Lansiwyd Hyrwyddwyr Amrywiaeth gan Stonewall yn 2001. Mae'n fforwm lle gall cyflogwyr weithio gyda Stonewall er mwyn hybu amrywiaeth yn y gweithle.
Mae Hyrwyddwyr Amrywiaeth yn uno cyflogwyr blaengar wrth ddarparu amrywiaeth ym myd busnes a gwasanaethau cyhoeddus, ac yn canolbwyntio ar sialensiau a chyfleoedd newydd i gyflogwyr sy'n edrych ar faterion amrywiaeth yn y gweithle.
Mae aelodau yng Nghymru yn gweithio mewn cyd-destun cydraddoldeb unigryw yn y DG, lle mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ymrwymo i hybu cydraddoldeb i BAWB. Gall Hyrwyddwyr Amrywiaeth Cymru gael mynediad at rhaglen lawn Hyrwyddwyr Amrywiaeth a seminarau ychwanegol sy'n rhoi cyngor ar brif ffrydio materion cyfeiriadedd rhywiol wrth ddarparu nwyddau, adnoddau a gwasanaethau.
Mae Hyrwyddwyr Amrywiaeth yn mwynhau 10 o fuddiannau allweddol:
1. Seminarau a digwyddiadau arfer da sy'n darparu gwybodaeth allweddol ar faterion cyfoes. Cliciwch yma am rhaglen seminar 2007.
2. Cyfleoedd rhwydweithio gyda'r llywodraeth a'r rhai sy'n gwneud polisiau, ac uwch staff mewn sefydliadau eraill o'r sectorau cyhoeddus a phreifat.
3. Mynediad at y syniadau a'r wybodaeth ddiweddaraf.
4. Cyngor ar fentrau penodol i sefydliadau a hyfforddiant addas ar gyfer eich sefydliad am bris gostyngol.
5. Rheolydd a staff penodol i'r rhaglen.
6. Dylanwad dros ddatblygiad polisi yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.
7. e-fwletinau rheolaidd.
8. Cofnod am ddim yn llyfryn blynyddol Stonewall i recriwtio myfyrwyr, a chysylltiad am bris gostyngol gyda thudalennau recriwtio Stonewall Cymru ar y we, www.stonewallcymu.org.uk
9. Cyfleoedd Ymchwil, er mwyn cael data gwreiddiol ar gyfer eich sefydliad.
10. Cyfleoedd Nawdd, er mwyn cael argraff gadarnhaol o'r brand.
Sut i ymuno
I lwytho pecyn gwybodaeth Hyrwyddwyr Amrywiaeth Cymru i lawr, cliciwch yma
I lwytho ffurflen gais Hyrwyddwyr Amrywiaeth Cymru i lawr, cliciwch yma
| Dewis y Golygydd | ||
| Hyrwyddwyr Amrywiaeth Cymru: Pecyn Gwybodaeth Llawrlwytho |
||
| Hyrwyddwyr Amrywiaeth Cymru: Ffurflen gais Llawrlwytho |
||
| Ffurf PDF | ||
I ddarllen dogfennau ar ffurf pdf, efallai y bydd angen i chi lawrlwytho darllennydd gan Adobe. Cliciwch ar yr eicon uchod i fynd i'w safwe. |
||
| Cysylltiadau Perthnasol | ||
| Cyflogaeth |
||