Cynhaliwyd y Gynhadledd ar 31ain Mawrth yn Abertawe, ac fe fynychodd bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD) a chynrychiolwyr o’r heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a Chymorth i Ddioddefwyr o bob cwr o Gymru.
Rhoddodd gyfle i bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol glywed am yr hyn y mae asiantaethau cyfiawnder troseddol yn ei wneud i wynebu troseddau casineb homoffobaidd, a chynnig awgrymiadau am ffyrdd i gynyddu hyder yn y broses o wneud adroddiadau.
Cafodd ei ddisgrifio gan un cynadleddwr fel: “Cyfle gwych i ddysgu mwy a rhwydweithio gyda chyrff cyhoeddus, unigolion tebyg eu meddwl, gan uno er mwyn canolbwyntio ar fater pwysig sy’n cael ei rannu gan gymaint o bobl amrywiol!”
Meddai Jenny Porter, Swyddog Cyswllt Cymunedol Stonewall Cymru “Roedd yn ddiwrnod ardderchog, ac mae wedi cynhyrchu nifer o argymhellion ar gyfer y camau nesaf i ddatblygu partneriaethau a chynyddu hyder a nifer yr adroddiadau am droseddau casineb homoffobaidd.”
Cliciwch yma i ddarllen Adroddiad Cynhadledd Ochr yn Ochr, a’r Argymhellion am y Camau Nesaf ar gyfer yr Heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, Cymorth i Ddioddefwyr a phobl LHD
| Ffurf PDF | ||
I ddarllen dogfennau ar ffurf pdf, efallai y bydd angen i chi lawrlwytho darllennydd gan Adobe. Cliciwch ar yr eicon uchod i fynd i'w safwe. |
||
| Cysylltiadau Perthnasol | ||
| Diogelwch - Adroddiad Cynhadledd Stonewall Cymru 2007 | ||