Rydych chi yma > Stonewall Cymru | Stonewall | Stonewall yr Alban
04 Rhagfyr 2008
Map o'r safle

Newyddion

Cyfrannwch Nawr

 

Stonewall Cymru yn 'Gweiddi ALLAN' yn y Mardi Gras

Mae Stonewall Cymru yn lansio ymgyrch cymunedol newydd cyn Mardi Gras Caerdydd-Cymru dydd Sadwrn.

Bydd ymgyrch Gweiddi ALLAN yn annog pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD) i ddweud eu dweud am fywyd hoyw yng Nghymru. O droseddau casineb i ofal iechyd, addysg i gyflogaeth, mae Stonewall Cymru yn annog pobl lesbiaidd a hoyw i gyfranogi mewn ymgyrchoedd dros hawliau hoyw a rhannu eu profiadau o fod yn lesbiaidd, hoyw a deurywiol yng Nghymru'r 21ain ganrif.

Meddai Liz Morgan, Cyfarwyddydd Stonewall Cymru, "Mae bywydau pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yng Nghymru wedi newid yn syfrdanol yn ystod y blynyddoedd diweddar. Rydym am glywed gan bobl sydd â'u bywydau wedi'u trawsnewid gan ddatblygiadau deddfwriaethol diweddar, megis Partneriaethau Sifil a'r rheoliadau 'nwyddau a gwasanaethau'. Ond rydym hefyd yn cydnabod nad yw pawb yn rhannu'r un profiadau, ac y gall rhai pobl fod yn parhau i ddioddef aflonyddu a chamwahaniaethu.

"Mae Gweiddi ALLAN am roi llais i bobl lesbiaidd a hoyw. Bydd y lleisiau hyn gyda'i gilydd yn ein cynorthwyo i dargedu ein gwaith mewn ardaloedd lle gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol."

Mae 3 ffordd o Weiddi ALLAN gyda Stonewall Cymru. Ewch at y stondin yn y Mardi Gras a llenwch ffurflen Gweiddi ALLAN, Gweiddi ALLAN ar-lein ar stonewallcymru.org.uk neu ymuno â grwp Facebook Stonewall Cymru a dechrau trafodaeth ar-lein.   

Ychwanegodd Liz, "Mae'r Mardi Gras yn creu cyffro o fewn y gymuned lesbiaidd a hoyw felly mae'n adeg berffaith i lansio ymgyrch sy'n cynnwys y gymuned gyfan."




Ffurf PDF
Get Adobe Reader

I ddarllen dogfennau ar ffurf pdf, efallai y bydd angen i chi lawrlwytho darllennydd gan Adobe. Cliciwch ar yr eicon uchod i fynd i'w safwe.

yn ôl i'r brig