
P'un ai wedi derbyn gwasanaeth o'r radd flaenaf neu wedi cael triniaeth annheg, hoffem glywed oddi wrthych.
Beth am weiddi ALLAN am eich barn a'ch profiadau ar unrhyw beth o droseddau casineb i ofal iechyd, cyflogaeth i addysg, a'n cynorthwyo i wella bywydau pobl LHD yng Nghymru. Rydym hefyd yn croesawu eich barn ar sut mae pobl LHD yn dod ymlaen yn y cyfryngau yng Nghymru.
Gweiddwch ALLAN gan ddefnyddio'r ffurflen adborth isod*.
* Mae'r hyn a ddywedwch wrthym yn gyfrinachol. Nid oes angen i chi ddefnyddio eich enw cywir. Ni fyddwn yn datgelu eich manylion cyswllt wrth drydydd parti. Gellir cyhoeddi rhai cyfraniadau Gweiddi ALLAN ar y wefan. Gellir defnyddio eich profiadau yn ddienw mewn cyhoeddiadau ac adroddiadau gan Stonewall yn y dyfodol. Mae Stonewall Cymru yn cadw'r hawl i olygu cyfraniadau Gweiddi ALLAN.