Rydych chi yma > Stonewall Cymru | Stonewall | Stonewall yr Alban
03 Rhagfyr 2008
Map o'r safle

Newyddion

Cyfrannwch Nawr

 

Cynhadledd Stonewall Cymru yn herio troseddau casineb homoffobaidd yng Nghymru

Herio Troseddau Casineb Homoffobaidd yng Nghymru yw'r mater allweddol yng Nghynhadledd Flynyddol Stonewall Cymru yn Abertawe'r mis nesaf.

Ymysg y siaradwyr bydd cynrychiolwyr o Heddlu De Cymru, Gwasanaeth Erlyn y Goron a Chymorth i Ddioddefwyr, a fydd yn tynnu sylw at y gwaith cadarnhaol sy'n cael ei wneud i herio troseddau casineb homoffobaidd yng Nghymru.

Meddai Jenny Porter, Swyddog Cyswllt Cymunedol Stonewall Cymru, "Rhaid cymryd troseddau casineb homoffobaidd o ddifrif yng Nghymru. Rhwng Ebrill 2005 a 2006 adroddwyd am cyn lleied â 500 o droseddau casineb homoffobaidd yng Nghymru, a 25 o achosion yn unig a gafodd eu herlyn yn llwyddiannus."

"Gobeithiwn y bydd y Gynhadledd yn annog mwy o bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol i adrodd wrth yr heddlu am droseddau casineb homoffobaidd, a'u hysgogi i weithio gyda'r Heddlu i wella'u diogelwch yn eu cymuned lleol."

Hefyd bydd gweithdai yn edrych ar ffyrdd y gall yr Heddlu a'r gymuned lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD) gydweithio i wella diogelwch cymunedol.

Cynhelir y Gynhadledd dydd Sadwrn, 31 Mawrth, 11.30am - 5.30pm, yng Nghanolfan Dylan Thomas, Abertawe.

Er mwyn cofrestri ar gyfer y Gynhadledd ewch at www.stonewallcymru.org.uk/conference2007
neu cysylltwch ag Ele Hicks
ar Cymru@stonewall.org.uk neu ffoniwch 029 2023 7744.

Astudiaethau Achos

  • Ydych chi wedi dioddef trosedd casineb homoffobaidd?
  • A fyddech yn fodlon rhannu eich profiadau a chynorthwyo i hybu ein gwaith ymgyrchu a lobïo?

Os ydych chi wedi profi trosedd casineb homoffobaidd, hoffem gadw cofnod o'ch stori. Yn achlysurol iawn, a gyda'ch caniatâd yn unig, gallwn gynnig eich stori i'r cyfryngau er mwyn tynnu sylw at y materion sy'n wynebu cymunedau LHD.

Am fwy o wybodaeth ewch at www.stonewallcymru.org.uk/astudiaethachos  a chliciwch ar y cysylltiad gyda'r ffurflen astudiaeth achos, lle gallwch adael i ni wybod pa fath o waith gyda'r cyfryngau y buasech yn gysurus yn ei wneud.




Ffurf PDF
Get Adobe Reader

I ddarllen dogfennau ar ffurf pdf, efallai y bydd angen i chi lawrlwytho darllennydd gan Adobe. Cliciwch ar yr eicon uchod i fynd i'w safwe.

yn ôl i'r brig