Anghenion gofal iechyd lesbiaidd, hoyw a deurywiol

Pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol: camwahaniaethu ac effaith ar anghenion gofal iechyd cyffredinol

Weithiau mae gweithwyr gofal iechyd, gwneuthurwyr polisi, a chleifion yn rhagdybio nad oes gan bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD) anghenion iechyd unigryw o ganlyniad i'w cyfeiriadedd rhywiol. Nid yw hyn yn wir, fodd bynnag. Mae ymchwil yn awgrymu bod gan bobl LHD bryderon penodol iawn nad ydynt o reidrwydd yn cael eu cyflawni gan ddarparwyr gwasanaeth.

Roedd Prosiect Tu Mewn Tu Allan Stonewall Cymru yn ymchwil cymunedol yn edrych ar brofiadau pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD) o ddefnyddio gwasanaethau iechyd yng ngogledd a chanolbarth Cymru, ac yn gweld mai pobl LHD eu hunain yw'r bobl sy'n deall orau am faterion iechyd sy'n berthnasol i bobl LHD eraill. Cynhaliwyd y prosiect rhwng Ebrill 2006 a Mawrth 2007. Mae'r canfyddiadau wedi eu dosbarthu'n eang ledled Cymru ac mae'r gwasanaeth iechyd a Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymateb i'r argymhellion.

Roedd dros hanner y bobl LHD a ymatebodd wedi datgelu eu cyfeiriadedd rhywiol ('dod allan') wrth ddefnyddio gwasanaeth iechyd, ond roedd eu hanner yn teimlo bod hyn wedi newid agwedd y darparwr gofal iechyd. Amrywiodd y profiadau o awyrgylch llai cyfeillgar i staff yn cywilyddio neu feirniadu.
 
Dywedodd mwyafrif llethol o bobl LHD y byddent yn cofrestru eu partner o'r un rhyw fel perthynas agosaf. Y rhesymau a roddwyd am beidio â gwneud hynny oedd ofn camwahaniaethu, ofn effaith ar y driniaeth a diffyg hyder y byddai eu cyfeiriadedd rhywiol yn cael ei gadw'n breifat.
 
Meddai nifer o bobl y byddent yn teimlo'n fwy hyderus wrth ddefnyddio gwasanaethau iechyd petai'r gweithwyr gofal iechyd yn rhoi statws cyfartal i berthynas cyfunrywiol yn eu llenyddiaeth a'u diwylliant.

Mewn ymateb mae Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi Cylchlythyr Iechyd Cymru Codi ymwybyddiaeth o anghenion a hawliau pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD) wrth ddefnyddio gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru. Mae'r canllawiau hyn yn cydnabod hawliau partneriaid o'r un rhyw o ran materion perthynas agosaf, ac yn ei gwneud yn glir nad yw'n dderbyniol tanseilio na bychanu perthynas cyfunrywiol wrth ddarparu gwasanaethau iechyd.

Mae'r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) hefyd wedi cyhoeddi taflen Amddiffyn cleifion, eich hawliau fel pobl Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol   sy'n gosod egwyddorion Arfer Da Meddygol, yn egluro bod gan bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yr un hawliau a phawb arall i gael gofal iechyd da, a darparu gwybodaeth ar y ffyrdd o ddweud wrth y GMC am unrhyw bryderon am arfer gwael.
 
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am anghenion gofal iechyd penodol pobl LHD, ac ymchwil perthnasol (Yn Saesneg yn unig)


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth


Os na fedrwch ddod o hyd i'r wybodaeth angenrheidiol ar y wefan hon, gallwch ffonio swyddfeydd Stonewall Cymru ar 029 20 237744 neu 01492 622202 neu linell wybodaeth Stonewall ar 08000 50 20 20 (Llun - Gwener 9:30am - 5:30pm) ac fe geisiwn eich cyfeirio at y man cywir.