Rydych chi yma > Stonewall Cymru | Stonewall | Stonewall yr Alban
03 Rhagfyr 2008
Map o'r safle

Ein cefnogi

Cyfrannwch Nawr

 

Cyfeillion Clòs Stonewall Cymru

Cyfrannwch £20 neu fwy bob mis a chlosiwch at Stonewall Cymru.

Mae Cyfeillion Clòs yn eithriadol o bwysig i Stonewall, maent yn darparu cefnogaeth sylweddol yn barhaus ar gyfer ein rhaglen waith uchelgeisiol.

Mae Cyfeillion Clòs yn derbyn holl fuddiannau arferol y cynllun cyfeillion: cylchlythyr Stonewall, gwahoddiadau blaenoriaethol i'n holl ddigwyddiadau, taflenni gwybodaeth rhad ac am ddim ar hawliau lesbiaidd, hoyw a deurywiol a'n bathodyn seren deiniadol.

Yn ogystal mae cyfeillion clòs Stonewall yn derbyn:

  • Y newyddion diweddaraf ar ein ymgyrchoedd a'n mentrau drwy ebost neu'r post.
  • Gwahoddiadau i ddod i gwrdd â ni, am y newyddion diweddaraf oddi wrth ein Prif Weithredwr, Ben Summerskill, neu sgwrs gan rywun fel yr Arglwydd Lester a hyrwyddodd ein gwaith ar hawliau partneriaeth yn Nhŷ'r Arglwyddi.
  • Cyfleoedd i'n cynorthwyo i berffeithio ein polisïau drwy ymateb yn uniongyrchol

 

I fod yn un o Gyfeillion Clòs Stonewall CLICIWCH YMA. Bydd angen i chi lenwi eich enw, cyfeiriad a chyfarwyddyd debyd uniongyrchol ar gyfer £20 neu fwy bob mis. Cofiwch gynnwys eich côd post gan y bydd cyllid a godir yng Nghymru yn mynd tuag at ymgyrchoedd cenedlaethol ac ymchwil, datblygu polisi ac adnoddau penodol i Gymru. Byddwn yn anfon pecyn croeso atoch yn ystod y diwrnodau nesaf. Diolch!

Yn anad dim, Cyfeillion Clòs yw asgwrn cefn ariannol holl waith Stonewall. Yn syml, y mwyaf o arian a godwn, y mwyaf y medrwn ei gyflawni ar gyfer cydraddoldeb.

Os medrwch ei fforddio, dewch yn gyfaill clòs heddiw.

A yw'n well gennych danlwytho ffurflen gais i'w hanfon atom drwy'r post? Defnyddiwch y cysylltiad hwn: Ffurflen Ddebyd Uniongyrchol

* Nid yw Stonewall yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros gynnwys safleoedd allanol.




Ffurf PDF
Get Adobe Reader

I ddarllen dogfennau ar ffurf pdf, efallai y bydd angen i chi lawrlwytho darllennydd gan Adobe. Cliciwch ar yr eicon uchod i fynd i'w safwe.

Cysylltiadau Perthnasol
Ymgyrchoedd
yn ôl i'r brig