Rydych chi yma > Stonewall Cymru | Stonewall | Stonewall yr Alban
03 Rhagfyr 2008
Map o'r safle

Newyddion

Cyfrannwch Nawr

 

Lansio arolwg newydd o ofal iechyd hoyw yng ngogledd a chanolbarth Cymru

Mae prosiect gofal iechyd Stonewall Cymru, Tu Mewn Tu Allan, yn lansio arolwg sylweddol newydd o anghenion gofal iechyd pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD) yng ngogledd a chanolbarth Cymru. Dyma'r arolwg cyntaf yng Nghymru i ymchwilio i brofiadau gofal iechyd y gymuned hoyw yng ngogledd a chanolbarth Cymru. Lluniwyd yr arolwg yn gyfangwbl gan bobl LHD eu hunain.

Meddai Jenny Porter, Swyddog Cyswllt Cymunedol Stonewall Cymru, 'Mae prosiect Tu Mewn Tu Allan yn rhan hanfodol o'n gwaith ymgyrchu parhaus er mwyn sicrhau bod pob person lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn derbyn triniaeth deg.'

Ychwanegodd Jenny Porter, 'Rydym yn dal i glywed am enghreifftiau o wrthod profion ceg y groth i lesbiaid o achos eu rhywioldeb, a dynion hoyw yn ofni dod allan wrth eu meddyg rhag ofn iddynt eu hanfon i gael prawf HIV/AIDS - am eu bod yn hoyw. Bydd canfyddiadau'r arolwg yn rhoi darlun clir o'r materion sy'n codi i bobl LHD mewn sefyllfaoedd gofal iechyd, ac yn ysgogi ein gwaith ymgyrchu yn y dyfodol.'

Mae Canolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol GIC Cymru, ac aelodau o grŵp llywio o ystod o ddarparwyr gwasanaethau lleol yn cefnogi'r prosiect. Cyflwynir y canfyddiadau i Lywodraeth y Cynulliad a GIC Cymru yn y gwanwyn.

Er mwyn cymryd rhan yn yr arolwg ewch at www.stonewallcymru.org.uk/tumewntuallan

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Jenny Porter ar 01248 370082, jenny.porter@stonewall.org.uk neu Stiwart Edwards ar 01248 372481, Stiwart.edwards@stonewall.org.uk

Nodiadau ar gyfer golygyddion

1. Stonewall Cymru yw grŵp ymgyrchu lesbiaidd, hoyw a deurywiol Cymru gyfan. www.stonewallcymru.org.uk



Editor's Choice
Holiadur Tu Mewn Tu Allan
lawrlwytho

Ffurf PDF
Get Adobe Reader

I ddarllen dogfennau ar ffurf pdf, efallai y bydd angen i chi lawrlwytho darllennydd gan Adobe. Cliciwch ar yr eicon uchod i fynd i'w safwe.

Cysylltiadau Perthnasol
Tu Mewn Tu Allan
yn ôl i'r brig