Mae Stonewall Cymru a Triongl Cymru yn lansio adroddiad sylweddol i anghenion tai pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yng Nghymru. Bydd yr adroddiad, O'r tu allan i'r tu mewn: Sut y gall gwasanaethau tai gwrdd ag anghenion pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn cael ei lansio ar ddydd Iau 3 Hydref yn y Cynulliad Cenedlaethol.
Mae'r adroddiad yn datgelu canfyddiadau syfrdanol o ran anghenion tai LHD:
Meddai Jacqui Jablaoui, Rheolwr Prosiect, Triongl Cymru 'Er bod gennym dystiolaeth ar lafar am ymosodiadau ac aflonyddu homoffobaidd drwy'r galwadau at linell tai a chymorth Triongl Cymru, mae gweld canfyddiadau'r ymchwil yn parhau i fod yn sioc.'
Meddai Matthew Batten, Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus Stonewall Cymru 'Mae'n hanfodol bod awdurdodau lleol a darparwyr tai yn deall anghenion tai penodol pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol. Rydym yn galw ar bob un sy'n darparu tai i arddel agwedd o ddim goddefgarwch tuag at homoffobia, ac i gyflwyno polisïau a dulliau gweithredu cynhwysfawr sy'n wynebu anghenion pobl LHD yng Nghymru.'
Bydd y lansiad yn digwydd am 5.30pm yn y Neuadd, Tŷ Crickhowell, Adeilad y Cynulliad Cenedlaethol. Ffoniwch Jacqui Jablaoui ar 029 2045 3030 neu 07766251314 am fwy o fanylion.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Jacqui Jablaoui ar 029 2045 3030 ebost jj1@gwalia.com neu cysylltwch â Matthew Batten ar 029 2023 7744, matthew.batten@stonewall.org.uk
Nodiadau ar gyfer golygyddion
1. Ceir adroddiad O'r Tu Allan i'r Tu Mewn ar www.stonewallcymru.org.uk/publicationscymru
2. Stonewall Cymru yw grŵp ymgyrchu lesbiaidd, hoyw a deurywiol Cymru gyfan. www.stonewallcymru.org.uk
3. Mae Triongl Cymru yn darparu cefnogaeth tai i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol. www.trianglewales.co.uk Llinell gymorth 0808 801 0306