Mae'r adran hon yn cynnwys awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro ac Abertawe. Mae'n cynnig gwybodaeth am grwpiau LHD, yn ogystal â rhai sefydliadau prif ffrwd sydd yn cefnogi pobl LHD, a restrir dan y categoriau isod.
Mae gan Abertawe ei gwefan ei hun, sydd yn ceisio darparu ffynhonnell wybodaeth ar gyfer cymuned LHDT Abertawe a'r cyffiniau, a chysylltiadau gyda gwasanaethau ac adnoddau sydd ar gael i bawb ar www.gayswansea.com/
Cefnogaeth a Chymdeithasu LHD
Mae grwpiau LHD yn cynnig cefnogaeth grŵp cymheiriaid, cyfeillgarwch a chymorth rhywun yn yr un sefyllfa ac sy'n wynebu materion tebyg, er mwyn ymdrin â'r teimladau o unigrwydd ac anawsterau cysylltiedig â 'dod allan' ac i ddelio gydag agweddau o gamwahaniaethu cymdeithasol. Mae egwyddorion a dyletswyddau hanfodol y grwpiau hyn yn debyg i sefydliadau grwpiau cymheiriaid eraill, megis Gingerbread, y sefydliad cefnogaeth ar gyfer teuluoedd un rhiant.
Cliciwch yma am wybodaeth ar Linellau Cymorth LHD.
Llinell Gymorth LHDT Cymru
www.lgbtcymruhelpline.org.uk Mae Llinell Gymorth LHDT Cymru yn wasanaeth gofal proffesiynol rhad ac am ddim ar gyfer pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol yng Nghymru sydd yn anelu i leddfu teimladau o unigrwydd cymdeithasol unigol a chryfhau cysylltiadau rhwng cymunedau LHDT yn ein holl ardaloedd. Rydym hefyd yn darparu gwybodaeth am wasanaethau LHDT, ac yn cefnogi teuluoedd a chyfeillion LHDT.
Llinell Gymorth - 0870 858828 ar agor Llun & Mer 7.00 - 9.00 pm (galwadau am 3.9c y funud) Ebost: lgbtcymruhelpine@fsmail.net
Bi Cymru/Wales
Rhwydwaith cefnogaeth gymdeithasol Cymru ar gyfer pobl ddeurywiol a’r rhai sy’n meddwl efallai eu bod yn ddeurywiol.
Rhestr bost: http://uk.groups.yahoo.com/group/biwales
Ebost:bicymru@yahoo.co.uk
Testun: 07982 308812
Dyfed Diners
www.dyfeddiners.freeuk.com/silent.htm
Mae'r Clwb Cinio misol hwn yng Ngorllewin Cymru yn rhoi cyfle i bobl hoyw gwrdd mewn awyrgylch gysurus, heb bwysau, dros bryd o fwyd a diod. Cynhelir cyfarfodydd mewn amrywiol leoliadau ledled Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion yng nghanol y mis ac ar benwythnosau . Hefyd mae Sadwrn Cymdeithasol ar ddechrau'r mis a Chinio Sul ar y diwedd.
Am fanylion, cysylltwch â philip_wathen@hotmail.com
MCLH De Cymru
www.lgcm.org.uk/
Mae MCLH De Cymru yn cynnig amgylchedd diogel a chroesawgar ar gyfer Cristnogion lesbiaidd a hoyw a'u cefnogwyr, gan greu cyfeillgarwch drwy gyfrwng digwyddiadau cymdeithasol a chyfarfodydd, a gynhelir ar y Gwener cyntaf a thrydydd Gwener bob mis ledled De Cymru.
Cysylltwch drwy ebost: john@berry7.fslife.co.uk , drwy'r post at MCLH De Cymru, Blwch Post 11, Pont-y-pŵl NP4 5WY, neu ffoniwch: 07719 644581
Out and About
Mae Out and About yn grŵp amgylcheddol LHDT sy'n edrych ar faterion amgylcheddol o ogwydd LHDT Cymreig ac yn datblygu cyfleoedd ar gyfer ystod o brosiectau ymarferol. Mae gweithgareddau hyd yma yn cynnwys holiadur ymchwil, grwpiau ffocws a gweithdai i edrych ar faterion penodol, taith o amgylch Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a thaith gerdded ar y Gogarth, Llandudno, cynlluniau ar gyfer taith i Ynys Bŷr.
Cysylltwch drwy'r ffôn : 01792 892768, ebost: rachauck@yahoo.co.uk
Cymdeithas LHDT Undeb Myfyrwyr Abertawe, Prifysgol Cymru, Abertawe
www.swansealgbt.org.uk
http://swansealgb.members.beeb.net
Mae Cymdeithas LHDT Prifysgol Abertawe yn darparu gweithgareddau cymdeithasol, ymgyrchoedd, sesiynau taro-i-mewn a chefnogaeth ar gyfer myfyrwyr LHDT ym Mhrifysgol Abertawe.
Cysylltwch drwy ebost: swanlgb@hotmail.com
post: Cymdeithas LHDT Prifysgol Aberawe, d/o Undeb y Myfyrwyr, Tŷ'r Undeb, PCA, Parc Singleton, Abertawe SA2 8PQ
Triongl Cymru
www.trianglewales.co.uk
Mae Triongl Cymru yn darparu cyngor a chefnogaeth cartrefi ar gyfer pobl LHDT ledled Cymru. Cysylltwch drwy'r Llinell gymorth: 0808 801 0306, ebost: contact@trianglewales.co.uk, post: Triongl Cymru, 4 Dock Chambers, Stryd Bute, Caerdydd CF10
Womenzone
www.womenzonewales.co.uk
Sefydliad lesbiaidd yw Womenzone, yn cael ei redeg gan fenywod lesbiaidd ar gyfer menywod lesbiaidd, yn cynhyrchu cylchlythyr deu-fisol. Mae Womenzone hefyd yn ysgogi, cefnogi ac yn trefnu digwyddiadau ee: gwersylloedd syrffio, dawnsfeydd a brecwastau lesbiaidd misol.
Cysylltwch drwy Ganolfan Menywod Abertawe, 25 Stryd Mansel, Abertawe SA1 5SQ, ffôn 01792 411119 ebost: womenzone@hotmail.co.uk
Grwpiau Pobl Ifanc
Gweler adran Cymorth a Chymdeithasu LHD am fanylion Cymdeithasau LHD Undebau Myfyrwyr lleol.
SYGNET (Grwp Ieuenctid LHDTC)
Gofod cymdeithasol, gwybodaeth a gweithgareddau ar gyfer pobl ifainc (14-25 oed) sy'n lesbiaidd, hoyw, deurywiol,trawsrywiol ac yn cwestiynu eu rhywioldeb yn Abertawe, Caerdydd, Porth Talbot a Sir Gaerfyrddin. Yn
darparu sesiynau un-ar-un yn ogystal a darpariaeth grwp ieuenctid.
Mae SYGNET yn digwydd mewn lleoliad ynghanol Abertawe. Amseroedd agor: 18.30-21.30 bob nos Wener - heblaw Gwener cyntaf bob mis
Ffoniwch amfanylion:
Swyddfa THT Cymru: Ymddiriedolaeth Terrence Higgins Cymru, YMCA, 1 Ffordd y Brenin, Abertawe, SA1 5JQ
Ffon: 01792 477 540 (A gofynnwch am weithyddion ieuenctid - Joseph Chambers neu Chloe Thomas)
Ebost: sygnet@tht.org.uk
Diogelwch
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth Diogelwch.
Heddlu Dyfed Powys
Mae Heddlu Dyfed Powys yn cwrdd yn chwarterol gyda chynyrchiolwyr cymunedau LHDT ac yn defnyddio cynllun True Vision ar gyfer adrodd ar droseddau casineb, gweler www.report-it.org.uk am ffurflenni ar-lein.
Neu cysylltwch â Karen ar 01267 226637 Est : HQ 637 ebost: karen.caulfield-jones@Dyfed-Powys.pnn.police.uk neu PC 79 Pat Jalloal Adran Diogelwch Cymunedol. Ffôn: 01970 612791 Est. 460 patrick.jalloal@dyfed-powys.pnn.police.uk neu drwy'r post at: Heddlu Dyfed-Powys, Pencadlys yr Heddlu, Blwch Post 99, Caerfyrddin SA31 2PF
Uned Cefnogaeth Lleiafrifoedd Heddlu De Cymru
Mae Uned Cefnogaeth Lleiafrifoedd Heddlu De Cymru yn gweithio'n agos gyda chymunedau LHDT, yn darparu cefnogaeth a chyngor i ddioddefwyr Homoffobia a Throseddau Casineb ac yn bwynt cyswllt uniongyrchol. I gysylltu ag Uned Cefnogaeth Lleiafrifoedd Heddlu De Cymru ym Mhenybont, Castell Nedd, Port Talbot ac Abertawe ffoniwch 01639 889125.
I adrodd am ddigwyddiad Homoffobaidd gallwch ffonio'r llinell gyngor ac adrodd gyfrinachol ar: 0800 587 8973
Cyngor a Iechyd
Canolfan Cynghori'r Cyhoedd CAB
www.citizensadvice.org.uk
Mae Canolfan Cynghori'r Cyhoedd yn darparu cyngor cyfrinachol, annibynnol yn rhad ac am ddim gan swyddfeydd, meddygfeydd, ysbytai, colegau, carchardai a llysoedd. Mae'r cyngor yn cynorthwyo pobl i ddatrys eu problemau dyledion, budd-daliadau, cartrefi, cyfreithiol, camwahaniaethu, cyflogaeth, mewnfudiad, defnyddwyr a phroblemau eraill ac mae ar gael i bawb, beth bynnag fo'i hil, rhyw, rhywioldeb, oedran, cenedl, anabledd neu grefydd.
Am eich Canolfan leol cliciwch yma www.citizensadvice.org.uk/mac/index/getadvice.htm?
Am gyngor CAB Arlein cliciwch yma www.adviceguide.org.uk
Ymddiriedolaeth Terence Higgins
www.tht.org.uk
Ymddiriedolaeth Terence Higgins yw prif elusen HIV ac AIDS y DG a'r mwyaf yn Ewrop. Maent yn cynnig ystod o wasanaethau ar gyfer pobl sy'n byw gyda HIV/AIDS, ac yn ymgyrchu ar gyfer gwell dealltwriaeth ymhlith y cyhoedd o faterion iechyd rhywiol. Maent hefyd yn cynnig addysg ac adnoddau gwybodaeth.
Mae THT Cymru Abertawe ar agor rhwng 10am-5pm Llun - Gwe yn 109 Heol Walter, Abertawe SA1 5QQ. Cysylltwch â Joseph Chambers yn swyddfeydd Ymddiriedolaeth Terrence Higgins,
Ffôn 01792 477540
Ebost thtswansea@ukonline.co.uk
Rhieni
SPLAG Cymru - Cefnogaeth i Rieni i Lesbiaid a Hoywon
www.SPLAGWales.org.uk
Llinellau cymorth cyfrinachol yn cael eu rhedeg ledled y DG yn wirfoddol gan rieni pobl LHD er mwyn cefnogi rhieni a'u plant.
Llinell gymorth ar gyfer Cymru - 0845 652 0321 neu 0845 652 0322 ar agor gyda'r hwyr ac ar benwythnosau
E-bost: janet.jeffries@btinternet.com
Ni all Stonewall Cymru warantu cywirdeb, cyfrinachedd, na rhoi achrediad sicrwydd safon ar gyfer unrhyw wasanaeth a restrir
Nid yw Stonewall yn derbyn cyfrifoldeb am gynnwys safleoedd allanol.
| Dewis y Golygydd | ||
| Ninnau Hefyd! Adroddiad darpariaeth cefnogaeth cymunedol ac anghenion pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yng Nghymru (2004): lawrlwytho |
||
| Ffurf PDF | ||
I ddarllen dogfennau ar ffurf pdf, efallai y bydd angen i chi lawrlwytho darllennydd gan Adobe. Cliciwch ar yr eicon uchod i fynd i'w safwe. |
||
| Cysylltiadau Perthnasol | ||
| Digwyddiadau | ||