Rydych chi yma > Stonewall Cymru | Stonewall | Stonewall yr Alban
03 Rhagfyr 2008
Map o'r safle

Traws cambria

Cyfrannwch Nawr

 

Gogledd

Mae'r adran hon yn cynnwys awdurdodau lleol: Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd a Wrecsam.
Mae'n cynnig gwybodaeth am grwpiau LHD, yn ogystal â rhai sefydliadau prif ffrwd sy'n cefnogi pobl LHD, wedi'u rhestru dan y categoriau isod.

Ar y Tudalen:

Digwyddiad Dweud Eich Dweud Gogledd Cymru

Ym mis Tachwedd 2007 cynhaliwyd digwyddiad Dweud Eich Dweud gan Stonewall Cymru, mewn partneriaeth gyda Phrosiect Pobl Ifanc Gorllewin Rhyl, ar gyfer bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol o bob oedran, o bob cwr o ogledd Cymru, er mwyn ymuno gyda Swyddogion Cydraddoldeb o'r 6 awdurdod lleol a darparwyr gwasanaeth eraill i drafod materion sy'n bwysig iddynt.

Cliciwch yma ar gyfer Adroddiad digwyddiad Dweud Eich Dweud.

Tu Mewn Tu Allan

Mae prosiect Tu Mewn Tu Allan Stonewall Cymru yn gweithio gyda phobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol ledled gogledd a chanolbarth Cymru er mwyn ymchwilio i'w profiadau o ddefnyddio gwasanaethau iechyd. Am fwy wybodaeth cliciwch yma.

Cefnogaeth a Chymdeithasu LHD

Mae grwpiau LHD yn cynnig cefnogaeth grŵp cymheiriaid, cyfeillgarwch a chymorth rhywun yn yr un sefyllfa ac sy'n wynebu materion tebyg, er mwyn ymdrin â'r teimladau o unigrwydd ac anawsterau cysylltiedig â 'dod allan' ac i ddelio gydag agweddau o gamwahaniaethu cymdeithasol. Mae egwyddorion a dyletswyddau hanfodol y grwpiau hyn yn debyg i sefydliadau grwpiau cymheiriaid eraill, megis Gingerbread, y sefydliad cefnogaeth ar gyfer teuluoedd un rhiant.

Cliciwch yma am wybodaeth ar Linellau Cymorth LHD.

Bi Cymru/Wales
Rhwydwaith cefnogaeth gymdeithasol Cymru ar gyfer pobl ddeurywiol a’r rhai sy’n meddwl efallai eu bod yn ddeurywiol.
Rhestr bost: http://uk.groups.yahoo.com/group/biwales
Ebost:bicymru@yahoo.co.uk
Testun: 07982 308812

Clwb Awyr Agored Hoyw
http://goc.uk.net/
www.northwalesgoc.org.uk
Mae'r Clwb Awyr Agored Hoyw yn gweithredu ledled Cymru ac yn darparu ystod eang o weithgareddau chwaraeon a hamdden yn yr awyr agored ac o dan do ar gyfer dynion a menywod LHDT. Mae'r gweithgareddau yn cynnwys cerdded, beicio, nofio, badminton, ayyb.
Am wybodaeth cysylltwch â: info@goc.uk.net
Ar gyfer Clwb Awyr Agored Hoyw Grwp Gogledd Cymru cysylltwch â Pete Burling on 01244 342066,  northwalesgoc@hotmail.com

Cymdeithas LHD Undeb Myfyrwyr Bangor - Balch PCB - Prifysgol Cymru Bangor
www.undeb.bangor.ac.uk/lgb
Mae Balch PCB yn cefnogi myfyrwyr LHDT o fewn Prifysgol Bangor ac Undeb y Myfyrwyr.
Cysylltwch â'r Swyddog LHD drwy ebost: lgbofficer@undeb.bangor.ac.uk  post: Swyddog LHD, Undeb y Myfyrwyr, Ffordd Deiniol, Bangor, Gwynedd LL57 2TM

Encompass
www.encompass.btik.com
Encompass yw'r grwp LHDT newydd ar gyfer ardal gogledd Cymru a Swydd Gaer. Dewch i gwrdd â chyfeillion newydd a bod yn rhan o grwp cefnogol a hwyliog mewn awyrgylch hamddenol a chyfeillgar.
 
Mae Encompass yn cyfarfod ar ddydd Mercher cyntaf bob mis am 7.30pm yng Nghaffi Cymunedol Cyngor ar Bopeth, Cable Street, Cei Connah, CH5 4DZ.
 
Am fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at: encompass@live.co.uk neu ewch at y wefan.

Sefydliad Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol Gogledd Ddwyrain Cymru
www.lgbandfriendsclub.btik.com
Mae Grwp Cymuned LHDT Wrecsam a'r Cyffiniau yn cynnal cyfarfodydd Clwb Cinio misol yn Wrecsam. Daw aelodau o ogledd / gogledd ddwyrain Cymru, Swydd Gaer, Swydd Amwythig, Glannau Merswy a Manceinion i'r ciniawau hyn.

Mae dau Glwb Cinio: Clwb Cinio LHD a Chyfeillion a'r Clwb Cinio Parlwr Pinc. Mae'r Clwb Cinio Parlwr Pinc yn cynnig cyfleoedd i bobl Lesbiaidd, menywod deurywiol, Traws-fenywod a'u cyfeillion benywaidd i gyfarfod.

Am fwy o wybodaeth am y grwp a'u gweithgareddau, ewch at y wefan neu cysylltwch â Keith Drury: Donkd333@aol.com neu 07834 776 603 neu'r Cadeirydd ar safeman5@aol.com


Mesmac Gogledd Cymru
www.mesmac-north-wales.co.uk
Mae Mesmac Gogledd Cymru yn darparu mynediad i ystafell sgwrsio ac amrywiaeth o ddigwyddiadau cymdeithasol yn ardal Gogledd Cymru.
 Llinell Gymorth - 01248 363431 ar agor Dydd Mawrth 7.00 - 9.00 pm, e-bost keith@mesmac.com. Post d/o Keith Parry, 2 Bryn Difyr, Bangor Gwynedd LL57 1HY

Grwpiau Pobl Ifanc

Fusion - Grŵp Ieuenctid LHDTA (14-19) - Sir y Fflint 
Mae Fusion (grŵp ieuenctid ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 - 19 oed, sy'n LHDTA) bellach yn cael ei gynnal yn Sir y Fflint! Bydd y grŵp yn cyfarfod bob yn ail wythnos ar nos Iau (am 7yr hwyr) a bydd yn cynnig cyfle i bobl ifanc LHDTA gymdeithasu a chyfarfod cyfeillion newydd mewn awyrgylch diogel, yn ogystal â darparu cefnogaeth cymheiriaid.

I wybod mwy (o ran lleoliad ayyb) cysylltwch gyda'r gweithiwr ieuenctid Mick Holt drwy ffonio 01352 758139 neu 07786126898 neu anfonwch ebost at mick.holt@flintshire.gov.uk ;
neu Louise Blackwell  drwy ffonio 01352 744002 neu anfon ebost at louise.blackwell@flvc.org.uk

ISIS - Grŵp Ieuenctid LHDTA (13-25) - Wrecsam
Grŵp cefnogol dan arweiniad cymheiriaid yw ISIS, ar gyfer pobl rhwng 13 - 25 ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.  Ei nod yw clustnodi a wynebu materion perthnasol i ieuenctid Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsrywiol, Cwestiynu (LHDTC). Cynllunir sesiynau galw-i-mewn wythnosol yn fuan ar gyfer pobl ifanc LHDTC, er mwyn cymdeithasu a chwrdd â chyfeillion newydd mewn amgylchedd ddiogel, tra'n darparu cefnogaeth i'w gilydd. Bydd y grŵp yn cael ei redeg gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc, gan ofyn iddynt am eu dymuniadau a'u hanghenion, a gweithredu ar y wybodaeth honno.

Cysylltwch â Joshua Hughes ar e-bost: urieldivine@yahoo.co.uk neu drwy Laura Proffit, Swyddog Cefnogi Plant a Phobl Ifanc yn: AVOW (Association of Voluntary Organisations in Wrexham),  Ty AVOW, 21 Egerton St, Wrecsam LL11 1ND, ffôn: 01978 318810.

Gweler adran Cefnogaeth a Chymdeithasu LHD am fanylion Cymdeithasau LHD Undeb Myfyrwyr lleol.

VIVA - Grŵp Ieuenctid LHD (14-25) - Rhyl, Sir Ddinbych
Mae VIVA yn wasanaeth i bobl ifanc LHD ym Mhrosiect Pobl Ifanc Gorllewin Rhyl. Mae'n cynnal 2 x grŵp wythnosol ar gyfer pobl LHD rhwng 14-25 oed, ac mae gwasanaeth un i un hefyd ar gael drwy apwyntiad. Mae gan VIVA lyfrgell adnoddau fach ac mae'n darparu hyfforddiant codi ymwybyddiaeth a chefnogaeth i sefydliadau lleol sy'n gweithio gyda phobl ifanc.
Cysylltwch drwy ebost: info@rhylyouth.co.uk, ffôn: 01745 351293, post: VIVA, Prosiect Pobl Ifanc Gorllewin Rhyl, 30 Bedford St, Rhyl, Sir Ddinbych LL18 1SY

Diogelwch

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth Diogelwch.

Heddlu Gogledd Cymru
Mae uned Amrywiaeth Heddlu Gogledd Cymru yn gweithio'n agos gyda'r gymuned LHDT. I gysylltu gyda Swyddog Amrywiaeth yr heddlu gallwch anfon ebost at Greg George : gregory.george@north-wales.police.uk neu ffonio 01745 588483 Est 40483 neu drwy'r post at Uned Amrywiaeth,  Heddlu Gogledd Cymru, Heol William Morgan, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy, Sir Ddinbych LL17 OHQ

Cyngor a Iechyd

Canolfan Cynghori'r Cyhoedd CAB
www.citizensadvice.org.uk
Mae Canolfan Cynghori'r Cyhoedd yn darparu cyngor cyfrinachol, annibynnol yn rhad ac am ddim gan swyddfeydd, meddygfeydd, ysbytai, colegau, carchardai a llysoedd. Mae'r cyngor yn cynorthwyo pobl i ddatrys eu problemau dyledion, budd-daliadau, cartrefi, cyfreithiol, camwahaniaethu, cyflogaeth, mewnfudiad, defnyddwyr a phroblemau eraill ac mae ar gael i bawb, beth bynnag fo'i hil, rhyw, rhywioldeb, oedran, cenedl, anabledd neu grefydd.
Am eich Canolfan leol cliciwch yma
Am gyngor CAB Arlein  cliciwch yma

Cynnwys
www.cynnwys.com
Mae Cynnwys yn cefnogi lesbiaid, dynion hoyw, pobl deurywiol a thrawsrywiol, pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl yng Ngwynedd a Mon. Bwriad Cynnwys yw cynorthwyo'r unigolion yma i gael gwell mynediad i gyngor a gwybodaeth yn y ddwy sir.

Lanswyd Adroddiad Terfynol Prosiect Cynnwys yng Nghaernarfon Dydd Gwener, 23 Mawrth 2007.  Prosiect Cynhwysiant Cymunedol yw Prosiect Cynnwys a sefydlwyd yn 2004 i gefnogi unigolion a grwpiau lleiafrifol, sef pobl anabl, pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig a lesbiaid, dynion hoyw, pobl deurywiol a thrawsrywiol
yng Ngwynedd a Môn i gael gwell mynediad at wasanaethau’r ddwy sir sy’n cynnig cyngor a gwybodaeth i’r cyhoedd.
 
Mae’r ddogfen hon yn ffrwyth llafur tair blynedd o waith ymchwil gan Dim Cynnwys. Gobeithiwn y bydd canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad yn adnodd defnyddiol i fudiadau sy’n cynnig gwasanaethau cyngor a gwybodaeth yn y ddwy sir, ac yn dylanwadu ar bolisiau a strategaethau lleol.

Cliciwch yma i fynd at wefan Cynnwys ac Adroddiad Terfynol Cynnwys 07

Ffon : 0845 6019686
Ebost: cynnwys@cynnwys.com
Post : Ty Silyn, Penygroes, Caernarfon, Gwynedd, LL54 6LY

Triongl Cymru
www.trianglewales.co.uk
Mae Triongl Cymru yn darparu cyngor a chefnogaeth Cartrefi ar gyfer pobl LHDT ledled Cymru.
Cysylltwch â'r Llinell Gymorth: 0808 801 0306
Ebost: contact@trianglewales.co.uk
Post: Triongl Cymru, 4 Dock Chambers, Stryd Bute, Caerdydd CF10 6AG

Rhieni

SPLAG Cymru - Cefnogaeth i Rieni i Lesbiaid a Hoywon
www.SPLAGWales.org.uk
Rhedir llinellau cymorth cyfrinachol ledled y DG yn wirfoddol gan rieni pobl LHD er mwyn cefnogi rhieni a'u plant
Llinell Gymorth Cymru - 0845 652 0321 neu 0845 652 0322 ar agor gyda'r hwyr a phenwythnosau
E-bostiwch: janet.jeffries@btinternet.com

Ni all Stonewall Cymru warantu cywirdeb, cyfrinachedd, na rhoi achrediad sicrwydd safon ar gyfer unrhyw wasanaeth a restrir.

Nid yw Stonewall yn derbyn cyfrifoldeb am gynnwys safleoedd allanol.



Dewis y Golygydd
Adroddiad Prosiect tu Mewn Tu Allan 
Lawrlwytho [2,075 kb]
Adroddiad digwyddiad Dweud Eich Dweud
Lawrlwytho [613 kb]

Ffurf PDF
Get Adobe Reader

I ddarllen dogfennau ar ffurf pdf, efallai y bydd angen i chi lawrlwytho darllennydd gan Adobe. Cliciwch ar yr eicon uchod i fynd i'w safwe.

Cysylltiadau Perthnasol
Digwyddiadau
yn ôl i'r brig