Rydych chi yma > Stonewall Cymru | Stonewall | Stonewall yr Alban
03 Rhagfyr 2008
Map o'r safle

Newyddion

Cyfrannwch Nawr

 

'Defnyddiwch eich Pleidlais!', meddai Stonewall Cymru

Cynhelir yr Etholiadau Cyngor Lleol ar ddydd Iau 1af Mai ac mae'n bwysig i chi ddefnyddio'ch pleidlais yn ddoeth.

Mae Stonewall Cymru yn annog etholwyr lesbiaidd, hoyw a deurywiol yng Nghymru i bleidleisio dros ymgeisydd a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Meddai Liz Morgan, Cyfarwyddydd Stonewall Cymru, "Mae'r etholiadau cyngor lleol yn ffordd dda o godi'ch llais am y materion sy'n bwysig i chi. Heriwch eich ymgeiswyr lleol a gofynnwch iddynt beth y gallant ei wneud dros bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn eich cymuned. Gall eich pleidlais wneud gwahaniaeth."

Am awgrymiadau ar sut i lobïo eich Cynghorydd neu Aelod Cynulliad lleol ewch at www.stonewallcymru.org.uk/community




Ffurf PDF
Get Adobe Reader

I ddarllen dogfennau ar ffurf pdf, efallai y bydd angen i chi lawrlwytho darllennydd gan Adobe. Cliciwch ar yr eicon uchod i fynd i'w safwe.

yn ôl i'r brig