Cynhelir yr arolwg gan ymchwilwyr Canolfan Ymchwil Teulu Prifysgol Caergrawnt, ar ran Stonewall. Mae Stonewall yn fudiad sy’n ymgyrchu dros gydraddoldeb i bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD). Mae’r Ganolfan Ymchwil Teulu wedi gwneud llawer o ymchwil gyda theuluoedd a phobl ifanc. Y ddau aelod o’r Ganolfan sy’n cynnal yr ymchwil yw Helen Statham a Vasanti Jadva.
Cliciwch yma i ddysgu mwy am Stonewall Cymru a’r Ganolfan Ymchwil Teulu.
Bum mlynedd yn ôl cynhaliodd Stonewall yr astudiaeth fawr gyntaf am brofiadau pobl ifanc LHD yn yr ysgol. Dangosodd yr arolwg bod nifer o bobl ifanc LHD yn cael eu bwlio, a bod llawer o ysgolion yn gwneud dim am y peth. Mae Stonewall wedi defnyddio’r wybodaeth a gafwyd o’r arolwg hwnnw i geisio gwella’r sefyllfa, ac fe fydd yr arolwg hwn yn dangos sut mae’r sefyllfa erbyn hyn. Bydd modd i ni weld os yw pethau wedi gwella, a beth sydd angen ei wneud o hyd.
Mae’r arolwg am eich profiadau yn yr ysgol neu goleg – os yw eich ysgol yn eich helpu, sut mae’n delio gyda bwlio, a beth ellid ei wneud yn well. Hefyd mae cwestiynau am eich teimladau, am y math o ysgol yr ydych yn ei mynychu, ym mha ardal yr ydych yn byw, a phethau eraill amdanoch chi.
Gallwch gyfranogi os ydych yn yr ysgol neu goleg (yn cynnwys colegau Addysg Bellach) yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, neu os ydych wedi gadael yn ddiweddar; os ydych rhwng 11 a 19 oed; a’ch bod yn lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol (neu’n amau hynny). Gallwch ddweud wrth eich ffrindiau am yr arolwg os ydych yn meddwl efallai eu bod am gyfranogi.
Os fyddwch yn llenwi’r arolwg arlein bydd NEB yn gwybod i chi gyfranogi. Nid ydym yn gofyn am unrhyw wybodaeth bersonol – felly ni fyddwn yn gwybod eich enw, eich cyfeiriad, eich cyfeiriad ebost na’ch rhif ffôn. BYDD POPETH Y BYDDWCH YN EI DDWEUD YN GWBL GYFRINACHOL A DIENW.
Os fyddwch yn gofyn am gopi caled o’r arolwg, byddwn yn cael gwared o’ch manylion cyswllt yn syth ar ôl ei anfon atoch. Ni fydd y copi papur yn gofyn am unrhyw fanylion personol, felly pan fyddwch yn ei ddychwelyd, bydd yn GWBL GYFRINACHOL A DIENW.
Dylai’r arolwg gymryd tua 30 munud i’w chwblhau. Po fwyaf y byddwch yn ei ddweud, y mwyaf o wybodaeth fydd gennym! Mae’r mwyafrif o’r cwestiynau yn gofyn i chi roi tic mewn blwch, ond mae llawer o ofod i chi ysgrifennu am yr hyn sy’n bwysig yn eich barn chi.
Hoffem i chi ateb yr holl gwestiynau, ond os fyddai’n well gennych beidio ag ateb rhai ohonynt, bydd popeth yn iawn. Gallwch stopio ar ei ganol a dychwelyd ato, cyn belled ag eich bod yn defnyddio’r un cyfrifiadur. Os fyddwch yn penderfynu cyfranogi ac yna’n ailfeddwl – gallwch stopio. Nid oes rhaid i chi roi unrhyw reswm i ni, ac ni fyddwn yn defnyddio unrhyw wybodaeth yr ydych wedi’i ddarparu.
Efallai bydd rhai cwestiynau yn peri gofid i chi os fyddant yn gwneud i chi feddwl am bethau anodd sydd wedi digwydd i chi yn yr ysgol. Rydym wedi darparu rhestr o rifau ffôn a gwefannau ar ddiwedd yr arolwg ar gyfer llefydd a mudiadau a all eich cynorthwyo os hoffech sgwrs. Gallwch hefyd gysylltu â ni drwy unrhyw un o’r ffyrdd isod os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Os hoffech gael mwy o wybodaeth, gallwch gysylltu â ni drwy’r dulliau canlynol.
Ebost: speakout@sdp.cam.ac.uk
Ffoniwch: 01223334580 naill ai i siarad gyda’n hysgrifenyddes neu i adael neges ar ei pheiriant ateb
Ysgrifennwch at: Helen and Vasanti, Centre for Family Research, University of Cambridge, Cambridge CB2 3RF
Noder mai yn Saesneg yn unig y gellir gohebu’n uniongyrchol gyda’r Ganolfan yng Nghaergrawnt. I gael cyngor yn Gymraeg, cysylltwch â swyddfa Stonewall Cymru, drwy anfon ebost at cymru@stonewallcymru.org.uk.
Byddwn yn gwneud cymaint ag y gallwn i sicrhau cyfieithiad neu berson i’ch helpu i’w lenwi. Cysylltwch â ni drwy unrhyw un o’r ffyrdd uchod os hoffech drafod hyn.
Pan fyddwn yn derbyn eich atebion, bydd y wybodaeth yn cael ei rhoi mewn rhaglen gyfrifiadurol er mwyn i ni ddadansoddi’r data. Byddwn yn defnyddio’r canlyniadau i ysgrifennu adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi yn 2012. Ar ddiwedd yr arolwg byddwn yn nodi ble gallwch weld yr adroddiad hwnnw. Bydd yr adroddiad yn cynnwys llawer o ystadegau, a rhai o’r sylwadau a wnaed, ond heb unrhyw fanylion personol.
Os ydych wedi darllen y dudalen hon, ac wedi deall yr hyn a ddywedwyd, ac nad oes gennych fwy o gwestiynau, rydych yn barod i gyfranogi – cliciwch ar y ddolen isod. Mae pedwar o gwestiynau sydd yn RHAID eu hateb – rhowch dic yn y blychau, yna gallwch gyfranogi.

Sylwadau am y dudalen