Enw Da
Recriwtio
Cynhyrchiant
Osgoi cyfraith
Cymeradwyaeth
Fiona Bartels-Ellis, Pennaeth Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Cyngor Prydeinig -
Ennillydd Mynegai Cydraddoldeb Corfforiaethol 2005
"Mae aelodaeth o raglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall wedi'n cynorthwyo i ddod yn esiampl yn nhermau cydraddoldeb ac amrywiaeth ac mae hefyd wedi'n cynorthwyo i wella ein perfformiad fel sefydliad."
Larry Hirst, Rheolwr Cyffredinol, IBM (DG) ac Iwerddon
"Rwy'n mawr werthfawrogi rhan IBM yn rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth. Yn IBM, rydym yn cyflogi y bobl gorau beth bynnag fo'u crefydd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, hil, oed neu anabledd. Mae gweithio gyda Stonewall yn ein galluogi i rannu arfer da a dysgu oddi wrth eraill, ac i sicrhau bod IBM yn gwmni cynhwysol a chadarnhaol wrth ddelio gyda'r cyflogedig a chwsmeriaid fel ei gilydd."
Will Hutton, Prif Weithredwr, Work Foundation
"Rwy'n hapus iawn fod Stonewall wedi cymryd yr awennau yn y gwaith pwysig hwn. Dengys hyn bod cyflogwyr blaengar yn integreiddio cyfeiriadedd rhywiol ac amrywiaeth yn effeithiol wrth galon cynllunio strategol cadarn. Mae Stonewall yn gwneud cyfraniad sylweddol at arfer da mewn gweithleoedd ledled Prydain. Mae'r Work Foundation yn falch iawn o gefnogi'r gwaith yma."
Dr Ashley Steel, aelod bwrdd, KPMG
"Rydym yn falch iawn o fod yn aelod o raglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall. Mae hyn yn anfon neges gryf iawn i staff lesbiaidd a hoyw KPMG, eu bod yn rhan o'n cwmni sydd yn cael eu gwerthfawrogi. Mae hefyd yn atgoffa'r holl staff ein bod yn gweithio mewn amgylchedd amrywiol sydd yn dda ar gyfer ein busnes. Yn ystod y cyfnod byr yr ydym wedi bod yn cydweithio rydym wedi gwerthfawrogi'r cyfraniad a wnaed gan Stonewall i gefnogi KPMG yn y maes pwysig hwn."
Is-Lyngesydd Sir James Burnell-Nugent, Ail Arglwydd y Morlys
"Nod y Llynges Frenhinol yw bod yn Lynges o'r safon uchaf, yn barod i ymladd ac ennill. Yr unig ffordd y gellir cyflawni hyn yw bod ein pobl yn teimlo eu bod yn aelodau o dîm sydd yn cael eu gwerthfawrogi, sydd yn rhannu cwlwm teyrngarwch ac ymddiriedaeth gydag eraill yn eu llong a'u huned. Gyda'm cyfrifoldeb dros les holl bersonél y llynges, rwyf yn ymroddedig i sicrhau bod gan y Llynges Frenhinol ddiwylliant lle mae'n holl bobl yn cael eu gwerthfawrogi fel unigolion, ac felly'n medru rhoi 100 y cant i'w swydd. Edrychaf ymlaen i weithio gyda Stonewall er mwyn helpu i sicrhau bod hyn yn digwydd."
| Dewis y Golygydd | ||
| Hyrwyddwyr Amrywiaeth Cymru: Pecyn Gwybodaeth Llawrlwytho |
||
| Hyrwyddwyr Amrywiaeth Cymru: Ffurflen gais Llawrlwytho |
||
| Ffurf PDF | ||
I ddarllen dogfennau ar ffurf pdf, efallai y bydd angen i chi lawrlwytho darllennydd gan Adobe. Cliciwch ar yr eicon uchod i fynd i'w safwe. |
||
| Cysylltiadau Perthnasol | ||