'Dod Allan' yw'r ymadrodd cyffredin a ddefnyddir yn y gymuned eang lesbiaidd a hoyw er mwyn disgrifio y camau o ddod i ddygymod gyda'r ffaith fod gennych deimladau rhywiol ac emosiynol am rhywun o'r un rhyw â chi eich hunan, a dweud hynny wrth bobl eraill.
-
Mae eich cyfeiriadedd rhywiol - pwy yr ydych yn eu gweld yn atyniadol - yn bersonol ac ni ddylid ei fychanu nac ymosod arno.
-
Hyd yma mae cymdeithas yn gyffredinol wedi disgwyl y bydd eich cyfeiriadedd rhywiol tuag at y rhyw arall - heterorywiol - ac mae'r ffordd y mae cymdeithas yn gweithredu wedi'i seilio ar y disgwyliad hwnnw.
-
Gellir sylweddoli ar unrhyw oedran bod gennych deimladau rhywiol ac emosiynol am berson o'r un rhyw, ac nid oes un oedran yn haws nag unrhyw oedran arall.
-
Nid oes rhaid i chi ddweud wrth unrhywun sut yr ydych yn teimlo, ond os ydych yn penderfynu Dod Allan, chi ddylai benderfynu pryd a sut.
-
Mae angen dewrder yn aml wrth benderfynu bod 'bod yn driw i'ch hunan' yn bwysicach i chi na'r posibilrwydd o gamwahaniaethu gan bobl eraill.
-
Mae'r profiad o dweud wrth rywun arall am eich cyfeiriadedd rhywiol yn rhywbeth nad oes rhaid i unrhywun heterorywiol ei wneud, ac felly yn aml bydd pobl yn chwilio am gefnogaeth oddi wrth eraill sydd yn lesbiaidd neu hoyw, boed yn gyfeillion neu yn linellau cymorth.
-
Gall ei gyhoeddi yn wyllt mewn dadl fod yn drychinebus.
-
Mae Dod Allan i deulu a/neu rieni yn aml yn sialens anodd ond gall paratoi ac ymchwilio eich cynorthwyo i gadw meddwl clir.
-
Sicrhewch bod cefnogaeth gerllaw ar eich cyfer chi ac ar gyfer yr un sy'n gwrando, er mwyn medru siarad naill ai yn lleol neu drwy'r ffôn - megis rhif ffôn llinell gymorth a redir gan rieni pobl LHD eraill.
-
Cofiwch, yn yr un modd ag yr oedd angen amser arnoch i ddygymod â phethau yn eich pen, mae'r un sy'n gwrando hefyd angen amser.
-
Gweithred ddewr yw penderfynu bod 'bod yn driw i'ch hunan' yn bwysicach i chi na barn pobl eraill - ond mae'n bosibl nad yw'r un sy'n gwrando mor ddewr â chi. Efallai eu bod wedi dyfalu am eich rhywioldeb ac wedi penderfynu cadw'n dawel.
-
Os yw'r sawl sy'n gwrando yn gwrthod eich newyddion nid yw o reidrwydd yn eich gwrthod chi, ond yn ofni cael ei g/wrthod ei hunan gan gymdeithas.
-
Byddwch yn barod am gwestiynau megis: 'Beth wnes i o'i le? Ai arnaf i mae'r bai?' Byddwch yn barod i gynorthwyo'r un sy'n gwrando i siarad am y mater gyda'ch gilydd.
-
Byddwch yn barod ar gyfer unrhyw ymateb, gall pobl yr ydych yn meddwl eu bod yn homoffobaidd ymateb yn llawer mwy goddefgar na ddisgwylid.
-
Weithiau mae ofn ymateb gwael i Ddod Allan yn llawer iawn gwaeth na'r ymateb a dderbyniwch.