Rydym am sicrhau bod gan etholwyr lesbiaidd, hoyw a deurywiol yr holl wybodaeth sydd ei angen arnynt er mwyn gwneud dewis deallus yn y bwth pleidleisio yn Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2007 ar ddydd Iau 3 Mai 2007.
Ar y dudalen hon mae'r holl wybodaeth sydd ei angen arnoch am Ymgyrch Etholiadol Stonewall Cymru:
Mae ein maniffesto yn rhestru pump o alwadau ar gyfer Cymru well:
Cardiau Post 'Defnyddiwch Eich Pleidlais'
Rydym wedi cynhyrchu dau gerdyn post er mwyn annog etholwyr LHD i bleidleisio dros ymgeisydd a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Mae'r ymgyrch 'Defnyddiwch Eich Pleidlais' yn annog pobl lesbiaidd a hoyw i holi ymgeiswyr posib am eu hymrwymiad tuag at gydraddoldeb hoyw, a gofyn sut y byddant yn symud y gwaith hwnnw yn ei flaen yn eu hetholaeth. Gall etholwyr lesbiaidd a hoyw anfon y cardiau post hyn at ymgeiswyr er mwyn darganfod beth yw eu safbwynt ar faterion allweddol.
Cliciwch ar y cysylltiad isod i weld ein cerdyn post 'Defnyddiwch Eich Pleidlais'.
Cliciwch ar y cysylltiadau isod er mwyn gweld ein cerdyn addunedu. Gallwch ei anfon at eich AC er mwyn darganfod ei safbwynt ar faterion hoyw.
Am gopïau caled anfonwch ebost at Cymru@stonewall.org.uk
Anogwn pob etholwr LHD, a chefnogwyr, i ystyried yn ofalus pa ymgeisydd sydd wedi cefnogi neu wrthwynebu hawliau hoyw. Gallwch ebostio neu bostio ein cardiau post Maniffesto Etholiadol i bob ymgeisydd a gofyn iddynt am eu hymrwymiad tuag at hawliau hoyw.
Cliciwch yma am gyngor ar lobïo eich AC.
Cliciwch yma am y rhestr o'r ymgeiswyr er mwyn gweld a'r etholaethau unigol o fewn y rhanbarth.
Cliciwch ar y cysylltiadau isod er mwyn darganfod mwy am y 4 prif blaid yng Nghymru:
I'n cynorthwyo gyda'n gwaith lobïo ac ymgyrchu yn y dyfodol, hoffem derbyn copi o'r llythyr a anfonwyd at eich AC, ac unrhyw atebion y byddwch yn eu derbyn. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn gosod rhywfaint o'r wybodaeth hon ar ein gwefan.
Y Maniffesto Cydraddoldeb Cymru
Y Maniffesto Cydraddoldeb cyntaf i greu am Gymru. Mae’r maniffesto hwn wedi’i gynhyrchu gan bartneriaeth o sefydliadau cydraddoldeb yng Nghymru. Cliciwch yma am fwy wybodaeth.
* Nid yw Stonewall yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros gynnwys safleoedd allanol.
| Dewis y Golygydd | ||
| Getting Equal - Gellir llwytho ymateb Stonewall Cymru i'r ymgynghoriad Deddf Cydraddoldeb i lawr drwy glicio ar y cysylltiad isod. lawrlwytho |
||
| Sicrhau Cydraddoldeb: Sut y gall gwasanaethau iechyd gyflawni anghenion pobl lesbiadd, hoyw y deurywiol lawrlwytho O'r tu allan i'r tu mewn: Sut y gall gwasanaethau tai gwrdd ag anghenion pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol lawrlwytho |
||
| Ffurf PDF | ||
I ddarllen dogfennau ar ffurf pdf, efallai y bydd angen i chi lawrlwytho darllennydd gan Adobe. Cliciwch ar yr eicon uchod i fynd i'w safwe. |
||
| Cysylltiadau Perthnasol | ||