Rydych chi yma > Stonewall Cymru | Stonewall | Stonewall yr Alban
06 Ionawr 2009
Map o'r safle

Gweithle

Cyfrannwch Nawr

 

Rhaglen Seminar 2008

  • 24ain Ionawr  - 'Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle – Offeryn i wella eich busnes'
    Bydd y seminar yn cynnwys cyflwyniad gan David Shields, Cyfarwyddwr rhaglenni gweithle Stonewall a Hyrwyddwr Amrywiaeth Cymru, yn ogystal â chyflwyniad gan Heddlu Gwent.

    Amser a Lleoliad: 10:00 - 1:00 yn ystafelloedd hyfforddi Heddlu Gwent, Caerleon House, Mamhilad Park Estate, Pont-y-pŵl NP4 0XF.  Darperir cinio.

  • 20 Mai 2008 – Datblygu Gyrfa.
    Dyma seminar cynhwysfawr yn cyflwyno datblygu gyrfa ar gyfer pobl Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol, a sut i sicrhau cydraddoldeb mewn datblygiad gyrfaoedd yn eich gweithle. Bydd y seminar hon yn cynnwys cyflwyniad gan Heddlu Gwent a Stonewall, yn ogystal â chyflwyniad gan y gwahoddwyr - Rolls Royce 

    Amser a Lleoliad: 10:00 - 13:00 yng nghyfleusterau hyfforddi BAWA Rolls Royce, 589 Southmead Road, Filton, Bryste, BS34 7RG. Darperir cinio

  • 21ain Awst 2008 - Sicrhau amrywiaeth cyflenwyr.
    Bydd y seminar hon yn edrych ar ffyrdd o sicrhau bod eich cyflenwyr hefyd yn effeithiol yn eu polisïau cydraddoldeb ac amrywiaeth Cyfeiriadedd Rhywiol. Yn dilyn cyflwyniadau gan yr hyrwyddwyr, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Stonewall bydd cyfle i gael taith wedi'i thywys o amgylch adeilad y Senedd, ar ôl rhwydweithio dros ginio.

    Amser a Lleoliad: 10:00 - 13:00 adeilad y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd. 13:00-14:00 Taith o amgylch adeilad y Senedd

  • 20fed Tachwedd 2008 - Bod 'Allan' yn y gweithle.
    Yn y seminar hon bydd Siaradwyr yn cyflwyno eu profiadau o fod allan yn y gwaith, ac yn trafod y ffordd orau i hwyluso awyrgylch yn y gweithle lle mae staff LHD yn teimlo'n gysurus i fod allan

    Amser a Lleoliad: 10:00-13:00 Eversheds, Caerdydd

  • 2il Rhagfyr 2008 - Digwyddiad rhwydweithio anffurfiol gyda'r hwyr.
    Cyfle i Hyrwyddwyr Amrywiaeth gyfarfod er mwyn rhwydweithio, rhannu profiadau a dathlu cynydd dros y flwyddyn.

    Amser a Lleoliad: 6pm i 8pm, Transport House, 1 Heol y Gadeirlan, Caerdydd


Dewis y Golygydd
word document icon Pecyn gwybodaeth Hyrwyddwyr Amrywiaeth Cymru
Llawrlwytho
word document icon Ffurflen gais Hyrwyddwyr Amrywiaeth Cymru
Llawrlwytho

Ffurf PDF
Get Adobe Reader

I ddarllen dogfennau ar ffurf pdf, efallai y bydd angen i chi lawrlwytho darllennydd gan Adobe. Cliciwch ar yr eicon uchod i fynd i'w safwe.

Cysylltiadau Perthnasol
Cyflogaeth
yn ôl i'r brig