Rydych chi yma > Stonewall Cymru | Stonewall | Stonewall yr Alban
03 Rhagfyr 2008
Map o'r safle

Newyddion

Cyfrannwch Nawr

 

Ymgynghoriad - Gwasanaeth Erlyn y Goron

Mae Polisi Gwasanaeth Erlyn y Goron ar gyfer Erlyn Achosion o Droseddau Casineb Homoffobaidd neu Trawsffobaidd wedi cael ei adolygu - ymgynghoriad hyd at 25ain Mai.

Dyma gyfle da i bobl LHD a T ystyried y broses o erlyn achosion o droseddau casineb homoffobaidd a thrawsffobaidd, a thynnu sylw Gwasanaeth Erlyn y Goron at unrhyw bwyntiau ynglyn â'r dulliau gweithredu a all fod angen ystyriaeth bellach.

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi gwneud nifer o ddatblygiadau deddfwriaethol arwyddocaol ers cyhoeddi'r polisi cyntaf yn 2002 ac felly mae'r polisi diwygiedig hwn yn un cynhwysfawr.

Mae'r ddogfen bolisi yn cynnwys: beth yw trosedd homoffobaidd a thrawsffobaidd; swyddogaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron; Côd ar gyfer Erlynwyr y Goron; Heddlua Troseddau Casineb; Erlyn achosion o droseddau homoffobaidd a thrawsffobaidd; Beth sy'n digwydd os fydd y dioddefwr yn dymuno peidio parhau â'i gefnogaeth i'r erlyniad neu os nad yw am roi tystiolaeth?; Parhau gydag achos lle mae dioddefwr wedi tynnu ei gefnogaeth i'r erlyniad yn ôl; Cefnogaeth i Ddioddefwyr a Thystion; Dedfrydu; Cofnodi troseddau casineb.

I lwytho'r papur ymgynghorol Polisi Erlyn Achosion o Droseddau Casineb Homoffobaidd neu Trawsffobaidd PDF i lawr, cliciwch yma

Croesawir sylwadau erbyn Gwener 25 Mai.
I ymateb i'r ymgynghoriad anfonwch eich sylwadau at ht.crime@cps.gsi.gov.uk 




Ffurf PDF
Get Adobe Reader

I ddarllen dogfennau ar ffurf pdf, efallai y bydd angen i chi lawrlwytho darllennydd gan Adobe. Cliciwch ar yr eicon uchod i fynd i'w safwe.

yn ôl i'r brig