
Cynhelir yr arolwg gan Ymchwil Sigma dros Stonewall ar anghenion iechyd dynion hoyw, deurywiol a dynion eraill sy’n cael rhyw gyda dynion. Bydd yr arolwg yn gofyn ystod o gwestiynau i chi am eich iechyd gan gynnwys:
Mae’r arolwg ar gyfer dynion sy’n byw ym Mhrydain.
Hwn fydd yr arolwg mwyaf erioed ar iechyd dynion hoyw. Gwyddom eithaf tipyn am iechyd rhywiol dynion hoyw ond ychydig iawn sy’n hysbys am anghenion iechyd ehangach dynion hoyw a deurywiol.
Yn 2007, cynhaliodd ymchwilwyr arolwg tebyg dros Stonewall sef arolwg ar anghenion iechyd lesbiaid. Cyn yr arolwg hwn, cymerir yn ganiataol gan lawer nad oedd gan lesbiaid anghenion iechyd penodol. Ond datgelodd yr arolwg arloesol hwn ystod ysgytwol o broblemau na nodwyd o’r blaen.
Drwy ailadrodd graddfa’r arolwg hwn gyda dynion hoyw a deurywiol, gallwn weld a oes bylchau tebyg yn ein gwybodaeth o ran eu hanghenion iechyd penodol nhw.
Bydd canfyddiadau’r ymchwil hon yn arfogi darparwyr gofal iechyd, gwneuthurwyr polisi, ymgyrchwyr a dynion hoyw a deurywiol eu hunain i sicrhau y gofelir am eu hanghenion iechyd mewn modd teg.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych am gael fersiwn brint o’r arolwg yn Saesneg, cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth Stonewall ar 08000 50 20 20.

Sylwadau am y dudalen