Llawer mwy o hunan-niweidio a hunanladdiad na'r boblogaeth fenywaidd ehangach.
Lefelau uwch o ddefnydd o gyffuriau ac yfed trwm.
Bron i hanner lesbiaid Cymru yn parhau i adrodd am brofiad negyddol diweddar gyda'r GIC.
Mae'r arolwg sylweddol cyntaf i'w gynnal i iechyd menywod lesbiaidd a deurywiol ym Mhrydain yn datgelu lefelau difrifol o hunan-niwed, cam-drin sylweddau, ac eithriadau rhag profion rheolaidd am ganser cerfigol. Awgryma Presgripsiwn am Newid, arolwg o 6,000 fenywod lesbiaidd a deurywiol ledled y DG, bod y gwasanaethau iechyd yn methu adnabod anghenion gofal iechyd penodol ymysg y boblogaeth lesbiaidd o 1.8 miliwn yn y DG. Nid ydynt chwaith yn wynebu anghenion iechyd meddwl penodol y mae nifer o fenywod yn parhau i'w ddioddef o ganlyniad i gamwahaniaethu.
Mae'r arolwg, y mwyaf o'i fath i'w gynnal erioed y tu hwnt i America, yn darparu ystadegau newydd unigryw ar iechyd meddwl, arferion yfed a defnydd cyffuriau menywod lesbiaidd a deurywiol ym Mhrydain yn 2008:
Yn sgil amddiffyniad deddfwriaethol newydd a gyflwynwyd yn 2007 daeth yn anghyfreithlon camwahaniaethu yn erbyn menywod lesbiaidd a deurywiol wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Serch hynny mae bron i'r hanner yn parhau i adrodd eu bod wedi dioddef profiadau negyddol yn y sector iechyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Meddai bron i bymtheg y cant o fenywod lesbiaidd a deurywiol dros 25 yng Nghymru - bron yn ddwbl y nifer o fenywod yn gyffredinol - nad ydynt wedi cael prawf ceg y groth erioed. 51 y cant yn unig a gafodd prawf ceg y groth yn y 3 blynedd ddiwethaf, o'i gymharu gyda 70% o fenywod yn y DG.
Ni ddatgelodd dros hanner menywod lesbiaidd a deurywiol Cymru eu cyfeiriadedd rhywiol wrth weithwyr proffesiynol gofal iechyd.
Meddai Liz Morgan, Cyfarwyddydd Stonewall Cymru: "Dylai canlyniadau'r arolwg hwn o bobl lesbiaidd a deurywiol achosi pryder i ymarferwyr gofal iechyd. Dylai'r canfyddiadau hefyd dynnu sylw'r GIC yng Nghymru at y ffaith bod angen iddynt wynebu eu dyletswydd statudol tuag at y menywod. Mae'r adroddiad hwn yn dangos angen clir y dylai'r ddyletswydd gwasanaethau iechyd cyfredol i ddarparu triniaeth gyfartal ar sail rhyw, ethnigrwydd ac anabledd, gael ei ehangu i gynnwys cyfeiriadedd rhywiol."
Mae'r adroddiad yn cynnwys deg argymhelliad allweddol ar gyfer y GIC i wella effeithiolrwydd darpariaeth gwasanaethau ar gyfer cleifion lesbiaidd a deurywiol. "Hyderwn y bydd Gweinidogion ac aelodau'r Cynulliad yn cymryd yr adroddiad hwn o ddifrif, ac yn cychwyn pwyso ar ddarparwyr gwasanaethau ledled Cymru i wynebu'r dystiolaeth amlwg o anghysondeb darpariaeth gwasanaethau sy'n cael ei ddatgelu gan yr ymchwil hwn," meddai Liz Morgan.
| Editor's Choice | ||
| Presgripsiwn am Newid (Yn Saesneg yn unig) Llawrlwytho [1,987 kb] |
||
| Presgripsiwn am Newid - Cymru (Cymraeg) Llawrlwytho [718 kb] |
||
| Ffurf PDF | ||
I ddarllen dogfennau ar ffurf pdf, efallai y bydd angen i chi lawrlwytho darllennydd gan Adobe. Cliciwch ar yr eicon uchod i fynd i'w safwe. |
||
| Related links | ||
| Iechyd | ||