.walton@stonewall.org.uk.

* Nid yw Stonewall yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys safleoedd allanol.




Ffurf PDF
Get Adobe Reader

I ddarllen dogfennau ar ffurf pdf, efallai y bydd angen i chi lawrlwytho darllennydd gan Adobe. Cliciwch ar yr eicon uchod i fynd i'w safwe.

Cysylltiadau Perthnasol
Ein Cefndir
yn ôl i'r brig