Rydych chi yma > Stonewall Cymru | Stonewall | Stonewall yr Alban
04 Rhagfyr 2008
Map o'r safle

Traws cambria

Cyfrannwch Nawr

 

De-Ddwyrain

Mae'r adran hon yn cynnwys awdurdodau lleol Blaenau Gwent, Penybont, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tydfil, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg. Mae'n cynnig gwybodaeth am grwpiau LHD, yn ogystal â rhai sefydliadau prif ffrwd sydd yn cefnogi pobl LHD, a restrir dan y categoriau isod.

Mae gan Caerdydd ei gwefan ei hun gyda manylion am ddigwyddiadau cyfoes yn y brifddinas ar www.cardiffscene.com/  a gwefan Mardi Gras www.cardiffmardigras.co.uk Ebost: info@cardiffmardigras.co.u

Yn yr adran hon:

  1. Grwpiau Pobl Ifanc

Cefnogaeth a Chymdeithasu LHD

Mae grwpiau LHD yn cynnig cefnogaeth grŵp cymheiriaid, cyfeillgarwch a chymorth rhywun yn yr un sefyllfa ac sy'n wynebu materion tebyg, er mwyn ymdrin â'r teimladau o unigrwydd ac anawsterau cysylltiedig â 'dod allan' ac i ddelio gydag agweddau o gamwahaniaethu cymdeithasol. Mae egwyddorion a dyletswyddau hanfodol y grwpiau hyn yn debyg i sefydliadau grwpiau cymheiriaid eraill, megis Gingerbread, y sefydliad cefnogaeth ar gyfer teuluoedd un rhiant.
Cliciwch yma am wybodaeth ar Linellau Cymorth LHD.

Bi Cymru/Wales
Rhwydwaith cefnogaeth gymdeithasol Cymru ar gyfer pobl ddeurywiol a’r rhai sy’n meddwl efallai eu bod yn ddeurywiol.
Rhestr bost: http://uk.groups.yahoo.com/group/biwales
Ebost:bicymru@yahoo.co.uk
Testun: 07982 308812

Border Women
www.borderwomen.org.uk
Rhwydwaith gymdeithasol yw Border Women ar gyfer lesbiaid yn ardal y ffin rhwng Cymru a Lloegr ger Llwydlo / Henffordd gyda chyfarfodydd, teithiau cerdded, nosweithiau cymdeithasol a chylchlythyr misol.
Cysylltwch drwy'r post: Border Women Blwch Post 42, Llwydlo, Swydd Amwythig SY8 1WD.

Cymdeithas LHDT Undeb Myfyrwyr Caerdydd,  Prifysgol Cymru Caerdydd
Mae LHDT Prifysgol Caerdydd yn cyfarfod bron bob dydd Mercher yn Undeb y Myfyrwyr, Park Place, Caerdydd.
Am fanylion, e-bostiwch lgbt@cardiff.ac.uk

Gay Bridgend
http://www.gaybridgend.com
Noson Hoywon a Lesbiaid ym Henybont  ar nos Sadwrn cyntaf bob mis, am fanylion pellach cysylltwch â'r  ebost: gaybridgend@gmail.com

Grŵp L&H Byddar - Clwb Dreigiau
Mae'r grŵp L&H Byddar yn cyfarfod ar Sadwrn cyntaf bob mis, am fanylion pellach cysylltwch â'r Ysgrifennydd, DRAGONS 6 Wentloog Road, Rhymni, Caerdydd. CF3 3LP

Prosiect Dyn
www.dynwales.org
Mae Prosiect Dyn yn darparu cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth ar gyfer dynion yng Nghaerdydd sy'n dioddef trais yn y cartref gan bartner.
Nodwch - os ydych chi neu unrhyw un o'ch teulu mewn perygl o achos trais yn y cartref neu unrhyw achos arall, ffoniwch yr heddlu bob tro ar 999."
Helpline: 0808 801 0321
Email: info@dynwales.co.uk

Clwb Awyr Agored Hoyw
http://goc.uk.net/
Mae'r Clwb Awyr Agored Hoyw yn gweithredu ledled Cymru ac yn darparu ystod eang o weithgareddau chwaraeon a hamdden yn yr awyr agored ac o dan do ar gyfer dynion a menywod LHDT. Mae'r gweithgareddau yn cynnwys cerdded, beicio, nofio, badminton, ayyb.
Am wybodaeth cysylltwch â: info@goc.uk.net Ar gyfer De Cymru cysylltwch ag Ian ar 02920 612853. Eu patrwm cerdded yw 4ydd Sul bob mis, ewch at : www.southwalesgoc.com am fanylion pellach


Cymdeithas LHDT Undeb Myfyrwyr Prifysgol Morgannwg
Am fanylion cyfoes am gyfarfodydd y gymdeithas myfyrwyr LHDT cysylltwch â Chris Williams drwy Undeb Myfyrwyr Prifysgol Morgannwg.
Post: Chris Williams, cymdeithas LHDT, Prifysgol Morgannwg, Pontypridd.


Cymdeithas LHDT Undeb Myfyrwyr Casnewydd, Prifysgol Cymru Casnewydd http://lgbtnewport.mysite.wanadoo-members.co.uk
Mae cymdeithas LHDT Prifysgol Casnewydd yn darparu cyfle i gyd-fyfyrwyr LHDT Casnewydd i gwrdd a mwynhau cyfarfodydd cymdeithasol a chael cyngor defnyddiol.
Am fanylion pellach cysylltwch â: lgbtnewport@hotmail.com

OLN Cymru
Mae OLN Cymru yn rhwydwaith hunan-gefnogol. Croesawir unrhyw fenyw hŷn sydd yn diffinio ei hun fel lesbiad ac sydd wedi ymrwymo at egwyddorion gwrth-gamwahaniaethu i fynychu’r cyfarfodydd cymdeithasol misol. 

Cynhelir cyfarfodydd ar 3pm - 7pm Sadwrn cyntaf bob mis yn Quaker Meeting House, 43 Charles Street, Cardiff.

Cysylltwch: OLN Wales, PO Box 2435, Cardiff, CF23 OBE
Ebost: oln@olnwales.org.uk


Grwp Cefnogaeth LHD Torfaen
Mae grwp cefnogaeth LHD Torfaen yn cwrdd ar ddydd Iau ola'r mis. Cysylltwch â Richard drwy ebost outintorfaen@hotmail.com neu 07707 398877 am fwy o fanylion

Woman2Women
Mae'r Grŵp Cefnogaeth Cymdeithasol hwn ar gyfer Menywod Hoyw 30+ yn cyfarfod yn fisol, am fwy o fanylion anfonwch ebost: w2wgroup2002@yahoo.co.uk

Womenzone
www.womenzonewales.co.uk
Sefydliad lesbiaidd yw Womenzone, yn cael ei redeg gan fenywod lesbiaidd ar gyfer menywod lesbiaidd, yn cynhyrchu cylchlythyr deu-fisol. Mae Womenzone hefyd yn ysgogi, cefnogi ac yn trefnu digwyddiadau ee: gwersylloedd syrffio, dawnsfeydd a brecwastau lesbiaidd misol.
Cysylltwch drwy Ganolfan Menywod Abertawe, 25 Stryd Mansel, Abertawe SA1 5SQ, ffôn 01792 411119 ebost: Womenzone@hotmail.co.uk

Pwyllgor LHDT TUC Cymru
www.wtuc.org.uk
Pwyllgor Undeb Llafur sy'n ymgyrchu ar ran bobl LHDT yn y gweithle.
wtuc@tuc.org.uk


Grwpiau Pobl Ifanc

Gweler adran Cymorth a Chymdeithasu LHD am fanylion Cymdeithasau LHD Undebau Myfyrwyr lleol.

The Rainbow Club - Torfaen
www.rainbow-club.org.uk/
Grŵp cefnogaeth a chyfeillio yw'r Rainbow Club, ar gyfer unrhyw berson ifanc o fewn ardal ddaearyddol De Ddwyrain Cymru sy'n profi problemau gyda'u rhywioldeb, boed yn hoyw, lesbiaidd neu ddeurywiol. Bwriad y clwb yw i bobl ifanc gefnogi ei gilydd wrth ddeall eu rhywioldeb, cynnig cyfeillgarwch a bod yn le i gasglu gwybodaeth neu gyrraedd at ddeunydd perthnasol ynglŷn â rhwydweithiau cefnogol eraill. Maent yn cwrdd rhwng 6-8pm bob dydd Mercher yn ardal Pont-y-pŵl ar gyfer digwyddiadau cymdeithasol, ac i drafod materion iechyd rhywiol. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â rainbowtorfaengroup@yahoo.co.uk

W.A.T.S - We all the same
Mae'r grŵp ieuenctid LHD yma o Gaerffili yn agored i unrhywun rhwng 14-22 mlwydd oed.
Ffoniwch Lynda am fwy o fanylion ar 07789 371564 neu anfonwch ebost: rossel@caerphilly.gov.uk


YouthLink Wales
www.youthlinkwales.org/
Mae Youthlink Wales yn fudiad gwirfoddol wedi ei sefydlu gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc er mwyn hybu Dewisiadau Bywyd Diogel drwy Addysg Cymheiriaid ar gyfer rhai rhwng 14 a 25 mlwydd oed yng Nghymru. Nid yw hwn yn grŵp penodol i gefnogi pobl LHD ond gall gefnogi wrth wynebu materion perthnasol. Cysylltwch â'r Tîm Gweinyddol ar 02920 885711

Diogelwch

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth Diogelwch.

Heddlu Gwent
Mae Uned Amrywiaeth Heddlu Gwent yn defnyddio cynllun True Vision er mwyn adrodd ar droseddau casineb, gweler www.report-it.org.uk am ffurflenni arlein.
I gysylltu gydag Adran Diogelwch Cymunedol ffoniwch 01633 642401 neu Katherine Phelps, Rheolwr Amrywiaeth 01633 642149. Pencadlys Heddlu Gwent, ffoniwch 01633 838111, post  Pencadlys yr Heddlu, Croesyceiliog, Cwmbran NP44 2XJ


Uned Cefnogaeth Lleiafrifoedd Heddlu De Cymru
Mae Uned Cefnogaeth Lleiafrifoedd Heddlu De Cymru yn gweithio'n agos gyda chymunedau LHDT, yn darparu cefnogaeth a chyngor i ddioddefwyr Homoffobia a Throseddau Casineb ac yn bwynt cyswllt uniongyrchol.
I gysylltu ag Uned Cefnogaeth Lleiafrifoedd Heddlu De Cymru yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg ffoniwch 02920 527377, ac ar gyfer Rhondda Cynon Taf a Merthyr ffoniwch 01443 743672.
I adrodd am ddigwyddiad Homoffobaidd gallwch ffonio'r llinell gyngor ac adrodd cyfrinachol ar: 0800 587 8973

Fforwm De Ddwyrain Cymru
blog: http://sewlgbforum.blogspot.com/

Mae Fforwm De Ddwyrain Cymru yn gweithio er mwyn grymuso pobl LHD sy’n byw yn ne ddwyrain Cymru, drwy eu galluogi i leisio’u anghenion a’u pryderon ynglŷn â darpariaeth gwasanaeth yn eu hardal. 

Bwriad y Fforwm yw sicrhau gwasanaethau addas ac atebol ar gyfer pobl LHD yn ne ddwyrain Cymru drwy annog rhwydweithio a chreu pwynt cyfathrebu rhwng y gymuned LHD, awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau prif ffrwd. Mae’r Fforwm yn cwmpasu 10 awdurdod lleol Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tydfil, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg. 

Rydym angen pob llais, barn a phrofiad er mwyn rhoi gwybodaeth i’r Fforwm, a byddwn yn falch iawn o groesawu pobl newydd.

Cciwch yma os hoffech ymuno â’r Fforwm.

Cyswllt:
d/o Mair Rigby
Swyddog Gweinyddol ac Allgymorth
Stonewall Cymru
Transport House
1 Heol Y Gadeirlen
Caerdydd 
CF11 9SP

Ebost: Mair.Rigby@stonewallcymru.org.uk
Ffôn: 029 20237744
http://sewlgbforum.blogspot.com/

Cyngor a Iechyd

Canolfan Cynghori'r Cyhoedd CAB
www.citizensadvice.org.uk
Mae Canolfan Cynghori'r Cyhoedd yn darparu cyngor cyfrinachol, annibynnol yn rhad ac am ddim gan swyddfeydd, meddygfeydd, ysbytai, colegau, carchardai a llysoedd. Mae'r cyngor yn cynorthwyo pobl i ddatrys eu problemau dyledion, budd-daliadau, cartrefi, cyfreithiol, camwahaniaethu, cyflogaeth, mewnfudiad, defnyddwyr a phroblemau eraill ac mae ar gael i bawb, beth bynnag fo'i hil, rhyw, rhywioldeb, oedran, cenedl, anabledd neu grefydd.
Am eich Canolfan leol cliciwch yma www.citizensadvice.org.uk/mac/index/getadvice.htm?
Am gyngor CAB Arlein  cliciwch yma www.adviceguide.org.uk


Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol
www.clsdirect.org.uk
Mae'r Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol yn cynorthwyo pobl sydd yn gymwys ar gyfer cymorth cyfreithiol er mwyn amddiffyn eu hawliau a chynorthwyo pobl sydd angen cyngor am dor-perthynas neu broblemau gyda dyledion, cartrefi, trais yn y cartref a budd-daliadau. Mae cymorth hefyd ar gael am loches a mewnfudo, addysg, cyflogaeth, materion iechyd meddwl a gofal cymunedol.
Ffôn: 08453454345

Ymddiriedolaeth Terrence Higgins - Caerdydd
Ymddiriedolaeth Terrence Higgins yw prif elusen HIV ac iechyd rhywiol y DG a'r mwyaf yn Ewrop. Maent yn cynnig ystod o wasanaethau ar gyfer pobl sy'n byw gyda HIV/AIDS, ac yn ymgyrchu ar gyfer gwell dealltwriaeth ymhlith y cyhoedd o faterion iechyd rhywiol. Maent hefyd yn cynnig addysg ac adnoddau gwybodaeth.
Mae THT Cymru Caerdydd ar agor rhwng 10am-5pm Llun - Gwe yn Canton House, 435-451 Cowbridge Road East, Treganna, Caerdydd  CF5 1JH.
Ffôn 029 20 666465
Ebost info.cymru@tht.org.uk


Triongl Cymru
www.trianglewales.co.uk
Mae Triongl Cymru yn darparu cyngor a chefnogaeth Cartrefi ar gyfer pobl LHDT ledled Cymru.
Cysylltwch â'r Llinell Gymorth: 0808 801 0306
Ebost: triangle@gwalia.com
Post: Triongl Cymru, 4 Dock Chambers, Stryd Bute, Caerdydd CF10 6AG


MindOut Cymru
MindOut Cymru
Rhwydwaith iechyd meddwl lesbiaidd, hoyw a deurywiol Cymru ar gyfer lesbiaid, dynion hoyw a phobl deurywiol sydd naill ai yn, neu wedi, dod i gysylltiad gyda gwasanaethau iechyd meddwl drwy fod yn ddefnyddwyr neu'n weithwyr, cyflogedig neu'n ddi-gyflog.  Mae'r gr?p yn cefnogi datblygiad ymrwymiad Mind i raglen ymwybyddiaeth hawliau iechyd meddwl lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD).
Mae'r grŵp yn:

  • Codi proffil lesbiaid, dynion hoyw a phobl deurywiol o fewn y gwasanaethau iechyd meddwl; a materion iechyd meddwl o fewn y gymuned LHD
  • Cynnal cyfarfodydd rheolaidd yng Nghymru
  • Gweithio tuag at ddatblygiad pecyn hyfforddiant wedi ei anelu at grwpiau a sefydliadau eraill.

Cysylltiadau:
Ffôn: 02920 - 39 51 23
ebost: mindoutcymru@mind.org.uk
Post: Mind Cymru
3ydd Llawr
Quebec House
Castlebridge
Cowbridge Road East
Caerdydd
CF11 9AB

Rhieni

Rhwydwaith Rhieni Lesbiaidd - Proud 2b mums
www.p2bmums.co.uk
Mae'r Grwp Cefnogaeth Cymdeithasol hwn ar gyfer Rhieni Lesbiaidd yn cyfarfod yng Nghaerdydd ar Sul olaf bob mis. Am fwy o wybodaeth anfonwch
Ebost at: hello@p2bmums.co.uk
Neu ffoniwch Helen ar 07974573693

SPLAG Cymru - Cefnogaeth i Rieni i Lesbiaid a Hoywon
www.SPLAGWales.org.uk Llinellau cymorth cyfrinachol yn cael eu rhedeg ledled y DG yn wirfoddol gan rieni pobl LHD. Cynnig gwybodaeth a chefnogaeth i rieni sydd yn yr un sefyllfa.
Llinell gymorth ar gyfer Cymru - 0845 652 0321 neu 0845 652 0322
E-bost: janet.jeffries@btinternet.com

Grwpiau Chwaraeon.

Clwb Pêl-droed Dreigiau Caerdydd.

www.cardiffdragonsfc.co.uk
Ein bwriad yw hyrwyddo cyfranogaeth mewn pêl-droed o fewn y gymuned LHDT yng Nghaerdydd, De Cymru a thu hwnt. Byddwn yn cyflawni hyn drwy sefydlu timau pêl droed LHDT gyfeillgar, 5 ac 11 bob ochr.
Croesawn bobl o bob oed, gallu a rhywioldeb. Mae gennym adain gymdeithasol weithgar, felly mae croeso i rai nad ydynt yn chwaraewyr ymuno i fwynhau'r digwyddiadau cymdeithasol a drefnir gan y Clwb (ee mynychu gemau pêl-droed, nosweithiau allan, prydau bwyd ayyb).
E-bost: info@cardiffdragonsfc.co.uk


Ni all Stonewall Cymru warantu cywirdeb, cyfrinachedd, na rhoi achrediad sicrwydd safon ar gyfer unrhyw wasanaeth a restrir.

Nid yw Stonewall yn derbyn cyfrifoldeb am gynnwys safleoedd allanol.



Dewis y Golygydd
Ninnau Hefyd! Adroddiad darpariaeth cefnogaeth cymunedol ac anghenion pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yng Nghymru (2004): lawrlwytho

Ffurf PDF
Get Adobe Reader

I ddarllen dogfennau ar ffurf pdf, efallai y bydd angen i chi lawrlwytho darllennydd gan Adobe. Cliciwch ar yr eicon uchod i fynd i'w safwe.

Cysylltiadau Perthnasol
Digwyddiadau
yn ôl i'r brig