
Cyflwyniad
Ydych chi wedi gweld erthygl neu lythyr mewn papur newydd neu gylchgrawn sydd wedi eich siomi? Neu efallai i chi weld un sydd yn portreadu'r gymuned LHD mewn ffordd gadarnhaol?
Os felly, mae'n bwysig i chi leisio'ch barn.
Mae 'Llythyr at y Golygydd' yn ffordd ardderchog i unioni straeon niweidiol, dechrau trafodaeth fywiog a hybu agweddau cadarnhaol am y gymuned LHD.
Dyma ganllaw Gwyliwch Allan i ysgrifennu llythyr da, gan roi awgrymiadau am ffyrdd o gynyddu'r siawns o weld eich llythyr yn cael ei gyhoeddi.
1. Cadwch yn gryno
2. Nodwch yn glir pa stori yr ydych yn cyfeirio ati
3. Dewiswch ambell bwynt allweddol yr ydych am eu codi
4. Byddwch yn glir am y rheswm yr ydych yn ysgrifennu
5. Peidiwch â defnyddio iaith ymosodol neu sarhaus
6. Byddwch yn sicr o'ch ffeithiau
7. Byddwch yn glir am sut yr hoffech weld y mater yn cael ei drin
8. Cofiwch gynnwys eich enw a'ch cyfeiriad bob tro
9. Ac ar ôl anfon eich llythyr, anfonwch gopi at Gwyliwch Allan.
| Ffurf PDF | ||
I ddarllen dogfennau ar ffurf pdf, efallai y bydd angen i chi lawrlwytho darllennydd gan Adobe. Cliciwch ar yr eicon uchod i fynd i'w safwe. |
||
| Cysylltiadau Perthnasol | ||
| Cysylltu gyda'r Cyfryngau | ||